Tydi’r blynyddoedd 'ma’n fflio dwch!
Mae’n haws dechrau’r erthygl yma ar ddechrau bob blwyddyn gan fod apêl am gynghorwyr newydd yn rhan annatod ohono bellach.Pa amser gwell i geisio cael gwaed newydd i ymuno na phan mae ganddynt adduned blwyddyn newydd – efallai yn bwriadu gwneud cyfraniad cadarnhaol yn y gymuned, helpu’r trigolion neu weld gwell trefn ar bethau yn lleol?
Y gwir ydi, mae hi’n o arw o ran aelodau yn y Cyngor. Gormod o seddau gwag. Oherwydd prinder cynghorwyr, mae ambell gyfarfod yn cael ei ohirio gan fod diffyg aelodau i ffurfio cworwm. Dwi’n siŵr y cytunwch fod hyn yn sobor o beth mewn ardal gyda thua phedair mil o drigolion?
Nid yw’r 'chydig cynghorwyr sydd gennym yn gallu mynychu pob cyfarfod wrth reswm.
Fel arfer, dau gyfarfod sydd mewn mis – Arferol a Mwynderau, gydag ambell un Anarferol neu Is-bwyllgor bob hyn a hyn. Anaml bydd unrhyw gyfarfod yn cymryd hirach nag awr. Dim ots am unrhyw gefndir gwleidyddol na phrofiad chwaith. Mae ambell gynghorwr profiadol yn ein plith, ond mae’r rhan fwyaf ohonom yn gymharol newydd i’r Siambr ac yn raddol ffeindio ein traed.
Mae gan y Cyngor Tref ddwy Glerc sy’n gyfrifol am weithredu penderfyniadau’r Siambr a sicrhau ein bod ni'n dilyn y drefn gywir – y pethau pwysicaf i’w cofio ydi bod yr holl gofnodion ar gael i’r cyhoedd a bod y clercod yno er mwyn rhwystro unrhyw dor-cyfraith. Nid oes angen poeni am weld eich enw yng ngholofn “Rotten Boroughs” – cylchgrawn Private Eye - heb ichi dwyllo yn fwriadol wrth gwrs!
Mae pawb yno i geisio cael y gorau i drigolion Stiniog. Felly, da chi, os oes hanner awydd arnoch, cysylltwch â’r clercod am ragor o fanylion.
Prif bwyntiau cyfarfodydd Rhagfyr:
Daeth yr heddlu draw i gyflwyno eu “Diweddariad” – gwelwyd fod ffigyrau tor-cyfraith wedi gostwng ryw 7% ond fod troseddau trais a rhyw wedi cynyddu dros y naw mis diwethaf. Fe’u holwyd gan y cynghorwyr oedd yn bresennol a chlywyd fod cynlluniau ganddynt i daclo’r defnydd o gyffuriau yn yr ardal. Cawn fwy o fanylion yn fuan gobeithio.
Penderfynwyd cefnogi ceisiadau am arian gan y Clwb Pêl-droed Ieuenctid a hefyd i dalu’r costau i dri o blant o Stiniog gael mynd i wersyll ‘Cyfle i Bawb’, (Yr Urdd 2026).
Daeth Cynghorydd Sir ward Teigl, Geraint Parry atom i egluro ychydig am ei waith ar ran yr ardal yng Nghaernarfon. Roedd yn ddiddorol dros ben a diolchwyd iddo am ei drafferth i ddod atom a gobeithiwn ei weld eto yn y dyfodol agos. Derbyniwyd rhestr waith gan y Cynghorydd Sir Elfed Wyn ab Elwyn hefyd.
Mae’r ddau i weld yn weithgar iawn dros yr ardal.
Yn y cyfarfod Mwynderau, penderfynodd y Cyngor, er diogelwch, i gau’r Parc tra bod cwmni North Wales Fencing yn codi rhwydi uwch o amgylch y cae aml-ddefnydd MUGA. Bu rhai pryderon pan oedd y cae’n cael ei osod, felly gwell cadw’r cyhoedd o’r ardal yn gyfangwbl tra bod y gwaith yn mynd yn ei flaen oedd y penderfyniad doethaf ym meddwl y Siambr.
Dywedodd y clercod fod adroddiad y Swyddog Llwybrau wedi ei yrru ymlaen at sylw Cyngor Gwynedd a bod arwyddion ar fin cael eu gosod – un, “Dim Baw Cŵn” yng nghae Baltic ac un “Perygl – Dŵr” i’r berllan.
Penderfynwyd archebu ychydig o halen ffordd i’w gadw ger y Cwt Canŵs rhag ofn i ambell stryd gael trafferthion cyn i Gyngor Gwynedd fedru eu cyrraedd.
DMJ (Barn fy hun yn unig).
- - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2026

No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon