STOLPIA
Blwyddyn Newydd Dda, a Dydd Calan Hapus!
Rŵan, pam yr ydym yn ei alw yn Ddydd Calan, meddech chi? Wel, yn ôl yr arbenigwyr, tarddiad y gair ‘calan’ yw’r gair calandae neu kalandae a ddaw o’r iaith Lladin, sef gair am ddiwrnod cyntaf pob mis o’r flwyddyn.
Bu hyn mewn defnydd am bob mis yng Nghymru gynt, ond bellach y tri pennaf yw Dydd Calan, Calan Mai, sef diwrnod cyntaf mis Mai, a ‘Calan Gaeaf’ am Dachwedd 1.
Gair sy’n tarddu o’r gair calan yw ‘calennig’, sef anrheg neu rodd a geir ar Ddydd Calan, neu ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Hyd at tua dechrau’r 1960au roedd ‘hel calennig’, neu ‘hel clennig’ ar lafar, ar ddechrau’r flwyddyn, sef galw o dŷ i dŷ yn eich ardal i ofyn am anrheg yn hen draddodiad yma ac yn y siroedd mwyaf Cymreig.
Heddiw, y mae’r gair yn hollol ddieithr i ran fwyaf o’r oes bresennol. Cofiaf fel y byddem ni’r hogiau yn y Rhiw a Glan y Pwll yn hel clennig yn yr 1950au, ac anelu’n gyntaf am y cartrefi hynny gyda’r modd mwyaf a wneid gan amlaf, er y byddid yn cael mwy gan y trigolion tlotaf yn aml.
Fel arfer, rhyw ychydig o gnau, minciag, cyflath neu oren a dderbynnid oddi wrth y cyfranwyr a byddem yn ddiolchgar amdanynt. Os cofiaf yn iawn, dyma’r rhigwm a glywid gennym pan eid o ddrws i ddrws:
Calennig a chalennig a Blwyddyn Newydd ddaneu
Calennig a Blwyddyn Newydd Dda, Llond y tŷ o dda.
Pa fodd bynnag, os gwrthodid rhoi clennig i ni, ac yn enwedig gan y rhai a fyddai braidd yn sarrug a phiwis efo ni, byddid yn ei adrodd fel hyn:
Blwyddyn newydd ddrwg, Llond y tŷ o fwg
- a gwadnu hi oddi yno am y tai nesaf a chyn 12:00 pan fyddai’r amser hel wedi dod i ben. Deallaf y byddid yn canu neu’n adrodd fel hyn yn ambell ardal:
Calennig yn galonogDyma un arall:
I blant bach sydd heb un geiniog
Y nghlennig, y nghlennig, Blwyddyn newydd dda i chwi,
Meistr a meistres a phawb trwy'r tŷ,
Welwch chwi'n dda roi Calennig i mi, Calennig!
- - - -
RHOD Y RHIGYMWR
Dyma ni wedi cyrraedd dechrau blwyddyn arall, a dyma fanteisio ar y cyfle i ddymuno blwyddyn newydd ddedwydd dda i bob un ohonoch.
Wrth fynd yn hŷn, mae’r duedd i edrych yn ôl ar yr hen ddyddiau yn dod yn naturiol i mi.
Yr arferiad ar fore Dydd Calan fyddai mynd o gwmpas y pentre i hel calennig. Mae’n debyg fod fy chwaer a minnau ymysg y rhai olaf o Gorris i wneud hynny. Byddai’n rhieni’n ein rhybuddio rhag mynd i ambell le, gan y bydden ni eisoes wedi derbyn calennig gan y sawl a drigai yno.
Ychydig geiniogau gaem ni ran fynychaf. Byddem yn ffodus ambell dro o gael chwe cheiniog neu swllt, ond weithiau, fe gaem ni ddeuswllt neu hanner coron - oedd yn swm sylweddol o arian bryd hynny. Y pennill fydden ni’n ei lafarganu oedd:
‘Fy nghlennig i, fy nghlennig iRoedd hi’n demtasiwn gennym, os na ddeuai neb at y drws, i weiddi:
A blwyddyn newydd dda i chi.
Mi godais yn fore, mi gerddais yn ffyrnig
At dŷ Musus ....... i ofyn am glennig.
Unwaith, dwywaith, teirgwaith,
A blwyddyn newydd dda i chi.’
'Blwyddyn newydd ddrwg, a llond y tŷ o fwg!'Cofiwn fynd i dŷ rhyw hen wreigan i ganu calennig. Doedd honno ddim yn enwog am ei glanweithdra, ond yn hen beth ffeindia’n fyw. Rhoddodd fagiad o gyflaith inni. Wedi diolch iddi a ffarwelio, rhoesom ychydig o’r taffi triog yn ein ceg. Roedd yn siwgr i gyd. Hwnnw wedi cydio yng ngwaelod y sosban a blas llosgi mawr arno. Wrth redeg i lawr y ffordd, ffling gafodd y cwdyn cyflaith dros y clawdd i gae Dafydd Tynewydd. Am hen blant anniolchgar yntê!
Symudodd rhyw frawd a chwaer di-Gymraeg i Fryn Awel yn y pentref, gerllaw i dŷ ein hewyrth a’n modryb. Daethom ninnau i ryw lun o’u hadnabod o’r herwydd. Roedd cael pobl o’r fath yn beth amheuthun yn niwedd y pumdegau pan oedd pawb bron yng Nghorris yn siarad Cymraeg. Mae pethau wedi newid yn syfrdanol yn y pentref bellach.
Ar fore Dydd Calan 1960, aethom i fyny’r grisiau cerrig at eu tŷ, a chyflwyno pennill Saesneg a ddysgodd rhywun i ni, ar yr alaw - o bob un dan haul - ‘Gwnewch Bopeth yn Gymraeg’:
‘The road is very dirty,Daeth yr hen fachgen at y drws gan ddweud wrthyn ni nad oedd ganddo geiniog yn ei feddiant, felly, dyma roi dime bob un inni. Y flwyddyn wedyn, pan aethom i Fryn Awel, dyma ganu’r un pennill, gyda’r llinellau canol wedi eu diwygio:
My shoes are very thin,
I haven’t got a pocket
To put my penny in.
If you haven’t got a penny,
A ha’penny we will do,
If you haven’t got a ha’penny,
Well God bless you!’
‘If you haven’t got a shilling,Digon ydy dweud nad atebodd y brawd y drws i blant mor bowld!
A sixpence we will do!’
Pennill arall i’w adrodd ar fore Dydd Calan y cofiwn ein Mam yn ei ddysgu i ni oedd hwn:
‘Calennig i mi, calennig i’r ffon,
Calennig i’w wario y flwyddyn hon,
Calennig i mam am glytio fy sane,
Calennig i nhad am drwsio fy sgidie.’
- - - - -
Rhannau o ddwy erthygl -gan Steffan ab Owain ac Iwan Morgan- a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2025
