20.5.26

Gwanwyn Cwmni Bro

Newyddion Cwmni Bro

Bydd gwanwyn prysur ar y gweill yma yn Cwmni Bro. Mae gennym weithwyr newydd yn ymuno â'r tîm, un yn canolbwyntio ar hanes a threftadaeth, a datblygu cymunedol. Bydd yn archwilio'r ffordd orau i ddal a rhannu'n hanes cyfoethog yma ym Mro Ffestiniog. Hefyd, bydd gweithiwr newydd yn edrych ar dyfu bwyd, gan bwysleisio pwysigrwydd cymunedoli ein cynnyrch a chyflenwad bwyd cyn gymaint â phosib a lleihau'r angen i fwyd deithio cyn cyrraedd ein byrddau.

Mae Kiki ac Erin yn brysur yn gweithio ar gynllun gwresogi Tanygrisiau. Maen nhw'n datblygu cynllun gwresogi ardal gan ddefnyddio arbenigedd y ddau sefydliad mawr sy'n gymdogion i'r pentref, defnyddio pibellau gwresogi ardal Rehau ac yn edrych i ddefnyddio gwres gweddilliol o Lyn Ystradau gyda help cwmni Engie. Ond yn gyntaf, maen nhw'n peilota beth fydd angen ar dai yn yr ardal drwy greu cynllun yng Nghambrian Terrace. Mae'r holl beth yn wirioneddol wych!

Bu Nina yn cynnal gweithgareddau hwyl ac addysgiadol yn ystod Gwanwyn Gwyrddni gyda theithiau ecoleg, cyfleoedd i arddio, dysgu am ffermio, a gorffen gyda thwrnament codi sbwriel. Ie, darllenoch chi'n iawn, y twrnament mwyaf “rybish” yn y byd, lle  oedd timau'n cystadlu i godi'r nifer fwyaf o fagiau ac ennill gwobr o £100!

Y sbwriel a gasglwyd gan griw y Clwb Rygbi. Llun Nina Gwyrddni
 

A beth well i feddwl amdano yn ystod cawodydd Ebrill ond y gwyl fwyaf glawiog hwyliog Ffestiniog fydd yn cael ei gynnal ym mis Medi 19-20fed eleni. 

Os ydych chi yn awyddus i fod yn rhan o'r datblygu cymunedol a cynlluniau cyffrous yn Stiniog cysylltwch cwmnibro@cwmnibro.cymru   am fwy o manylion 

- - - - - - - -

Addasiad o ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2026 

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon