14.2.18

Rhod y Rhigymwr -Awen Meirion

Cyfres fach hynod ddifyr a gyhoeddwyd yn chwedegau’r ganrif ddwytha gan Lyfrau’r Dryw, Llandybïe, oedd ‘Cyfres Barddoniaeth y Siroedd’, dan olygyddiaeth Emlyn Evans. Gwn fod o leiaf saith ohonyn nhw wedi eu cyhoeddi. Gwelodd y bumed gyfrol, ‘Awen Meirion’ olau dydd yng Ngorffennaf 1961.

Mae’r gyfrol yn cynnwys cerddi caeth a rhydd, a cheir nodiadau bywgraffyddol am bob bardd. 
Dyma rai o gynhyrchion y beirdd o ddalgylch ‘Llafar Bro’ ynghyd â chrynodeb o’u hanes fel ag y nodwyd yr adeg honno:

LLOYD, Owen Morgan. 
Ganed ym Mlaenau Ffestiniog ym 1910. Addysgwyd yn yr Ysgol Gynradd a’r Ysgol Sir, Prifysgol Bangor a Choleg Bala-Bangor. Enillodd gadair yr Eisteddfod Ryng-Golegol, cadeiriau Eisteddfod Môn (ddwywaith) a Chadair Eisteddfod Powys. Bu’n weinidog gyda’r Annibynwyr yn Siroedd Caernarfon, Morgannwg a Môn cyn dod i Ddolgellau. Pregethu yw ei ddiddordeb pennaf, yna ysgrifennu i’r wasg a cheisio cynghanedd (‘Ymryson y Beirdd’!) mewn eglwys a byd.

Dyma rai o’i gynhyrchion

SIOP Y PENTREF
Llethwyd y silff, llwythwyd sach, - emporiwm
Parod i bob masnach,
Enwog warws hen geriach,
Pantri bwyd y pentre’ bach.

CNOCELL Y COED
I fan y pryf yn y pren – y myn ffordd,
Main ei phig, fronfelen;
Yn ddi-ball bydd ebill ben
Yn ergydio ar goeden.

BRYS
I beth y rhuthrwn drwy’r byd? – Gwirion yw
Gyrru’n wyllt drwy fywyd.
Daw blino brysio ryw bryd
A daw sefyll disyfyd.

JONES, Wmffra [Mawddach]. 
Y wennol. Llun Paul W.
Ganed ym Mlaenau Ffestiniog ym 1890 a’i addysgu’n Ysgol y Manod a’r Ysgol Sir. Bu’n gweithio ar y ffordd haearn ac yn orsaf feistr. Enillodd bedair cadair eisteddfodol. Yn byw yn Llanelltyd ac yn olygydd papur wythnosol ‘Y Dydd’, cylch Dolgellau.

Y WENNOL
O bell ar asgell wisgi – y wennol
Ddwg wanwyn i’n llonni;
Ymaith hed cyn caledi
A’r haf aur â hefo hi.

WILLIAMS, Jonah Wyn. 
Cysodwr yn byw ym Mlaenau Ffestiniog, lle ganed ef ym 1921. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd oherwydd afiechyd. Cyfrannodd gerddi ac ysgrifau i bapurau newydd a chylchgronau. Rhai dylanwadau: celfyddyd, cyfeillion, Catholigiaeth – derbyniwyd ef i’r Eglwys Gatholig ym 1958, Diddordebau: arluniaeth, cerddoriaeth, y piano a Ffrangeg.

FY NHAD [Er Cof]
Yn ei boen soniai beunydd – am annwyl
A mwynaf Waredydd;
Yn hindda ei brynhawnddydd
Hwyliodd ef i’r bythol ddydd.

JONES, Joseph Wyn. 
Ffermwr ym Mryn-teg, Trawsfynydd. Ganed yn  Nhrawsfynydd ym 1921 a bu’n Ysgol Gynradd Bronaber ac Ysgol Sir Ffestiniog.

Y CODWR CANU
Dyma sŵn y do-mi-so – yn ei sedd,
Yna saif a’i tharo;
Heb organ na phiano
Mae hi’n awr yn dominô!

Ymddangosodd cerdd yn y gyfrol o waith llenor ifanc a aned yn Nhyddyn Bach, Trawsfynydd ym 1938 ...
ROWLANDS, John. 
Aeth i Ysgol Gynradd Bronaber, Ysgol Sir Ffestiniog a Choleg y Brifysgol, Bangor, gan raddio yn y dosbarth cyntaf mewn Cymraeg ym 1959 ... enillodd lu o wobrau yn adran ieuenctid yr Eisteddfod Genedlaethol ac am ysgrif agored yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ym 1959 ... a chafodd Goron Prif Lenor yr Urdd ym 1960. Cyhoeddwyd ei nofel ‘Lle bo’r Gwenyn’ ym 1960.

Mae’n drigain mlynedd union er pan gyfansoddodd y nofelydd arloesol a’r beirniad llenyddol y gerdd ganlynol:

ANWADALWCH [ar ddechrau 1958]

Mae mil-naw-cant-pum-deg-saith o dyllau pryfed yn yr Efengyl
a greodd unwaith enaid o’m llwch-lli.
Ac i fyny o’r dyfroedd
ni ddaw blodau’r genesis ifanc ym mreichiau ei gilydd
i rwygo croth â bywyd.
Ac y mae gwaelod cwpan y Gwaed a droes yn win yn dod i’r golwg.
Rhyw lingran y mae fy nhywod innau wrth y bar.

Rwy’n dy gasáu di, O Dduw, am fy nhwyllo
Gyda’th ddoli o Grist; mae ‘nghynddaredd
am dy frathu, a blingo dy regalia ffug!
Ac ‘rwyf am falu dy ddoli yn deilchion ...

Ond O! mae oglau sent ar ffrog y flwyddyn newydd;
Mae blodau’n tyfu arni, a Gwanwyn arall yn dyffeio Gaeaf ...
Ac mae fy nannedd a’m hewinedd innau’n llareiddio megis ŵyn.
‘Rwyf eto’n cysgu gyda Duw ...
Ond hwyrach nad yw hyn
ond bwrw Sul mewn gwesty gyda merch,
a bydd Yntau’n fuan eto ar y clwt,
nes cawn ni fwrw Sul yn nwydus unwaith eto gyda’n gilydd.
---------------------------------------

Rhan o erthygl Iwan Morgan a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2018.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. (Rhaid dewis 'web view' os ydych yn darllen ar eich ffôn.)



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon