Y mae hi’n gofyn imi gamu’n ôl ychydig ymhellach na’r flwyddyn 1958 er mwyn adrodd yr atgofion nesaf gan mai yn Ysgol Glan-y-pwll y digwyddodd rhai o’r pethau hyn a groesodd fy meddwl yn ddiweddar. Os cofiaf yn iawn, gadewais yr ysgol gynradd tua 1957. Un o’r pethau hyn a ddaeth i’m cof wrth fynd am dro yn ddiweddar oedd gweld llwyni rhosod gwyllt a’r aeron coch arnynt, sef egroes, neu ‘mwcog’, fel y’i gelwir gan rai ohonom. Gelwid hwy hefyd wrth yr enw ‘cig y brain’ mewn ambell ardal, gynt.
Llun- Paul W |
Byddai ambell hogyn drwg yn rhoi pin bawd ar sedd ambell eneth a byddid yn clywed coblyn o sgrech dros y ‘stafell ddosbarth, ond gwae hwnnw os cai yr athro wybod pwy ydoedd. Cofiaf un hogyn yn dod â bom ddrewi (stink bomb) i gowt yr ysgol un tro, ond ar ôl i’r prifathro John Ellis Williams glywed am y peth, a chael llond ffroen o’r oglau, ni fu yr un yno wedyn. Ymhlith rhai o gastiau drwg, neu driciau budur gan rai o’r hogiau, oedd rhai yn rhedeg ar eich ôl a rhoi ‘coes fach’ ichi, sef cic pen-glin yn eich clun. Roedd hon yn gic boenus iawn i rai o’r hogiau llai. Hen dric sâl hefyd oedd dweud wrth un am afael yn ei botel lefrith a oedd yn dadmer ar y stof yn y gaeaf pan oedd gwaelod honno yn boeth. Yn ddiau, ceid llawer mwy o gastiau drwg ymhlith yr hogiau a’r merched y pryd hwnnw.
Pethau eraill y byddai rhai plant drwg yn ei wneud oedd chwarae triwant, a gwn am un achlysur lle gallasai hynny wedi bod yn dyngedfennol i dri o hogiau. Cofiwch, rwyf yn neidio’r blynyddoedd yn y rhan hon, ac i aeaf 1963. Roeddwn yn gweithio yn Ffatri Metcalfe y pryd hynny a phan glywais hanes y tri, ni fedrwn gredu’r stori. Fel eu bod o olwg pawb, anelodd y tri, sef TC a’r ddau gyfaill, BO a CT i fyny i Gwm Orthin a hithau yn rhew ac yn eira mawr. Wedi cyrraedd yno a threulio amser yn rhyfeddu at yr ysblander eiraog yn gorchuddio yr holl gwm, penderfynodd y tri gerdded ar draws hyd y llyn rhewedig o un pen i’r llall, ac nid hynny yn unig, bu’r tri yn neidio ar y rhew ynghanol y llyn.
Llun- Edward W. Roberts |
Diolch i ragluniaeth fawr y nef na ddarfu’r rhew dorri oddi tanynt neu mi fyddai wedi bod yn amen ar y tri ac ni fyddai neb ag amcan daear ymhle i chwilio amdanynt. Y mae dau o’r hogiau hyn yn dal i fyw yn yr ardal ond y mae’r olaf wedi gadael y fuchedd hon ers sawl blwyddyn bellach. Chwithdod mawr ar ôl yr hen gyfaill. Ceisiwch ddyfalu pwy oedd y tri ?
-------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2020.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon