30.9.17

Wythnos – Yr Opera!

Rhydian Morgan yn disgrifio paratoadau diweddar cwmni Opra Cymru

Yn 1957, fe wnaeth Plaid Cymru gyhoeddi y nofel ffuglen wyddonol gyntaf yn yr iaith Gymraeg, sef Wythnos yng Nghmru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis.  60 mlynedd yn ddiweddarach, cyflwynir opera newydd gan Gareth Glyn a Mererid Hopwood yn seiliedig ar y nofel eicionig yma gyda OPRA Cymru yn ei chynhyrchu.

Mi geshi’r fraint o gael gwahoddiad i’r ymarferion cyntaf yng Nghapel Bethel, Llan Ffestiniog a Theatr Ardudwy. Cafodd yr ymarfer yn y theatr ei recordio gan gwmni Teledu Rondo ac roedd criw Tinopolis yn recordio eitem a gafodd ei ddarlledu ar raglen Heno ddiwedd mis Mehefin. Bydd yr opera newydd sbon yma yn teithio ledled Cymru yn yr hydref gyda’r cast hynod profiadol – Sion Goronwy, Sian Meinir, Robyn Lyn, Gwawr Edwards ac Euros Campbell o dan arweinyddiaeth Iwan Teifion Davies yn dod a’r nofel eiconig yma yn fyw ar lwyfan.


Mewn toriad o wylio’r opera hwyliog ond hynod heriol yma yn dod yn ei flaen, mi fachais ar y cyfle i gael gair efo’r cyfansoddwr, Gareth Glyn i esbonio ei rôl o yn ystod yr wythnos ddwys yma o ymarfer:
“Mi ydw i yma yn yr ymarferion cyntaf fel mater o weld y cantorion a’r arweinydd nad oeddwn i yn ei nabod tan yr wythnos yma yn trio ymgymryd â’r gwaith. Dwi ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan y cantorion neu’r arweinydd am y sgôr yn ogystal a gwneud unrhyw newidiadau fel bo’r angen. Mae’r gwaith bellach wedi cael ei drosglwyddo i’w dwylo nhw er mwyn iddynt gael cymeriadu’r hyn sydd wedi ei bodoli yn fy meddwl i tra’n cyfansoddi’r gwaith hwn.” 
Gofynnais iddo hefyd sut yr oedd yn teimlo wrth weld y delweddau yma sydd wedi bodoli yn unig yn ei ddychymyg o tra’n cyfansoddi yn dod yn fyw drwy leisiau’r cantorion yma :
“Bellach, mae’r cymeriadau yma yn perthyn iddyn nhw ac mae hi yn ddiddorol iawn gweld be mae nhw yn ei wneud gyda nhw, mae dehongliad canwr ac arweinydd anghyfarwydd i mi yn gallu rhoi bywyd newydd i’r cymeriadau hyn. Dwi’n gwybod sut y dylai swnio, ond dwi’n cael y profiad o weld sut y mae syniadau’r arweinydd a’r cantorion yn cael ei gyflwyno o’i gymharu a’r hyn wnes i ddychmygu tra’n cyfansoddi.”
Fore Gwener, y 23ain o Fehefin, mi gynhaliwyd ymarfer yn Harlech, gyda chynrychiolaeth o’r gwahanol bartneriaid yn ogystal ac ambell aelod lwcus o’r cyhoedd sydd yn ymwneud â’r opera yma –Pontio, Ensemble Cymru, Cefin Roberts o Ysgol Glanaethwy, cwmniau teledu Rondo a Tinopolis, Cyfeillion OPRA Cymru a chyn-gyfranwyr y cwmni a chwmni Galactica, y cwmni o Gaernarfon sydd wedi datblygu yr app Sibrwd ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru. Pwrpas yr ymarfer yma oedd i gael gweithio mewn cyd-destun theatr a rhoi syniad i’r partneriaid o’r hyn a fydd yn cael ei gyflwyno yn yr hydref.

Profiad aruthrol o ddiddorol ac agoriad llygaid’ oedd y geiriau a ddefnyddwyd gan Cefin Roberts ar raglen Heno am yr hyn a welodd o, ac mae hi yn anodd iawn anghytuno gyda dyn sydd mor brofiadol yn myd y theatr!  Er i mi gael y profiad o glywed darnau bychain o’r sgôr ym Methel ryw ddeuddydd ynghynt, roedd gweld y trawsnewdiad llawn o’r llyfr i’r llwyfan wir yn agoriad llygaid ac yn profi y gall unrhywbeth gael ei gyflawni yn yr iaith Gymraeg.

Rhywun arall oedd yn amlwg wedi ei phlesio gyda’r hyn a welwyd oedd Cyfarwyddwr Artistig Pontio, Elen ap Robert:
“Mae Pontio’n falch iawn o fod yn bartner yn y fenter gyffrous hon.  Gyda dawn dweud Mererid Hopwood, talent gerddorol Gareth Glyn ac OPRA Cymru, ynghyd â themâu pwerus a pherthnasol iawn i’r Gymru gyfoes, mae’n addo bod yn gynhyrchiad arbennig ac arwyddocaol”.
RhLlM
--------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2017.
Gallwch ddilyn hanes cwmni Opra Cymru efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


26.9.17

Gwobr haeddiannol

Llongyfarchiadau cywir i Steffan ab Owain ar y fraint a ddaeth i’w ran yn ddiweddar pryd y Tlws Coffa Eirug Wyn’ iddo am ei gyfraniad neilltuol, a gwirfoddol yn ei fro ar hyd nifer fawr o flynyddoedd.
cyflwynwyd ‘

Mae ganddo golofn ‘STOLPIA’ yn Llafar Bro yn fisol  lle mae’n rhannu ei wybodaeth er yn blentyn weithiau am hynt a helynt ei ardal yn Rhiw, a Stiniog drwyddo.


Bu’n gweithio hwnt ac yma am nifer o flynyddoedd cyn penderfynnu mynd am addysg uwch a dod o Brifysgol Bangor ar ôl ennill gradd gyfun mewn Hanes ac Archeoleg. Mae ganddo nifer o lyfrau, a llyfrynnau i’w enw, ond y peth pwysicaf yn ei hanes ers tua dwy flynedd erbyn  hyn – mae’n daid i Cian.

Steff a Tes ar y Moelwyn Mawr

Diolch Steff am dy ymroddiad cyson, a llongyfarchiau gwresog ar dderbyn ‘Tlws Coffa Eirug Wyn’. 

Pegi Ll.W

23.9.17

Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog

Bnawn Llun Medi 4ydd fe ymddangosodd cynrychiolaeth o’r Pwyllgor Amddiffyn gerbron Pwyllgor Craffu Iechyd Cyngor Sir Gwynedd i gyflwyno tystiolaeth dros gael gwasanaethau pwysig yn ôl i’r ardal. Yno hefyd, i ddadlau yn wahanol, roedd cymaint ag wyth o gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.  GVJ

Llun gyda diolch i Llyr Edwards
 -------------------------------------------------------

Prynwch rifyn Medi 2017 i ddarllen am dri siom yr ymgyrchwyr!




20.9.17

CALENDR BRO; hydref a gaeaf 2017

Cyfarfod Blynyddol LLAFAR BRO: 7.00 Nos Iau Medi 21.
Sylwer- yn Y Pengwern mae’r cyfarfod eleni.
Dewch i ddangos eich cefnogaeth i’ch papur bro.



Swper a Chân efo Geraint Lovgreen, yn Y Pengwern. Medi 22, 7.30

Bore Coffi Mwya’r Byd. Codi arian at Macmillan. Medi 25, 10-12.00 Llyfrgell y Blaenau.

Archaeoleg Gogledd Cymru Cwrs efo Rhys Mwyn -bob Dydd Mercher 10-12.00, Canolfan Maenofferen, o ddiwedd Medi am 10 wythnos.

Noson i gofio Che Guevara 50 mlynedd ar ôl ei farwolaeth. Bwyd, ffilm a sgyrsiau yn Cell. Hydref 8, 7.00


Cyngerdd Cyhoeddi Gŵyl Cerdd Dant 2018. Trio, Annette Bryn Parry, a doniau lleol.  Hydref 14 am 7.30 yn neuadd Ysgol y Moelwyn. £7.

Diwrnod Shwmae Sumae! Dechreuwch BOB sgwrs yn Gymraeg ar Hydref 17.

Plygain Dalgylch Llafar Bro ar Nos Sul Cynta'r Adfent - Tachwedd 26 am 7 o'r gloch yng Nghapel y Bowydd.

Y Cymdeithasau- mae rhaglenni y gaeaf i'w gweld yn llawn yn rhifyn Medi.

Llafar Bro
PLYGU rhifyn Hydref- Nos Fercher, Hyd. 11 am 6.30 yn neuadd Sefydliad y Merched, efo aelodau Clwb Rygbi Bro Ffestiniog a Siop Siarad (criw sgwrsio'r dysgwyr), a chithau!
PLYGU rhifyn Tachwedd- Nos Fercher Tach. 8 am 6.30 yn neuadd Sefydliad y Merched, efo Merched y Wawr Blaenau a'r Clwb Cerdded, a chithau!
PWYLLGOR- Nos Iau Tach 16 am 7.30 yn neuadd Sefydliad y Merched. Croeso i bawb.
PLYGU rhifyn Rhagfyr- Nos Fercher Rhag. 13 am 6.30 yn neuadd Sefydliad y Merched, efo aelodau Côr Rhiannedd y Moelwyn.

Merched y Wawr, Blaenau.
Cyfarfod am 7.30 yn y Ganolfan Gymdeithasol. Croeso i aelodau hen a newydd.
Medi 25:  Steffan John, y fferyllydd, yn sgwrsio am un o'i deithiau.
Hydref 23: Gwen Edwards, y Bala.


Y Fainc Sglodion
Y cyfarfodydd am 7.15 o’r gloch, Canolfan Gymdeithasol. Croeso i aelodau hen a newydd.
Hydref 5- Nia Roberts. Tu ôl i’r cloriau.
Tachwedd 2- Llion Jones. Bardd y Bêl –Y lôn i Lyon.
Tocyn aelodaeth £6 (mynediad i unrhyw ddarlith heb docyn £1.00)




Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog
Rhaglen 2017 yn ail ddechrau ar drydydd nos Fercher mis Medi. Pob cyfarfod yn Neuadd y WI, am 7.15 Croeso i bawb!
Medi 20- Gareth T Jones. Mwy o leisiau ddoe.
Hydref 18- Tecwyn Williams. T Glyn Williams.

Fforwm Plas Tanybwlch
Cyfarfodydd i gyd am 7.30 yn y Plas.
Hydref  3 -  Mynwent Ffordd Gyswllt Llangefni -  Iwan Parry
Hydref 17 - Chwareli Llechi Bro'r Llynnoedd- a dylanwad y Cymry arnynt –Richard Williams
Hydref 31-  Rheilffyrdd Dyffryn Ogwen –Gareth Haulfryn Williams

Cymdeithas y Gorlan
Bydd tymor newydd y Gymdeithas yn dechrau yn fuan.  Mae'r swyddogion am gario ymlaen, sef Ceinwen Lloyd Humphreys yn Gadeirydd, Janet Wyn Roberts yn Drysorydd ac Edwina Fletcher yn Ysgrifennyddes.  Yn ymuno fel Ysgrifennyddion Gohebol fydd Annwen Jones a Dorothy Williams.
Hydref 2 –Bowydd: Hogia Harlech
Tachwedd 6  -Carmel: Dafydd Roberts, sleidia

Clwb Cerdded ‘Stiniog
Cyfarfod o flaen Y Cwîns, Blaenau Ffestiniog am 9 y bore, ceir mwy o wybodaeth gan Maldwyn Williams neu ffonio 771 410.
Hydref 1. Y Wybrnant a Phenmachno
Hydref 15. Moelyci, Ardal Rhiwlas (Anne)

Dramâu Ysgol y Moelwyn
Pob un yn cychwyn am 7.
Hydref 26    MWGSI, Cwmni’r Frȃn Wen
Tachwedd 16    SIEILOC, Rhodri Miles/Makin Projects

Cymdeithas Archaeoleg Bro Ffestiniog
Canolfan Ddydd Blaenau, 7yh.
Hydref 19 -Pensaerniaeth Werinol, Steffan ab Owain.
Rhagfyr 14 -sgwrs (ddwyieithog) ar gysylltiadau Charles Darwin â gogledd Cymru, Ken Brassil
 

Cymdeithas Undebol Trawsfynydd
Mae’r rhaglen aeaf yn ail ddechrau ar Hydref 31 am 7yh yn y Capel Bach, gyda theulu Gwernhefin.

Corau a Seindorf
Côr y Moelwyn yn ymarfer yn Salem Tanygrisiau ar Nos Fawrth. Croeso i ymwelwyr ac aelodau newydd.
Côr y Brythoniaid yn ymarfer yn Ysgol y Moelwyn ar Nos Iau.  Croeso i ymwelwyr ac aelodau newydd.

Côr Rhiannedd y Moelwyn, Meibion Prysor, Lliaws Cain, a'r Côr Cymysg, a Seindorf yr Oakeley -cadwch olwg ar eu tudalen Facebook, neu holwch yr aelodau.
-------------------------------------------

Addaswyd o Galendr y Cymdeithasau, a ymddangosodd yn rhifyn Medi 2017. Prynwch y papur rwan i gael y calendar yn llawn!

Os oes gennych chi ddigwyddiadau ychwanegol, cofiwch adael i ni wybod!


18.9.17

Stolpia -ymdrochi

Parhau â chyfres Steffan ab Owain, ar hynt a helynt hogiau’r Rhiw yn y 50au. 

Ceisiais gofio y dydd o’r blaen am rai o’r pethau a fyddem ni hogiau direidus y Rhiw a’r cyffiniau yn ei wneud yn ystod hafau braf y 50au. Wel, roedd ymdrochi, neu nofio yn yr afonydd a’r llynnoedd yn un o’r pethau a fyddai yn ein diddannu ar ddyddiau poeth yr haf, on’d oedd? Cofier, nid oedd pwll nofio yn y Blaenau y pryd hynny, ac felly pyllau yr afonydd neu’r llynnoedd oedd y mannau ymdrochi gennym.

Pa fodd bynnag, gan fod dŵr yr afon fach a ddeuai o dan Domen Fawr Chwarel Oakeley yn rhy oer i roi bawd eich troed ynddo heb sôn am ‘drochi ynddo cedwid ohono. Yn ogystal, rhybuddid ni i beidio a meddwl nofio yn y rhan o Afon Barlwyd a lifai drwy ardal y Rhiw a Glan-y-pwll gan ei bod yn fudr ac afiach, ac felly, anelwn am leoedd eraill mwy dymunol.

Un o’r llynnoedd hynny oedd Llyn Bach Nyth y Gigfran, a gallwch feddwl erbyn i ni gerdded i fyny y Llwybr Cam a llwybrau Chwarel Holland a chyrraedd y llyn yn chwys domen roedd cael mynd i’r dŵr yn beth braf iawn.

Pyllau eraill a fyddem yn ymdrochi ynddynt oedd ‘Llyn bach hogiau’ a fyddai y tu uchaf i ‘Lwnc y ddaear’, sef y y twll lle diflannai Afon Barlwyd iddo yn y mynydd ac a wnaed gan fwynwyr y chwarel i droi’r dŵr rhag mynd i’r gwaith tanddaearol yn Chwarel Llechwedd.


Llyn Mawr Barlwyd a Moel Penamnen

Roedd gan y merched lyn bach ychydig yn uwch i fyny i gyfeiriad Llynnoedd Barlwyd hefyd, sef ‘llyn bach merched’. Byddai’n rhaid codi argae fach o gerrig, mwsog a migwyn, ar draws yr afon i greu pwll nofio. Byddai hynny yn digwydd pob haf gan y byddai llifogydd tymhorau’r hydref, gaeaf a’r gwanwyn wedi ei chwalu yn ddios. Mae gennyf gof o fynd i fyny yno un tro gyda’r hogiau a’r diweddar Alun Jones (Alun Llechwedd) yn ceisio dysgu ni i nofio ynddo, er nad oedd y pwll fawr dyfnach na ryw lathen go lew. Cofiaf hefyd ein bod yn un rhes ar ymyl y lan a phob un ohonom yn ein tryncs nofio yn barod am wers.

Dyma’r cyntaf yn cerdded i mewn i’r dŵr, sef Dei Clack, os cofiaf yn iawn. Yna, dyma Alun yn ei gael i sefyll yn y rhan ddyfnaf, a’i osod uwchben y dŵr mewn ystum nofio gan afael am ei ganol. Yna, gofynnodd iddo ddechrau ar symudiadau’r corff er mwyn iddo nofio, a dyna ei ollwng yn y dŵr a dweud –“nofia rŵan” -ond diflannu o dan wyneb y dŵr a wnaeth Dei druan, ond buan iawn y daeth i fyny yn tagu a phoeri ar ôl cael cegiad iawn o afon Barlwyd. Penderfynu gadael y wers nofio tan rhyw dro arall a wnaeth y gweddill ohonom wedyn.

Y mae gennyf gof ohonom yn ’drochi yn Llyn Mawr Barlwyd rhyw ddwywaith neu dair a phan oedd dŵr y llyn yn isel. Ymhen pellaf y llyn lle byddai caban y ’sgotwyr ar un adeg y byddem yn nofio a lle llifa’r afon fach o’r hen lyn i’r llyn mawr. Nid oedd yn ddwfn iawn yn y fan honno a gellid sglefrio i lawr y mwd ar ein traed neu ar ein penolau i’r dŵr, ond os oedd y pysgotwyr yn y rhan honno byddai’n rhaid inni ei gwadnu hi oddi yno. Weithiau eid i lawr y ffos a’r cafnau wedyn i gyfeiriad Llyn Fflags a ‘drochi yn ‘llyn dŵr cynnes’ am ychydig ac fel yr awgryma ei enw roedd mynd iddo fel mynd i’r twb ar nos Wener. Dyddiau difyr, yn wir.
----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2017.  
Mae ail ran yr ysgrif ar ymdrochi yn rhifyn Medi -sydd ar werth rwan.
Dilynwch gyfres Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.