23.6.13

STOLPIA

Newid ddaeth o rod i rod.

Yn sgil y newidiadau diweddar i Stryd Fawr y Blaenau, mae colofn Steffan ab Owain yn rhifyn Mehefin, yn ein hatgoffa bod newidiadau wedi bod yn digwydd i'r dref ers ei sefydlu.



Efallai nad yw llawer o’r to ifanc, nac amryw o rai hŷn, yn ogystal,yn sylweddoli y byddai tai a siopau ar ochr y Stryd Fawr nad oes sôn amdanynt, bellach. Er enghraifft, ceid tai yn lle mae canolfan Antur Stiniog (yr hen Goparet) a Siop Clothes Line heddiw.Yn ôl un o ganeuon Robert Roberts Isallt am yr ardal yn Cymru O.M.Edwards, ceid tri tŷ o dan un to yno ar un adeg a stiward Chwarel y Diffwys yn byw yn yr un canol.


Dywed hefyd mai dim ond cae a dôl  a oedd yma cyn datblygu’r dref  a chodwyd y tŷ cyntaf ar y ddôl gan Hugh Jones, Blaen Bywydd. Chwalwyd hwn mor bell yn ôl â’r flwyddyn 1867 a chodwyd Capel Jeriwsalem ar y fan lle safai.


Tybed faint ohonoch sydd  â chof  o Siop yr Iard , sef y siop fawr a safai ar y lle y mae maes parcio Coparet heddiw ac  yn gwerthu coed a nwyddau haearn . Yn ddiweddarach, bu gan gwmni Crosville le yno am rai blynyddoedd cyn symud at safle’r hen siediau trên yng Nglan-y-pwll. Y mae hi’n bur debyg mai ychydig o bobl sy’n cofio’r siop fach a werthai  sigaréts a meinceg a fyddai tros y ffordd i swyddfeydd y Cyngor ers talwm. Ceid hysbysebion ffilmiau ein  sinemâu lleol yn ei hochr. Os ydych am weld llun ohoni, piciwch i’r arddangosfa gan ein Cymdeithas Hanes sydd y drws nesaf i’r Eglwys Gatholig.  

Gallwch ddarllen yr erthygl gyfan yn rhifyn Mehefin 2013, ac mae Steff yn gaddo mwy yn rhifyn Gorffennaf. 

[llun- PW]

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon