14.8.12

Stolpia

Darn o erthygl Steffan ab Owain a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2012:


Corn carw
 Yr wyf wedi meddwl sôn am y canlynol ers peth amser gan obeithio y gall un ohonoch chi ddatrys y dirgelwch. Yn ei chyfrol Pagan Celts (1996 ) gan Dr Anne Ross ceir llun o gorn carw gyda cherfiadau diddorol arno a dywedir mai yng nghyffiniau Blaenau Ffestiniog y darganfuwyd ef. 
Cerfiadau o wynebau pobl ydynt ac mae’r corn yn dyddio o gyfnod yn ein cynhanes. Ar wahân i’r cyfeiriad hwn, ni fedraf ddweud imi weld dim amdano yn unman arall na chlywed amdano gan neb o gwbl.


Yr unig gyfeiriad arall y gwn i amdano parthed cyrn carw yw’r nodyn yn atgofion Bryfdir sef ‘Bro fy Mebyd’ a ymddangosodd yn Y Rhedegydd, Gorffennaf 22ain, 1937.

 Ysgwn i beth a ddigwyddodd i’r rheiny ? A ydynt wedi diflannu oddi ar wyneb y ddaear ac i ebargofiant, neu a gawson nhw gartref arall a’u diogelu gan rywun a meddwl ohonynt? 
Anfonwch air os ydych â gwybodaeth amdanynt hwy neu’r un a cherfiadau arno.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon