Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Llafar Bro yn Hydref 1975. Mi fydd rhifyn Hydref 2025 felly yn nodi hanner can mlwyddiant o gyhoeddi Papur Misol Cymraeg Cylch Stiniog!
Rydym yn dal i gyhoeddi 11 rhifyn y flwyddyn, a hynny yn gwbl wirfoddol.
Mae tua 40 o bobl yn cyfrannu bob mis, fel gohebyddion, aelodau'r pwyllgor, dosbarthwyr, golygyddion, colofnwyr ac ati.
Fel modd o ddathlu’r garreg filltir yma mae is-bwyllgor o griw ein papur bro wedi bod wrthi’n trefnu arddangosfa yn llyfrgell y Blaenau, ac wedi gwahodd y Gymdeithas Hanes a’r Gymdeithas Archeoleg i rannu’r gofod efo ni.
Bydd yr arddangosfa’n agor ar yr 11eg o Hydref, ac yno tan y Nadolig. Gobeithiwn y medr pob un ohonoch alw i mewn i ddangos cefnogaeth, a chodi’n hyder bod angen papur bro am hanner canrif arall.
PW
- - - - - -
Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Medi 2025.
![]() |
| Llun PW |
Ymddangosodd yr isod wedyn yn rhifyn Tachwedd 2025.
AGOR ARDDANGOSFA LLB50
Mae dipyn o waith paratoi wedi bod ynglŷn ag arddangosfa i ddathlu nid yn unig pen-blwydd Llafar Bro yn hanner cant ond hefyd cyfle i ddathlu rhai o orchestion Cymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog a Chymdeithas Hanes Bro Ffestiniog. Agorwyd yr arddangosfa fore Sadwrn Hydref 11eg a bydd cyfle i’w gweld yno hyd Ragfyr 24ain.
![]() |
| Darlun Falcon Hildred |
Mae’r gwaith a gyflawnwyd gan y Gymdeithas Archeoleg (dan arweiniad craff Bill Jones) ar safle Llys Dorfil yng Nghwm Bowydd yn werth ei weld yn enwedig y gwrthrychau amrywiol a gloddwyd yno yn ddiweddar, er enghraifft ysgrifbin, gwahanol fathau o gerrig a gafodd eu llunio at dasgau beunyddiol y bobl oedd yn byw ar y safle ac anodd credu fod Tŷ Tŵr tal wedi bod ar y safle hwn unwaith, a bellach does ond sylfaen ar ôl.
Yn ôl y label "Mae mwy na 641 o gestyll yng Nghymru, mwy i’r filltir sgwâr nag mewn unrhyw wlad arall. Gelwir tai tŵr yn aml yn gestyll, ac er gwaethaf eu steil cryno, maent yn drigfannau aruthrol ac nid oes gwahaniaeth clir rhwng castell a thŷ tŵr".
Ceir lluniau di-rif yn yr arddangosfa a rhai i gyd yn cynrychioli gwahanol agweddau ar fywyd yn y dref a’r cyffiniau. Dowch i’w gweld a chewch chi ddim eich siomi.
![]() |
| Lluniau TVJ |
Diolchiadau hefyd i Storiel Bangor a staff y Llyfrgell yn Blaenau am eu cydweithrediad parod wrth i’r arddangosfa gael ei chynllunio a’i gosod. TVJ
- - - - - -
Cydnabyddiaeth
Hoffai Llafar Bro gydnabod y cymorth ariannol anrhydeddus y mae ein papur bro wedi ei dderbyn gan Elusen Freeman Evans. Rhoddodd yr elusen gefnogaeth ariannol tuag at gostau'r Arddangosfa ben-blwydd, a thuag at gost cyhoeddi Llafar Bro. Bu'r elusen hon yn help mawr i Llafar Bro eleni ac yr ydym yn wir ddiolchgar am y gefnogaeth yr ydym wedi ei dderbyn. Os hoffech wybod mwy am yr elusen, cofiwch bod erthygl am eu gweithgareddau a chefndir eu sefydlu ar ein gwefan....
Yn ogystal mae'n briodol i Lafar Bro ddiolch unwaith eto hefyd i Ymddiriedolaeth Ysgol Bonaber am eu cyfraniad gwerthfawr hwythau at gostau'r arddangosfa ben-blwydd. Rydym yn ffodus iawn o gael y fath haelioni a chefnogaeth cymunedol.
- - - - - -


.jpeg)

No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon