Rwyf wedi mynegi rhywfaint o bryder fod rhai o lynnoedd yr ardal wedi mynd yn brin iawn o’r pryfed yr ydym ni fel pysgotwyr pluen yn arfer eu gweld bob blwyddyn yn eu hamser yn ystod y tymor, rhai fel y cogyn, y gwahanol rwyfwyr, a rhai pryfed cerrig. Rhyw bythefnos cyn y Nadolig cefais lythyr gan un sy’n byw yn Ossett yn Lloegr. Un o’r Blaenau ydyw ac yn dod drosodd i’r hen ardal yn weddol aml, ac yr ydym yn falch o’i groesawu’n ôl bob amser. Mae’n hoff iawn o bysgota.
Llun -Paul W |
‘Gwelais yn eich erthygl yn Llafar Bro, eich bod wedi sylwi ar ddiffyg pryfed eleni. Ni allaf roi barn bersonol ar bryfetach dydd na nos eleni gan na chefais ond rhyw dridiau di-bysgod yng ngogledd yr Alban ddechrau Mehefin, pan y dylai popeth fod ar ei orau yno. Ar wyneb y dŵr oedd fy mhlu i, ond yn isel gyda ‘Black Montana’ y cafodd fy ffrind bysgod ar haul, gwynt, a glaw. A ddywed hyn rywbeth am ddiffyg pryfed?’Gyda’i lythyr anfonodd dudalen o’r papur newydd y ‘Daily Telegraph’, rhifyn yr 20fed o Dachwedd diwethaf.
Ar y dudalen mae erthygl gan ŵr o’r enw Jon Beer, ac ynddi mae’n sôn am yr union bwnc, sef prinder pryfed, a hynny o safbwynt prysgotwyr pluen. Dyma ambell i sylw o’r erthygl yma. Gall Prydain fod yn wynebu gostyngiad difrifol ym mhoblogaeth pryfed, nid yn anffodus, y math o bryfed sy’n mynd i’r bowlen siwgr ac ar ein bwyd. Y creaduriaid dan sylw yw pryfed y dŵr, sef rhai fel y cogyn, y rhwyfwr a’r pry cerrig, fel sydd gennym ni yn Stiniog.
Meddai Jon Beer: “Mae’r pysgotwyr yn eu hoffi oherwydd fod y pysgod yn eu hoffi.”
Llun -Gareth T Jones |
Llawer o ddiolch am y llythyr, am yr erthygl o’r ‘Telegraph’, ac am ei ddiddordeb. Brysia drosodd i’r hen ardal ar sgiawt eto.
--------------------------------------------------
Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2005.
Dilynwch erthyglau Sgotwrs Stiniog efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn -cliciwch 'View web version')
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon