Dyma rai o luniau o Gethin Roberts -enillydd Ysgoloraeth Rawson 2024 gan Gyngor Tref Ffestiniog ym Mhatagonia ym mis Tachwedd 2024.
Bu’n gwneud cysylltiadau â Chlwb Rygbi Bigornia yn Rawson a hefyd yn ymarfer gyda’r tîm. Cafodd Clwb Bigornia ei sefydlu yn 1971, ac mae’r clwb yn cymryd rhan mewn pencampwriaethau lleol yn ogystal â rhai rhanbarthol. Cafodd amser gwych dan nawdd y clwb a threfnwyd asado ffarwél iddo.
Cafodd gyfle i gyflwyno crys rygbi Clwb Rygbi Bro Ffestiniog i gyfarwyddwr chwaraeon Bwrdeistref Rawson, Gastón Williams, a rhoddodd Mauro De Nicola het Boca Juniors i Gethin.
Bu Gethin yn ymweld â Chapel Berwyn Rawson a dysgodd am hanes sefydlu Trerawson. Cymerodd ran yn y cwrs Cymraeg hefo Ivone (yr athrawes) a'r myfyrwyr. Cafodd groeso cynnes gan gymuned Gymraeg Capel y Berwyn a diolchwyd iddo am ei ymweliad.
Cerddodd Gethin gyda chriw lleol i ardal El Sombrerito-Rawson a dyma lun ohono ger y traeth yn Senderos de Sur.
- - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2024
Dolenni at hanes yr enillwyr eraill yn fan hyn

No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon