Cynnydd ym mhris Llafar Bro
Diolch i lawer iawn o’n
darllenwyr am y geiriau caredig ynglŷn â Llafar
Bro ar ei wedd newydd, llawn lliw. Mae’r lluniau a’r cysodi newydd yn rhoi
diwyg arbennig o ddeniadol i bob rhifyn. Yr anfantais o foderneiddio wrth gwrs ydi’r
gost ychwanegol am argraffu. Mae’n
costio cannoedd yn fwy bob mis i gynhyrchu ein papur bro erbyn hyn, ac oherwydd
bod y gwerthiant wedi disgyn yn sylweddol ers cychwyn y fenter ym 1975, mae’n
rhaid i ni osgoi gwneud colled o fis i fis, neu byr iawn fyddai dyfodol Llafar
Bro.
Yn anffodus felly, bu’n
rhaid i ni godi’r pris i 80 ceiniog o rifyn Chwefror.
Gobeithio, serch hynny, y
cytunwch ei fod yn werth bob dima’, ac y byddwch yn parhau i’w brynu ac annog
eich cymdogion a’ch ffrindiau i brynu eu copi eu hunain bob mis. Mae llawer iawn o’r papurau bro eraill trwy
Gymru, wedi cynyddu eu prisiau hwy i bunt neu fwy.
Diolch o galon i holl
ddarllenwyr Llafar Bro, am eich
cefnogaeth werthfawr. Trwy ymdrech wirfoddol mae eich papur bro yn cael ei
gynhyrchu, ac mae croeso mawr i gefnogwyr newydd ymuno â’r tîm.
Llyn Conglog efo'r Moelwynion. Llun- Dewi Prysor |
Derbyn Llafar Bro ym mhen draw’r byd!
Er bod dau rifyn wedi
ymddangos eisoes yn 2020, tydi hi byth yn rhy hwyr i chi danysgrifio i dderbyn Llafar Bro bob mis, ble bynnag ydych yn
byw.
Gallwch dderbyn y papur
trwy’r post am £20 y flwyddyn yng Nghymru a gweddill Prydain; am £43 yng ngweddill Ewrop; neu am £50 yng ngweddill y byd!
Yr hyn sy’n newydd ac yn
gyffrous eleni am y tro cyntaf erioed, ydi y gallwch dderbyn rhifyn digidol
trwy e-bost bob mis, i unrhyw ran o’r byd am £20 yn unig!
Beth am brynu
tanysgrifiad i aelod o’r teulu, neu ffrind sy’n byw dramor? Neu os gwyddwch am
bobl Bro Stiniog sy’n byw dramor, be’ am dynnu eu sylw nhw at y tanysgrifiad
digidol newydd?
Ewch i'r dudalen danysgrifio i weld y manylion.
Diolch am gefnogi eich
papur bro.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon