Diolch i’r Cyng. Rory Francis am gychwyn yr alwad am gynghorwyr newydd yn rhifyn Rhagfyr o Senedd ’Stiniog. Parhau mae’r apêl. Beth well nag adduned blwyddyn newydd i roi’r hwb bach ’na mae rhywun ei angen i wneud rhywbeth o’r newydd, neu i ail-afael mewn rhywbeth yr oedd yn arfer ei fwynhau? Ydych chi’n un o’r bobl ’ma sy’n cwyno’n dragywydd, “
Tydi hyn ddim yn iawn…”, neu, “
Pam ddim ei wneud fel arall?”.
Neu, efallai, y byddech jyst yn dymuno rhoi ryw gyfraniad bach er lles eich cymuned? Efallai mai sêt yn y Senedd ydi’r ateb ichi. Dyma restr o’r Cynghorwyr sy’n eistedd ar eich Cyngor Tref ar hyn o bryd:
Ward Bowydd a Rhiw (5 Sedd)
Rory Francis, Morwenna Pugh (Is-Gadeirydd), Troy McLean, Peter Alan Jones, David Meirion Jones.
Ward Tanygrisiau (1 Sedd)
Dafydd Dafis.
Ward Conglywal (2 Sedd)
Mark Thomas, GWAG.
Ward Diffwys-Maenofferen (5 Sedd)
Gareth Glyn Davies, Dewi Prysor Williams, Geoffery Watson Jones, GWAG, GWAG.
Ward Cynfal-Teigl (3 Sedd)
GWAG, Marc Lloyd Griffiths (Cadeirydd), GWAG.
O graffu uchod, fe welwch fod pum sedd wag allan o un-ar-bymtheg! 30% mwy na heb. Rhywbeth mae rhywun wedi’i glywed ers blynyddoedd bellach, yw bod pobl ddŵad yn cymryd seddi ar gynghorau ac yn raddol newid iaith a natur y cymunedau hynny.
Os nad yw bobl leol yn fodlon llenwi’r seddi, dyma fydd yn siŵr o ddigwydd ym Mlaenau hefyd. Drwy ddifaterwch ddaw hyn. Apathi ydi’r gelyn. Fe sylweddolwch, o adnabod y Cynghorwyr uchod, nad oes rhaid byw yn y ward yr ydych yn ei chynrychioli chwaith ac mai dim ond un ferch sydd ar y Cyngor!
Os am fwy o fanylion am sut i ymuno, cysylltwch ag un o’r Clercod ar 01766 832398 neu piciwch mewn i’w gweld yn eu swyddfa yn y Ganolfan Gymdeithasol.
Yn y Cyfarfod Arferol, penderfynwyd cefnogi râs Sbrint Stiniog eto eleni, yn dilyn llwyddiant y llynedd, drwy dalu costau presenoldeb y St. Johns, a phenderfynwyd, hefyd, gefnogi ymgyrch Cyfle i Bawb 2025, Yr Urdd, drwy dalu i bedwar o unigolion lleol fynd ar wyliau gyda’r mudiad. Achosion teilwng, dwi’n siŵr y cytunwch.
Derbyniwyd Adroddiad gan ein llysgennad a fu ym Mhatagonia y llynedd, sef Gethin Roberts. Braf oedd clywed ei fod wedi mwynhau yno a bod yr Ysgoloriaeth wedi gwir ledu ei orwelion. Cafodd sawl antur fythgofiadwy. Rydym yn dathlu deng mlwyddiant eleni ers inni drefeillio gyda Rawson, a bwriedir cynnig ysgoloriaeth eto eleni; a'r 10fed o Ionawr (oedd y) dyddiad cau! Gallwch gael y manylion ar gyfer gwneud cais gan y Clercod.
Cyfarfod Mwynderau. Derbyniwyd gwybodaeth gan Swyddog Cyswllt Cyngor Gwynedd (Priffyrdd) am waith fydd yn cael ei wneud yn yr ardal dros y mis yma gyda sawl llwybr yn cael sylw. Mae’r Swyddog Cynnal a Chadw hefyd efo digon ar ei blât wrth addasu’r Cwt Canŵs, a da oedd cael gwybod bod ein caeau chwarae wedi dod drwy’r ystormydd diweddar heb fawr o ddifrod.
Yn 2025, gobeithiwn symud ymlaen gyda’r cynllun o osod MUGA [ardal chwarae aml-ddefnydd] yn y Parc, clirio, ac, efallai, osod Parc Sglefrio newydd ger Cae Peips gan fod yr hen un wedi mynd yn rhy beryglus, ond mae ’na lot o waith i’w wneud cyn hynny. Cyfnod prysur o’n blaenau.
Gallwch gael yr holl newyddion diweddaraf am waith eich Cyngor yma, fel arfer, yn y Llafar, neu, os yn well gennych, drwy… ddod yn Gynghorydd, a chael y newydd yn syth o lygad y ffynnon! Pam lai?
Hwyl am y tro, fy marn i’n unig.
DMJ
- - - - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2025