Yn anffodus, fu dim 'ffair' fel y cyfryw yn Llan eleni, ond daeth criw o gymwynaswyr at ei gilydd i drefnu prynhawn o stondinau yn y neuadd, a hwyl i'r plant yn Y Pengwern. Dyma bwt o erthygl o rifyn Hydref.
Be am yrru eich atgofion i mewn..?
Fel y dywedodd cyfaill wrthyf yn ddiweddar, nid yw Ffair Llan fel y bu.
Yn y dyddiau a fu nid hon oedd yr unig Ffair G’langaeaf (Tachwedd 13) a gynhelid yn Llan yn y dyddiau a fu. Ceid wyth ffair y flwyddyn yno ar un adeg. Mae’r rhain I gyd wedi mynd ac yn y dyddiau sydd ohoni mae’n syndod bod ffair o gwbl yn dal yno
Mi fydd ffair eto yn Llan – mae’n debyg. Gwaharddwyd y trefnwyr rhag defnyddio y ffordd fawr i osod stondin ond … mae rheolau Iechyd a Diogelwch wedi lladd rhai o’n traddodiadau gwerin gan gynnwys y ffeiriau a rhaid cyfyngu bellach ar faint a safle’r ffair a fu. Gormod o draffig, methu cau’r ffordd, a pherygl andwyol i’r bobl sy’n cerdded! Dal i leihau mae’r ffair ond mae’n dal i fod … ond nid fel yr oedd!
TVJ
Pennod o gyfres Stolpia- FFAIR LLAN

No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon