20.4.14

Y diweddaraf gan Bwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Coffa

Darn allan o rifyn Ebrill 2014:

Nid yw’n syndod i neb, bellach, bod aelodau’r Prosiect Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig (PIGCI) wedi croesawu a chymeradwyo’r cynlluniau pensaernïol i addasu adeilad yr Ysbyty. Dim problem cael y gefnogaeth gan yr aelodau, meddai Dr Whitehead y Cadeirydd; ‘roedd fel gwthio yn erbyn drws agored.’ Sy’n deud llawer, wrth gwrs.
Fe ddywedir hefyd y bydd disgwyl inni wedyn gyfeirio at y lle fel ‘Canolfan Goffa’ yn hytrach nag ‘Ysbyty Coffa’. Ond gan y bydd y gwaith yn cymeryd o leiaf ddwy flynedd i’w gwblhau – gwanwyn 2016 yn ôl pob sôn optimistaidd! - yna teg ydi gofyn pa enw y dylen ni ei ddefnyddio yn y cyfamser? Yr ‘Hen Ysbyty Coffa’ efallai, er parchus goffadwriaeth? Neu beth am ‘Canolfan Goffa yn yr Arfaeth’? Neu, wedi meddwl, tybed a oes angen enw o gwbwl ar y lle, o wybod na fydd fawr o ddefnydd arno, beth bynnag, dros y ddwy flynedd a rhagor sydd i ddod?  Falla y byddai côd post yn ddigon ynddo’i hun!


.......................
Ar Fawrth 13eg, caed adroddiad yn y Daily Post am y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn cyfarfod ag aelodau’r PIGCI yma yn Stiniog ac yn defnyddio’r achlysur i glochdar i’r wasg am y gwasanaethau gwych sydd yn ein haros (ymhen dwy flynedd!). Ond pwy, tybed, a gafodd wybod ymlaen llaw ei fod o’n dod i’r dref o gwbwl? Tybed a gafodd y trefniant ei gadw’n dawel yn fwriadol, rhag ofn i ni, pobol wyllt Stiniog, fynd yno i brotestio a tharfu arno?
Ers i Mr Drakeford gael ei ddyrchafu i’w barchus arswydus swydd ym mis Mawrth llynedd – dyrchafiad cyflym ar y naw, o ystyried nad oedd o hyd yn oed yn aelod o’r Cynulliad tan 2011 - mae’r Pwyllgor Amddiffyn wedi anfon pedwar cais ato, y diweddaraf fis yn ôl, yn gofyn iddo gyfarfod dirprwyaeth ohonom, i drafod dyfodol yr Ysbyty Coffa. Ond ein hanwybyddu neu’n gwrthod gawson ni bob tro, er inni gynnig mynd i lawr i Gaerdydd i’w weld.
Sy’n codi’r cwestiwn PAM? A pham, meddech chi, na fasa fo wedi cynnig ein cyfarfod ni tra’r oedd o yn Stiniog yn ddiweddar? Cyfle i ladd dau dderyn fyddech chi’n tybio! Ond dewis peidio wnaeth o! Enghraifft arall, siŵr o fod, o fel mae rhai o’n gwleidyddion ni yn gosod eu hunain uwchlaw gwerin gwlad! Gyda llaw, y cymal olaf yn natganiad y Gweinidog i’r Daily Post oedd hwn (ac rwy’n cyfieithu) – ‘.. mae gan bobol yr hawl cyfansoddiadol i leisio’u barn ac i gymeryd rhan yn y broses.’  Un da am jôc ydi Mr Drakeford, mae’n amlwg! Yn union fel ei fêt Dr Bill Whitehead. Dyma oedd gan hwnnw i’w ddeud – ‘Pan fyddwn ni wedi cwblhau ein cynlluniau yn ystod y misodd nesaf, byddwn yn ymgynghori gyda chleifion, meddygon ac aelodau’r cyhoedd.’ Ymgynghori ar ôl i bob dim gael ei benderfynu! Ia, yr un hen stori!

..............................
Tua’r un adeg ag ymweliad y Gweinidog Iechyd, roedd gohebydd y Caernarfon & Denbigh Herald yn cyfeirio at holiadur y Pwyllgor Amddiffyn ac yn dweud mai dim ond‘rhai’ o’r trigolion oedd wedi ymateb yn gadarnhaol iddo. PWY, meddech chi, a fu’n bwydo’r wybodaeth gamarweiniol honno i’r papur? Ac, yn bwysicach fyth, PAM fydden nhw’n gneud hynny?

Fe benderfynodd y Pwyllgor Amddiffyn argraffu 500 copi o’r holiadur er mwyn rhoi cyfle i ganran go dda ohonoch chi gael mynegi barn. Teimlem fod 500 yn ganran teg iawn o’r boblogaeth, o gofio mai 180 ar y mwyaf ohonoch a gafodd gyfle i fynychu sesiynau ymgynghorol y Bwrdd Iechyd yn 2012.
Hyd yma, fe gafodd 469 o’r holiaduron eu llenwi a’u hanfon yn ôl atom ac mae rheini i gyd (ac eithrio un!) yn cefnogi’r galw am adfer gwlâu a gwasanaethau pelydr-X a mân anafiadau i’r dref.

468 allan o 469 ohonoch yn gwbwl bendant ar y mater, ac ambell aelod o’r PIGCI yn eich mysg! (Gyda llaw, wyddom ni ddim yn iawn be ddigwyddodd i’r 31 holiadur na chafodd eu dychwelyd ond mae tystiolaeth bod rhai ohonynt wedi cael eu difa’n fwriadol!) Sut bynnag, gan mai defnyddio canrannau mae bwrdd iechyd y Betsi yn ei wneud bob amser i gyfiawnhau eu penderfyniadau, yna fe wnawn ninnau yr un peth, sy’n golygu bod 99.78% ohonoch yn unfryd unfarn y dylid cael y gwasanaethau hyn i gyd yn ôl. Ond eto i gyd, dewis cau llygad a throi clust fyddar i’ch dymuniadau chi a wnaeth Mr Drakeford ac aelodau’r Betsi a’r PIGCI, ac mae’n achos pryder gwirioneddol bod ein Aelod Cynulliad a’n cynghorwyr ni mor dawel ar y mater.                                                                        GVJ

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon