11.1.24

Stolpia- Ffair Llan

Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain

Roedd trafodaeth am ffeiriau Cymru ar raglen Aled Hughes rhai dyddiau’n ôl a chrybwyllwyd Ffair Llan gan un siaradwr arni hi. Y mae stori ‘Ffair Llan’, neu Ffair Glangaeaf (Calan Gaeaf), Llan Ffestiniog yn dyddio’n ôl ganrifoedd lawer, ac er mai ar y 13eg o Dachwedd y cynhelir hi ers degawdau bellach, ar 1af o Dachwedd yr  oedd yn wreiddiol. 

Pa fodd bynnag, pan newidiwyd y calendrau ar yr 2 Medi,1752, sef o’r un Sulien (Julian) i un Gregori, tynwyd 11 diwrnod ohono, ac felly, syrthiodd ar y dyddiad y cynhelir hi heddiw.

Gyda llaw, yn 1699 ceid pum ffair y flwyddyn yno, ond byddai cymaint ag wyth ffair yno yn nechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg (19G), sef: 

9 Mawrth

24 Mai

Dydd Gwener y Drindod (Mehefin)

2 Gorffennaf

22 Awst

26 Medi

19 Hydref

13 Tachwedd. 

Ffeiriau caws, ffeiriau anifeiliaid fferm a ffeiriau cyflogi oeddynt bryd hynny. 

Yn raddol, ac ar ôl yr 1930au gostyngwyd y nifer a gynhelid yno fel erbyn diwedd yr 1950au dim ond Ffair Glangaeaf a gynhelid yno. Gresyn yw gweld Ffair Llan heddiw gyda rhyw un stondin ar y ffordd, a dim ond rhyw ychydig reidiau ar gyfer yr ifainc. Heblaw am y stondinau a geir gan bobl y Llan yn y Neuadd mae hi’n debygol iawn y byddai’r ffair hon wedi mynd i ebargofiant fel y gweddill a fu yno.

Tybed sawl un yr ydych yn eu hadnabod yn y ddau lun hyn o’r 1950au a’r 1960au?




 

Dyma un neu ddau o adroddiadau amdani hi o’r papurau newydd:

 

YR HAP-CHWAREU YN FFAIR GLAN GAUAF

Foneddigion, caniatewch i mi eich hysbysu nad wyf yn cofio i mi weled y fath nifer o gambling stalls yn ffair Glangauaf Ffestiniog erioed o'r blaen. Buom yn rhifo eleni tua dwsin o'r cyfryw stalls, ac yn dwbl ryfeddu at yr heddgeidwaid yn caniatáu i'r twyllwyr hyn gael cario eu masnach anghyfiawn ymlaen, pan y dylasent, ar bob cyfrif, gymeryd yr hap chwareuwyr i'r ddalfa am dorri y gyfraith a myned ag arian y cyhoedd trwy dwyll… (Y Werin, 30 Tachwedd 1889).

 

FFAIR GALANGAUAF

Cynhaliwyd prif ffair y flwyddyn ddydd Mercher. Ai'r gwartheg parod yn lled rwydd am o 10p i 12p. (Yr Herald Cymraeg, 20 Tachwedd 1906).   

- - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Tachwedd 2023

Lluniau o gasgliad yr awdur.

 Erthygl o 1986: Wyth Ffair Llan



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon