9.9.25

YDI’R ZIP YN AGORED i syniadau'r gymuned?

Mae galwadau am sefydlu 'Cronfa Gymunedol' wedi dod yn sgil cais cwmni Zip World am £6.2 miliwn o arian gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU trwy gyfrwng Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Maen nhw eisiau datblygu atyniadau ychwanegol yn y Blaenau a Bethesda. Yn gefndir i’r cais mae’r ffaith fod cwmni Zip World wedi’i werthu yn Rhagfyr 2024 i Gwmni Dolphin Capitol am £100 miliwn!

Daw’r alwad am gronfa gymunedol yn sgîl ymchwil gan gwmni Foundational Economy Research, a’u hadroddiad "Chwe rheswm pam na ddylai Zip World gael £6.2 miliwn" (sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar eu gwefan). 

 

Bwrdwn yr adroddiad ydi y dylid “dyrannu cronfeydd cyhoeddus... i gynorthwyo prosiectau na fyddent fel arall yn cael eu cynnal. Ymhellach, dylid mynnu bod yn rhaid i ymgeiswyr am grantiau ddangos buddion cymunedol lleol sylweddol.” 

 

 

Mae’r chwe rheswm yn cynnwys, er enghraifft, fod Zip World yn gwneud digon o elw i fwrw ymlaen efo’r gwellianau ar eu costau eu hunain heb gael arian gan y trethdalwr; ac nad ydynt yn cyfrannu gwasanaethau defnyddiol na chyllid i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau y maen nhw’n weithredol ynddynt.

Diolch i Beca Roberts, sy’n gynghorydd sir yn Nyffryn Ogwen am gyfrannu’r darn isod am y trafodaethau am gronfa gymunedol.

Mae’r cwmni wedi mynd ati yn y ffordd arferol i gefnogi ei achos am gymorth ariannol trwy honni y bydd swyddi’n cael eu creu a thrwy sôn am y buddion a ddaw i ran y rhanbarth yn sgil gwariant gan bobl a fydd yn ymweld â’i atyniadau yng ngogledd Cymru. Mae hyn yn rhan o batrwm rheolaidd o gwmniau mawr yn derbyn arian cyhoeddus heb unrhyw dystiolaeth bendant fod yr arian yna yn cael effaith gadarnhaol yn economiadd ac yn gymdeithasol o fewn y cymunedau mae nhw'n gweithredu. 

Mae ymgyrch felly ar y gweill yng nghymunedau Ogwen a Bro Ffestiniog i alw ar Zip World i weithio efo'n cymunedau i sefydlu cronfa gymunedol.

Mae Zip World ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad ar becyn budd cymunedol, ac mae hyn yn gyfle hollbwysig i’r gymuned leisio barn ac i ddylanwadu ar y buddion posib y gallai’r prosiect eu cynnig i bobl leol.

Yn ystod sesiynau diweddar a drefnwyd gan Zip World, daeth yn amlwg bod cryn ddryswch o ran beth yw pwrpas yr ymgysylltu. Yn hytrach na gwrando’n weithredol ar y gymuned, bu’r digwyddiadau hyn yn gyfle i’r cwmni gyflwyno eu syniadau presennol -yn hytrach na chreu gofod gwirioneddol ar gyfer barn y trigolion.

Mae'r syniad o sefydlu cronfa waddol gymunedol -cronfa barhaol fyddai’n cefnogi mentrau lleol yn Nyffryn Ogwen a Blaenau Ffestiniog- wedi’i godi dro ar ôl tro gan aelodau o’r cyhoedd ac arbenigwyr. 

Serch hynny, mae Zip World wedi gwrthod cynnwys syniad o’r fath yn eu pecyn budd cymunedol.
Mae’r pecyn budd cymunedol sydd wedi’i rannu hyd yma yn ymddangos, yn anffodus, fel un sy’n canolbwyntio ar fentrau fydd yn gwasanaethu anghenion y cwmni ei hun yn bennaf, yn hytrach na darparu buddion sylweddol a diriaethol i’r gymuned leol. Nid yw’n glir sut y bydd y buddion hyn yn cael eu rheoli, na sut y bydd cymunedau lleol yn elwa’n ymarferol ohonynt.

Er hynny, mae Zip World wedi nodi eu bod yn agored i adborth ar y ddogfen hon. Mae’n hanfodol felly bod trigolion lleol yn cael cyfle gwirioneddol i’w darllen a mynegi eu barn.

Os hoffech gopi o’r pecyn drafft, cysylltwch â: cynghorydd.ElfedWynapElwyn[AT]gwynedd.llyw.cymru neu cynghorydd.becaroberts[AT]gwynedd.llyw.cymru

Mae eich llais yn bwysig. Os ydych yn teimlo bod y buddion a gynigir gan Zip World ddim yn adlewyrchu anghenion eich cymuned -neu fod cyfleoedd pwysig wedi'u hanwybyddu- dyma’ch cyfle i ddweud hynny’n glir.

Yn y cyfamser, mae trafodaethau’n parhau’n lleol i sefydlu cronfa gymunedol wirioneddol ystyrlon, waeth beth fydd penderfyniad Zip World. Ond mae’n hanfodol bod unrhyw brosiect a gynhelir yn ein cymunedau yn adlewyrchu blaenoriaethau’r bobl sy’n byw yma.