14.4.25

Coed pinwydd yn ymledu dros y Manod

Diolch yn fawr i DR am dynnu’n sylw ni at y broblem yma yn y golofn Manion o’r Manod

Mae Cymdeithas Eryri wedi dod yn ymwybodol o’r broblem hon yn y blynyddoedd diwethaf. Yn araf deg, mae coed bytholwyrdd newydd tywyll yn lledaenu. Mae’n bosibl y byddan nhw, yn y pen draw, yn gorchuddio arwynebedd mawr o ucheldir Eryri. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n goed sbriws Sitka, ond mae yn binwydd camfrig a chedrwydd coch y gorllewin hefyd. Rhai o’r ardaloedd sydd wedi cael ei heffeithio waethaf yw’r tir uchel uwchben dyffryn Lledr a Mynydd Mawr. 

Nid yw’r rhain wedi cael eu plannu’n fwriadol, wrth gwrs. Maen nhw’n tyfu o hadau coed conwydd sydd wedi cael eu chwythu gan y pedwar gwynt o goed aeddfed o fewn planigfeydd presennol. Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem, mae Cymdeithas Eryri wedi dechrau trefnu dyddiau gwaith lle mae gwirfoddolwyr yn mynd allan efo llifiau llaw i reoli’r coed hyn, cyn iddyn nhw dyfu ac ymledu ymhellach. Rydan ni wedi trefnu dyddiau fel hyn ger Penmachno ac ar y Berwyn yn barod*.  


Dim ond yn reit diweddar nes i weld y golofn yma a dwi wrthi’n trio darganfod pwy sy’n ffermio’r tir yma ar ochr y Manod Bach. Ydych chi’n gwybod? Os felly, tybed a fyddech cystal â chysylltu ar fi ar 07539 322678 neu director@snowdonia-society.org.uk - mi fyddai Cymdeithas Eryri yn hapus i drefnu diwrnod neu ddyddiau gwaith i reoli’r coed hyn. 

Ydych chi wedi ystyried cymryd rhan mewn diwrnod gwirfoddoli Cymdeithas Eryri? 

Yn ogystal â rheoli coed conwydd ymledol, fyddwn ni’n hel sbwriel o lwybrau cerdded ar ochr Yr Wyddfa a Chadair Idris, yn rheoli jac y neidiwr ymledol, yn torri eithin sydd wedi tyfu o gwmpas henebion o’r oes efydd ac yn plannu coed brodorol. Mae’n ymarfer corff da, mae’n lot o hwyl ac mae o am ddim! Os hoffech chi gymryd rhan, ewch at ein gwefan ni sef: www.snowdonia-society.org.uk/cy/gwirfoddolwch

Rory Francis
- - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2025

- - - - - - 

 * Mae swyddogion y Gymdeithas wedi cydweithio efo Cyfoeth Naturiol Cymru fwy nag unwaith yn nalgylch Llafar Bro hefyd, gan ddod a llond bws mini o wirfoddolwyr i Gwm Greigddu ar gyrion y Rhinogydd. Gwaith gwerthfawr iawn i glirio coed conwydd rhag lledu i Warchodfa Natur Genedlaethol y Rhinog (Gol.)


 

9.4.25

Crwydro- Taith Lobsgows

Erthygl yn ein cyfres CRWYDRO, gan Iona Price

Pleser pur ydi dangos rhyfeddodau ardal ‘Stiniog i fobl sydd ddim yn gyfarwydd  gyda’r fro – a dyna beth wnes i gyda Cymdeithas Edward Llwyd ar Ionawr y 4ydd. 

Maes parcio Antur Stiniog oedd y man cychwyn.  Rhaid oedd cyfarch pawb trwy ddyfynnu Gwyn Thomas ‘Breichled o dref ar asgwrn y graig’. Byddai enwau’r mannau ar ein taith lawr i'r dref-Talwaenydd, Rhiwbryfdir, Glanypwll yn cyfleu gwlybaniaeth gweddill y tirwedd. O’n cwpas gwelem ddyfeisgarwch ein cyndeidiau yn rheoli’r gwlybaniaeth hwn. Ar yr un llaw,  ar gyfer anghenion   peiriannyddol y diwydiant llechi,  ac ar y  llaw arall trwy sychu’r tir i greu rhannau o’r dref.

I ddeall ein treftadaeth o drawsnewid tirwedd amaethyddol i dirwedd diwydiannol rhaid oedd gofyn i bawb ddychmygu’r tirlun cyn i John Whitehead Greaves lesio’r tir yn 1846. Dyma ni’n ôl yn Lechwedd ar y Cyd, hen dir comin gyda’i hawliau pori ac ambell grugiar. Anghofiwch unrhyw ffordd- does dim i'w nodi ond dau adeilad - Corlan a Thŷ Unnos.

Plas Waenydd sydd ar safle’r gorlan heddiw- corlan a addaswyd yn Dŷ Crwn i gartrefu’r teulu Greaves cyn iddynt adeiladu’r plas. Ymlaen â ni at y Tŷ Unnos. Dyma loches  JWGreaves am 3 blynedd tra bu’n ffrwydro tyllau yma ac acw cyn darganfod y wythien lechi a fyddai’n trawsnewid y tirwedd am byth. Heddiw mae’r tŷ unnos yng nghanol miri’r holl ymwelwyr, ond pan adeiladwyd, roedd o’n hollol anghysbell. Pwy fyddai wedi sylwi os gymerodd hi fwy nag un noson i gasglu cerrig y mynydd (winc,winc)?  Gan iddo gael ei eni a marw yn y tŷ hwn, cawsom hefyd stori David Francis, Y Telynor Dall a gafodd ei anafu yn y swyddfa gyflogau gerllaw.

Roedd Meg Thorman yn aros amdanom yn llannerch y Dref Werdd.  Yno cawsom gyflwyniad eithriadol o ddiddorol. Cawsom edmygu'r holl waith adfywio i alluogi bywyd gwyllt i ffynnu lle bu dim heblaw rhododendron a mieri. Rhaid oedd gwneud addewid i ddod a’r criw yn ôl yma cyn dod a chrwydro o amgylch y safle i ben. Cysylltwch gyda’r Dref Werdd i chwithau gael crwydro’r safle a chael hafan yn y cwt bendigedig.

Wrth ymlwybro’r Llwybr Llesiant newydd, cyrrhaeddasom Bant yr Afon. Roeddem wedi rhyw ddilyn Afon Barlwyd o’r rheadr gudd, heibio llanerch y Dref Werdd at y gwaith hydro arleosol sydd yn parhau i reoli llif y dŵr i greu ynni. Yma hefyd  rhaid oedd dychmygu y tirlun a fu ar lannau Barlwyd– yn cynnwys mynachlog, cartrefi cynnar y chwarelwyr a steshion Dinas, y gyntaf yn y dref -wedi’u claddu  heddiw dan y domen lechi 

A dyma ni erbyn hyn wedi cyrraedd y gwlybdiroedd wed’u sychu -Cwm y Pryfaid- mae’r cliw yn yr enw. Wrth  gyffordd yr A470 yn Rhiw newidwyd y pwyslais i ddiwylliant ein bro trwy dynnu sylw at safle Llys y Delyn, y cwt bychan lle bu David Francis yn hyfforddi telynorion (‘Neuadd fawr rhwng cyfyng furiau’ chwedl Waldo.) Cyfeirio’n fras at Gapel Salem, Côr y Moelwyn ac Ysbyty Louisa Oakley, cyn brysio i gyfarfod Dafydd Roberts ger Capel Rhiw. Diolch iddo am ei gyflwyniad ar waith David Nash. Braint yw gwrando ar rhywun sydd wedi bod mor allweddol o ran cartrefu y gwaith celf byd enwog. Nid oedd yn ymarferol rhoi sylw i waith Clare Langdown yng Nghapel Rhiw. Mae’n  bechod bod yr unig ddarn o’i gwaith a gomisiynwyd I'w arddangos yn lleol wedi’i symud o’r golwg.

Erbyn inni ymlwybro i ganol y dref trwy’r steshion a mynd heibio gwaith celf Howard Bowcott a Lleucu Gwenllian yn Sgwar Diffwys, roedd hi’n amser lobsgows yng Nghaffi’r Gorlan. Heb son am y lobsgows a’r cacennau blasus, rhoddodd croeso Eleri a Gwen wên ar wyneb pawb. Wedi’r ymdrech i gorlannu’r criw o le i le, roeddem wedi cychwyn a gorffen mewn Corlan.

Y trysor olaf cyn troi am adra oedd y diweddaraf -murlun godidog Sam Buckley a Kaz Bentham (llun uchod), ac arno [fersiwn o] eiriau Gwyn Thomas a ddyfynwyd ar gychwyn y daith. Roeddwn mor falch o rannu trysorau ein bro, ond y balchder pennaf oedd yn ein cymwynaswyr lleol a fu mor barod i gyfrannu a gwneud hon yn daith gofiadwy. Melys moes mwy. Mae’r criw isho dod nôl. Da di byw mewn lle diddorol.

- - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025