24.4.25

'Moment o Falchder' Mared

Tra bod eraill yn gwirioni ar redeg milltiroedd ac eraill wrth eu boddau yn neidio ar gefn beic a thaflu eu hunain lawr allt, mi nai adael i'r linell hon o glincer o gân o 1992, gan y band, Y Profiad adlewyrchu yr hyn sydd yn cynyddu'r adrenalin ynof fi:

"Ma genai broblem, mae o gen i 'rioed, dwi methu stopio siarad am bêl-droed

Dwi ddim yn meddwl mod i ar ben fy hun yma chwaith? Mae hyn yn sicr yn wir yn ein tŷ ni, gyda Dad yn ddilynwr brwd o'r gêm hefyd. Mae fy mam ar y llaw arall i'r gwrthwyneb, mwy neu lai yn casáu popeth am y gamp ac yn cymryd dim diddordeb o gwbl. Er hynny, mae datblygiad diweddar un enw yn benodol wedi hyd yn oed dwyn sylw fy mam ac mae'r person dan sylw yn haeddu'r holl fri y mae hi'n ei gael bellach.

Wrth feddwl am y geiriau 'Pêl-Droed' a 'Trawsfynydd', does dim ond un enw i'w grybwyll bellach, sef Mared Griffiths, ac mae dechrau 2025 wedi bod yn dipyn o uchafbwynt i'r ferch sydd newydd ddathlu ei phenblwydd yn 18 oed yr wythnos ddiwethaf.

Doedd 2024 heb orffen yn rhy ddrwg iddi chwaith, wedi iddi fod yn rhan o'r garfan a greodd hanes draw yn Nulyn, wrth i Dîm Cenedlaethol Merched Cymru gyrraedd un o brif gystadlaethau UEFA am y tro cyntaf yn eu hanes! Yn dilyn gadael Academi'r Gogledd CBDC yr haf diwethaf i ymuno â charfan Dan 21 Manchester United, cafodd ei henwi ar y fainc i'r tîm cyntaf, a hynny ar gyfer y gêm yn erbyn merched Wolves yng Nghwpan Merched FA Lloegr.

Gyda chwta 10 munud yn weddill, daeth y foment iddi wneud ei hymddangosiad cyntaf ar y lefel hŷn, a hynny gan gymryd lle y profiadol Melvine Malard, un sydd wedi curo Cynghrair y Pencampwyr ar 4 achlysur! Mae pawb yn breuddwydio am gael y cyfle i gamu ar y cae a chreu argraff, ond dwi'm yn meddwl fod hyd yn oed Mared wedi breuddwydio am yr hyn a ddigwyddodd ar ei hymddangosiad cyntaf dros y clwb? 

O fewn 7 munud, roedd hi wedi llwyddo i rwydo ei gôl gyntaf ac mewn cwta 15 munud ar y cae, roedd hi wedi cael ail gôl mewn buddugoliaeth gyffyrddus o 6 – 0 i'w chlwb. Yn dilyn y gêm, fe dderbyniodd Mared yr ail sgôr uchaf o'r holl chwaraewyr ar y cae ac ei gwyneb hi oedd i'w weld yn y newyddion ac ar gyfrifon cymdeithasol y clwb y bore wedyn, gyda dros 9500 o bobl yn hoffi'r llun, cannoedd o gefnogwyr yn ei chanmol yn y sylwadau a degau o rai eraill yn rhannu'r neges. 

Fel y soniwyd ynghynt, mae Mared wedi bod yn rhan o garfan Merched Cymru ar sawl achlysur dros y misoedd diwethaf, ond mae'n amlwg fod ei pherfformiad yn erbyn Wolves wedi denu sylw rheolwraig Cymru, Rhian Wilkinson. Cafodd Mared ei henwi ar y fainc ar gyfer gêm gyntaf y merched yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar ddiwedd Chwefror, daeth yr awr i Mared ennill ei chap cyntaf dros Gymru hefyd, a hynny o flaen byddin y Wal Goch yn Monza, yr Eidal. 

Un a fu yno oedd Gareth Lewis, ffrind i'r teulu ac aelod ffyddlon o'r Wal Goch yng Nghaerdydd ac ar draws Ewrop – mewn neges wedi'r gêm, fe ddywedodd "Da iawn Mar, hapus i fod yna yn dy gêm gyntaf i Gymru – da iawn chdi a phob lwc yn y dyfodol, mi nei yn ffantastig". 

Gareth, Derwyn a Seimon yn Monza - Llun Ffion Eluned Owen

Mewn cyfweliad a gafodd ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol swyddogol tîm Cymru cyn y gêm allan yn Yr Eidal, cafodd pentref Traws ei roi yn llwyr ar y map, wrth i Mared sôn am ei balchder nid yn unig o gynrychioli ei gwlad, ond hefyd ei milltir sgwâr:

"Mae dod o bentref bach fel Trawsfynydd, mae hi'n deimlad anhygoel i gael cynrychioli nhw yn ogystal a fy ngwlad. Mae'n foment o falchder i mi a fy nheulu, ac er nad ydw i wedi ennill fy nghap cyntaf eto, mae'n brofiad a hanner i deimlo'r awyrgylch sydd yn dod efo bod yn rhan o'r garfan. Dwi'n hynod ddiolchgar ac yn teimlo'r anrhydedd o gael y cyfle hwn."

Cafodd yr ail gêm yn y grŵp ei chwarae yn Wrecsam ychydig ddyddiau wedyn, ac yn anffodus ni chafodd Mared ddod oddi ar y fainc mewn gêm yn agosach i adref, ond mae'r parhad i'w rhoi ar y fainc yn dangos gymaint o ddyfodol disglair sydd gan y ferch ifanc hon o'i blaen. Cafodd hi ei henwi ar y fainc i Manchester United am y tro cyntaf yn y gynghrair hefyd, sydd yn gam mawr arall yn ei datblygiad fel chwaraewraig â dyfodol mawr o'i blaen.
Rhydian

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2025


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon