18.10.13

Pigo tyllau yn nadleuon y bwrdd iechyd

Mae rhifyn Hydref allan, ac yn llawn o erthyglau, newyddion, cyfarchion a lluniau eto.

Mae'r rhifyn yn rhoi lle amlwg eto i'r ymgyrch i adfer gwasanaethau llawn yn yr ysbyty coffa.

Mae'r Pwyllgor amddiffyn yn egluro ar y dudalen flaen a thu mewn, yn UNION be maen nhw'n feddwl o waith y bwrdd prosiect lleol. 

Darllenwch yn llawn yn Llafar Bro, ond dyma flas o'r erthygl:




Y pedair egwyddor bwysicaf yng ngolwg y Bwrdd Prosiect oedd y rhain --
(i)                 ‘Cael gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol yn yr un lle.Gan y gwyddom eisoes mai’r bwriad yw symud y feddygfa hefyd i’r ‘lle’ hwnnw, sef adeilad yr Ysbyty Coffa, yna rhaid gofyn beth fydd ar ôl yn y Ganolfan Iechyd bresennol a beth yw cynlluniau’r Bwrdd ar gyfer yr adeilad hwnnw? Nid ei werthu meddan nhw heddiw, ond be am fory? 
(ii)               ‘Canolbwyntio ar atal salwch a lles’: Syniad gwreiddiol yn wir, sef cael gwasanaeth iechyd a fydd yn canolbwyntio ar gadw pobol yn iach! Onid atal lles pobol yr ardal oedd gneud i ffwrdd â’r Uned Mân Anafiadau a’r Uned Pelydr-X , a gwrthod derbyn cleifion i’r Ysbyty Coffa? A sut, meddech chi, bod colli dau feddyg o’r practis lleol yn helpu i atal salwch?
[Er gwybodaeth, doctoriaid Penrhyndeudraeth a gafodd y contract o ofalu am Ysbyty Alltwen ac fe wyddom fod y practis hwnnw wedi elwa’n sylweddol ers hynny oherwydd mae gan bentref Penrhyndeudraeth, erbyn heddiw, gymaint â phump o ddoctoriaid yn cynnig eu gwasanaeth, o gymharu â dim ond dau yn y cylch hwn!]
(iii)             ‘Cynnwys uned addysg i ddatblygu sgiliau cymuned’: Be ar y ddaear mae hwnna’n feddwl, meddech chi? Ai awgrym sydd yma nad ydi’n nyrsys ni ddim wedi bod yn datblygu eu sgiliau ar hyd y blynyddoedd?
(iv)              ‘A’r potensial ar gyfer datblygu ymhellach yn y dyfodol’: Ys dywed y Sais – ‘Enough said!’
Aeth yr erthygl ymlaen wedyn i ddyfynnu Dr Bill Whitehead, Cyfarwyddwr Prosiect a Chadeirydd y Bwrdd. ‘Os bydd ein cynlluniau’n llwyddo’Os’, sylwch, nid Pan! – bydd Blaenau Ffestiniog yn dangos y ffordd ymlaen i weddill Cymru.’ Rhaid bod y dyn yma, efo gradd Rhydychen tu ôl i’w enw, yn meddwl ein bod ni’n ddiniwed ar y naw os ydi o’n disgwyl inni lyncu rhyw addewidion ac ystrydebau gwag fel’na. ‘Rhaid edrych ymlaen yn hytrach nag yn ôl,’ meddai. Ia, hwylus iawn, o gofio mai fo a’i debyg a fu’n gyfrifol am y sefyllfa drychinebus rydan ni ynddi, bellach.


Hefyd yn rhifyn Hydref, mae'r Pigwr yn rhoi ei farn yn berffaith glir:


Llun PW
Yn dilyn ymddiswyddiad tri o aelodau blaenllaw, bradwrus Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, a fu'n gyfrifol o'r penderfyniad i gau'r Ysbyty Coffa leol, daeth cwango newydd i rym.   

Ond, ddarllenwyr annwyl, os ydych yn disgwyl newidiadau syfrdanol i'r gwasanaeth iechyd, neu'n gobeithio gweld ailsefydlu rhywbeth tebyg i'r hyn a fu ar gael i gleifion yr ardal dros y blynyddoedd, meddyliwch eto. Yn lle'r hyn a ladratwyd oddi wrthym mor greulon gan y diawliaid dideimlad hynny ym mis Mawrth, cynigir rhyw destun gwawd o wasanaeth eilradd ar ein cyfer. 

Mae Gwasanaethau Hamdden Gwynedd (be wnelo'r rhain â'r gwasanaeth iechyd, dyn a ŵyr) am gynnal Dosbarth atal codymau ar b'nawniau Mercher. Ac o fis Hydref ymlaen, mi fydd rhaglen 'Bwyd Doeth' yn dechrau, unwaith yr wythnos. Hwre!! Mi fydd hynny'n siŵr o wella'r holl gleifion sy'n diodde' o amrywiol anhwyldera, ac yn disgwyl ers misoedd am wely mewn ysbyty! Be fydd cynllunia' chwyldroadol nesa'r bartneriaeth tybed? Dobarthiada' tidliwincs i'r henoed, neu glinic Bingo trwy gyfrwng y Gymraeg, fel modd i ymlacio, ac i anghofio am holl broblemau gofal iechyd ym Mlaenau Ffestiniog?   


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon