14.4.14

Merched y Wawr a Sefydliad y Merched

Cafodd y merched gychwyn prysur iawn i'r flwyddyn eto eleni ym Mro Ffestiniog.

Dyma ddetholiad o newyddion o'r canghennau o rifynnau Mawrth ac Ebrill 2014:

 


MERCHED Y WAWR, Blaenau.

Cynhaliwyd cyfarfod Chwefror ar y 24ain yn y Ganolfan Gymdeithasol o dan lywyddiaeth Ceinwen Humphries.  Cyhoeddwyd y bydd tlws am lefaru, oed cynradd, yn cael ei gynnig yn Eisteddfod yr Urdd, y Bala, yn enw cangen y Blaenau.
Gwraig wadd y noson oedd Naomi Jones, rheolwraig prosiect “Yr Ysgwrn”gyda Pharc Cenedlaethol Eryri. Mae wrth y gwaith o ofalu am y tŷ, adeiladau'r fferm, y tir amaethyddol, yr ardd a'r byngalo ers blwyddyn bellach; yn mwynhau'r gwaith ac yn frwdfrydig iawn yn ei gylch.  Siaradodd yn ddifyr ac addysgiadol iawn am hanes y safle a rhan Hedd Wyn y bardd a'r milwr ynddo.  Cyflwynodd ddarlun o gyfnod y rhyfel byd cyntaf mewn ardal wledig, sydd mor addas o gofio mai eleni y cofir canmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Mawr. Diolchodd Pegi Lloyd Williams i Naomi am noson ardderchog.
Y gŵr a'r wraig wadd ym mis Mawrth oedd Olwen a Wyn Jones, Ty'n Braich, Dinas Mawddwy.  Rhoddodd Olwen gefndir y fferm a'r teulu i ni, teulu oedd wedi byw yn Nhy'n Braich yn ddi-dor dros y canrifoedd ers 1012.  Dangoswyd ffilm am y tri brawd dall oedd yn gefndir i nofel arbennig Angharad Price - “O! Tyn y Gorchudd”.  Mae Angharad, wrth gwrs, yn gyfnither i Wyn ac yn aelod pwysig o deulu Ty'n Braich.  Yna aeth Wyn ymlaen i roi darlun i ni o'i daid a'i nain a'i dri ewythr – y tri brawd, a phwysleisiodd mor bwysig ydy cofnodi profiadau teuluol rhag iddynt fynd yn anghof. 
Diolchodd Megan yn gynnes i'r ddau am hanes mor ddiddorol.


Merched y Wawr Llan

Bu cyfarfod cyntaf 2014 yn y Neuadd ar nos Fawrth, Chwefror 4ydd.  Yn absenoldeb ein llywydd Iona, croesawyd yr aelodau gan Nesta, ynghyd a’n hysgrifennydd Ann.  Pleser i Nesta oedd cyflwyno Sian Northey i’r aelodau.  Braf oedd cyflwyno hogan sydd wedi ei magu yn yr ardal, ac sydd erbyn hyn wedi cyflawni llawer yn myd llenyddiaeth Gymraeg gan ennill llawer gwobr, gyda mwy o lyfrau ar y gweill i ddod yn ystod 2014.  Ar wahan i’w llyfrau ei hun, mae wedi bod yn gyfrifol am olygu tair cyfrol. 
Cafwyd detholiad o rai o’i llyfrau a’u cefndir ac roedd yn noson ddiddorol. 
Cyfarfu’r merched wedyn i ddathlu Gwyl Ddewi yn y Pengwern. Croesawyd Wenna Francis Jones, Megan, Lowri, Awel a Rhodri atom ac fe gawsom noson arbennig yn eu cwmni. Cafwyd amrywiaeth hyfryd o ganeuon ganddynt, ac hefyd llefaru gan Rhodri a cherdd dant gan Awel, gyda Wenna yn cyfeilio iddynt. Noson arbennig a phawb wedi mwynhau a diolchwyd iddynt gan Iona. Yna cafodd pawb gawl cennin wedi ei baratoi gan staff y Pengwern – canmoliaeth a diolch i Karen.


Merched y Wawr Trawsfynydd

Ein gwraig wadd yn Chwefror oedd Rhiannon Parry, Penygroes.  Hi yw golygydd Y Wawr a bydd ei gwaith yn dod i ben ar ol y rhifyn nesaf.  Llongyfarchwyd hi ar safon y cylchgrawn yn ystod ei chyfnod wrth y llyw.
 Athrawes wrth ei galwedigaeth hyd nes i ddau gyfnod o salwch blin iawn a misoedd mewn hosbis olygu iddi droi at bwytho.   
Tra’n byw yn Llansanan, mynychodd ei dosbarth brodio cyntaf yn Y Rhyl.  Cawsom weld gwaith o wahanol gyfnodau o’i bywyd.  Roedd yn wledd cael gweld darnau o’i gwaith amlgyfrwng – llun o Flodeuwedd wedi’i ysbrydoli gan R.S. Thomas, Awyr a Mor gan ddefnyddio darnau o dun, plastig a sbwriel bigodd oddi ar draeth Llanddulas.  Roedd wedi llifo hen flanced o eiddo ei mam yng nghyfraith a rhoi pwythau man trwyddo a gosod dail o ffelt yn addurn.  Hyfryd!  Clustog wedi’i ysbrydoli tra yn Llydaw; llun bwthyn bach ei modryb a llinell o Traed Mewn Cyffion, Kate Roberts.  Popeth yn dangos dychymyg eithriadol. 
Ar nos Iau, Mawrth 20, daeth aelodau’r gangen at ei gilydd i ddathlu dydd Gwyl Ddewi yng ngwesty’r Cross Foxes yn y pentre. Daeth Beti Puw Richards, Maesywaen a phedair o aelodau parti Perlais i’n diddanu ar ol y pryd bwyd blasus. Edryd Williams, Bethel, oedd eu hunawdydd gwadd, dewr yng nghanol yr holl ferched. Arweinwyd y noson gan Rhian Elena o Lanfihangel Glyn Myfyr a Beti wrth y piano. Cafwyd rhaglen amrywiol iawn o unawdau, deuawdau, pedwarawdau a’r pump yn canu gyda’i gilydd. Mae ystod gallu cerddorol y bobl ifanc yma yn eang iawn – cerdd dant, alawon gwerin, caneuon o’r sioeau cerdd a chaneuon traddodiadol Cymreig. Yn ychwanegol at y cyfeiliant piano cafwyd unawd i gyfeiliant gitar gan Rhian Elena. Er bod yr awyrgylch yn gartrefol braf, barn pawb ar y diwedd oedd i hwn fod yn gyngerdd gwerth chweil a chafwyd cymeradwyaeth brwd.



SEFYDLIAD Y MERCHED Blaenau.

Cyfarfu'r Sefydliad nos Fawrth, Chwefror 25 i ddathlu noson   Gymreig gyda Mrs Wenna F. Jones a Mrs Delyth Lloyd-Grey a chwech o blant talentog iawn.
Cawsom unawdau a deuawdau gan y plant, Megan, Lowri,Awel, Rhodri, ac Ioan yr ieuengaf sydd yn 5 oed, hefyd cawsom adroddiad gan Rhodri, "Fy Ystafell Wely" Diolchwyd iddynt gan Mrs Lina Jones. Derbyniwyd gwahoddiad gan Sefydliad Llan Ffestiniog  i ymuno a hwy i glywed sgwrs am Owain Glyndwr.
Ein gwr gwadd ym mis Mawrth oedd Mr Gareth T. Jones yn arddangos lluniau o'r ardal rhwng 1950 a 1970. Rhai fel Moi R.E. a'i geffyl, codi Ffatri Metcalf a'i agor yn 1954, Pwerdy Tanygrisiau a llawer mwy. Diolchwyd iddo gan Mrs Lina Jones am noson ddifyr iawn.





No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon