26.1.25

Senedd ‘Stiniog- Iaith a Ieuenctid a Mwy

Cymraeg yn unig fydd iaith y Cyngor

Penderfynodd Cyngor Tref Ffestiniog trwy fwyafrif yn mis Tachwedd, mai’r Gymraeg fydd unig iaith y Cyngor o hyn ymlaen. Roedd hyn mewn ymateb i lythyr a dderbyniwyd oddi wrth Gyngor Cymuned Llanystumdwy. Roedd Cyngor Llanystumdwy wedi awgrymu y dylai Cynghorau Cymuned gefnogi argymhellion Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru o dan y cytundeb rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, y dylid dynodi Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol yng Nghymru, lle byddai Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yn gwneud ymdrech arbennig i atgyfnerthu’r Gymraeg fel iaith gymunedol. 

Cytunodd y Cyngor, trwy fwyafrif, i fynd ymhellach na hyn, gan ddatgan na fyddai’r Cyngor yn cyhoeddi agendas neu gofnodion yn y ddwy iaith o hyn ymlaen, ac na fydd yn talu i gyfieithydd yn y dyfodol pan fydd rhywun di-Gymraeg yn annerch y Cyngor.  

Dywedodd y Cyng. Geoff Jones y dylai’r Cyngor ddatgan mai’r Gymraeg yw iaith y Cyngor. Ymatebais fy mod yn cefnogi’r argymhellion Comisiwn y Cymunedau Cymraeg, ond nad oeddwn i’n cefnogi peidio â chyhoeddi cofnodion neu agendas dwyieithog oherwydd fod hynny yn erbyn y gyfraith, ac y dylai’r Cyngor wasanaethu holl bobl yr ardal. Un o’r peryglon yw y bydd y drafodaeth o bosibl yn troi i’r Saesneg pan fydd rhywun di-Gymraeg yn annerch Cyngor. Cafwyd pleidlais, ac roedd pob Cynghorydd ond finnau a’r Cyng. Morwenna Pugh o blaid peidio a defnyddio cyfieithwyr yn y dyfodol a pheidio a cyhoeddi agendas a chofnodion y ddwyieithog. Felly, dyma beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.

Cefnogi’r Clwb Ieuenctid

Ar nodyn llai dadleuol, roedd Bryn Sion, gweithiwr ieuenctid wedi dod i siarad efo’r Cyngor am y clwb ieuenctid. Dywedodd o fod y niferoedd sy’n mynychu’r clwb wedi codi, i 117 ar gyfartaledd a fod y Clwb yn gweithio’n agos gydag Ysgol y Moelwyn. Yn ddiweddar, roedd yr aelodau wedi cerfio llusernau a chael sesiwn goginio. Mae’r clwb yn awyddus fynd ar drip i rinc sglefrio, ac i fynd i disco ym Mhorthmadog. Mae aelodau’r clwb eisiau’r clwb Xbox neu PS5, neu hurio’r neuadd yn y clwb hamdden am awr i chwarae. Roedd rhai aelodau’r clwb wedi ysgrifennu llythyrau at y Cyngor i ategu y pwyntiau yma ac fe gytunodd y Cyngor gyfrannu £2,000 i wneud hyn yn bosibl. 

Yr ysgrifen ar y pafin

Derbyniwyd llythyr oddi wrth Gyngor Gwynedd yn dweud fod y Cyngor yn bwriadu ailwynebu rhannau o bafin ar lonydd Sgwâr y Blaenau. Y bwriad yw gosod inserts llechi yn y pafin, yn debyg i’r rhai ar y Stryd Fawr,  a gofynnwyd i’r Cyngor basio ymlaen unrhyw syniadau am ddywediadau. Mae’r pafin ar y Stryd Fawr yn cynnwys dywediadau lleol megis “Tomenni ydi’n cestyll ni”, “Trech gwlad nag arglwydd” a “Lobsgows troednoeth”.  Gwnaed ambell i awgrym, ond os oes gennych chi syniad da am ddywediad, pasiwch o ymlaen at ein Clerc ni, cyfeiriad isod!


Seddi gwag ar y Cyngor

Ar ôl ymddiswyddiad y Cyng. Linda Jones ym mis Hydref, dim ond 10 Cynghorydd sydd ar y Cyngor Tref, er bod yna 16 o seddi. Mae yna un sedd wag ym Mowydd a Rhiw, un sedd wag yng Nghonglywal, dwy sedd wag yn Niffwys a Maenofferen a dwy sedd wag yng Nghynfal a Theigl. 

Hoffech chi siarad a gweithio dros eich cymuned chi ar Gyngor Tref Ffestiniog? Os felly, fe fyddai Clerc y Cyngor yn hoffi clywed oddi wrthoch chi! Gellir cysylltu â hi ar clerc@cyngortrefffestiniog.cymru neu 01766 832398.
- - - - - - - - -

Ymddamgosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2024






22.1.25

Y Gymdeithas Hanes- Tipyn o Hwyl

Arferai pobl ‘Stiniog ddweud bod cael eira cyn Ffair Llan yn beth anarferol iawn, ond gyda’r Newid Hinsawdd, y mae popeth yn newid ac fe fu yn rhaid i’r Gymdeithas Hanes ohirio eu cyfarfod fis Tachwedd am wythnos oherwydd tywydd garw. 

Ta waeth am hynny, pan gynhaliwyd y cyfarfod, wythnos yn hwyr, fe gafwyd noson i’w chofio. Y siaradwr oedd Hefin Jones-Roberts a thestun ei sgwrs oedd “Tipyn o hwyl ac o hanes” a dyna yn union a gafwyd.

Dechreuodd efo hanes ei blentyndod yn Stryd y Pant (neu Glanafon Terrace) yn Nhanygrisiau. Adroddodd am y tlodi oedd yn bodoli yn y ’30au a pha mor galed y gweithiai y gwragedd i gadw tŷ ar gyfer teuluoedd mawr. Aeth ymlaen wedyn i drafod arferion pysgota – neu potsio, y dynion, gyda straeon difyr am gymeriadau lliwgar. Pêl droed oedd yn mynd â diddordeb llawer o ddynion eraill a chlywsom eto straeon am b’nawniau Sadwrn prysur ar Gae Ddôl.

Soniodd lawer am ddylanwad yr heddwas lleol ar ei gymuned. Diddorol oedd clywed am y nosweithiau gwyllt a gafwyd yn y dawnsfeydd a’r tafarndai a sut yr oedd y Sarjant yn gallu eu sortio yn ddi-lol.

 

Gyda Hefin ei hun wedi gwasanaethu ein cymuned mor ffyddlon am yr holl flynyddol, nid yw’n syndod bod ganddo lawer iawn o straeon am y gwasanaeth iechyd yn lleol. Clywsom am helyntion yr ambiwlans a’r meddygon lleol a’r gwasanaeth gwych a gafwyd dan amgylchiadau anodd.

Fe wnaeth pawb fwynhau y noson yn arw iawn. 


Cofiwch bod Rhamant Bro allan rwan, ac ar gael mewn sawl lle, er enghraifft Siop Lyfrau'r Hen Bost, Co-op, Siop y Gloddfa, Londis, Tŷ Coffi Antur Stiniog, Siop Pen-bryn Llan, a siopau Eifionydd a Pikes ym Mhorthmadog. Dim ond £4 am wledd o erthyglau a lluniau.
- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2025


18.1.25

Ti yn llygad dy le...

...Neu fel mae Hywel Pitts yn canu yn ei gân Saesneg ardderchog ‘You’re in the eye of your place’! 

Eglurodd y meistr geiriau ei fod wedi rhoi un o’i ganeuon Cymraeg trwy beiriant cyfieithu Gwgl i greu ei unig gân Saesneg. Y canlyniad ydi clincar o gyfansoddiad sy’n llawn o idiomau hurt bost fel: 

On Jupiter day last week she was raining rain’; 

I didn’t swallow a donkey’; ac 

I had a disappointment on the best side’. 

Fel honno, cafodd ei ganeuon smala a chlyfar ymateb da iawn gan y gynulleidfa oedd wedi dod i gaffi Antur Stiniog ar nos Wener olaf Hydref, ac mi gafwyd noson arbennig iawn o chwerthin a chyd-ganu efo’r dychanwr medrus.


Merch o’r Llan, Llio Maddocks, oedd yn rhoi sgwrs y tro hwn ac mi gawsom ni ddetholiad o’i cherddi; rhai yn deimladwy fel ‘Mi ddysgais gan fy nhad’, neu’n ymateb i bobl sy’n galw Stiniog yn llwyd (‘Cwrdd’ -hon yn llawn yn fan hyn, efo erthygl gan Llio o 2020). Eraill yn hynod fachog, fel ‘Can I just call you Clio’, sy’n ymateb i hogyn oedd yn rhy ddiog i wneud ymdrech i ynganu ei henw yn iawn, profiad cyffredin iawn i bawb sydd ag enw Cymraeg! 

Dyma bwt i chi gael blas, ond mi fedrwch brynu pamffled o gerddi gan Llio -Stwff ma hogia ‘di deud wrtha fi- yn siop lyfrau’r Hen Bost er mwyn darllen mwy, neu ei dilyn (@llioelain) ar instagram.

It’s Llio. Mae o’n hawdd sdi.
Gad i mi dy ddysgu di.
LL. As in lle *** mae dy fanars?
I-O. As in sŵn y seiran fyddi di’n glwad
Ar ôl cael swadan.
Diolch Llio am gyfraniad arbennig i noson wych. Mae bob tro’n braf iawn cael croesawu plant Stiniog yn ôl, ac roedd y gynulleidfa’n amlwg o’r farn fod ei sgwrs hi am ddylanwad ei milltir sgwâr wedi taro deuddeg.


YesCymru Bro Ffestiniog oedd wedi trefnu’r noson, y ddegfed o’r gyfres Caban, sy’n tynnu sylw at yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru dan y bennawd Adloniant; Diwylliant; Chwyldro. Mi fydd y nesa ar nos Wener olaf Ionawr, efo Meinir Gwilym a Rhian cadwaladr yn diddanu. Welwn ni chi yno.
- - - - - - - - - - 

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2024


12.1.25

Ymgyrch Tafarn y Wynnes

Cynhaliwyd cyfarfod yng Nghapel Hyfrydfa ym mis Hydref i drafod prynu ac adfywio Tafarn y Wynnes. Roedd yr ymateb yn werth chweil, bu i oddeutu 60 o bobl droi fyny, yn ogystal â hyn roedd llawer wedi ymddiheuro gan ei bod methu mynychu ond yn awyddus i helpu hefo’r fenter.  

Yn cyfarfod roedd pawb yn cytuno bod eisiau ail agor Y Wynnes yn ôl fel tŷ tafarn yn ogystal â defnyddio’r adeilad fel canolfan i’r gymuned. Trafodwyd gweithgareddau oedd yn addas i bob oed, roedd y rhain yn cynnwys, caffi, siop, paratoi prydau parod, hybu’r iaith drwy gynnal gwersi Cymraeg, dyddiau a nosweithiau cymdeithasol. Peth braf oedd gweld bod llawer o bobl yn teimlo’n angerddol am ail agor yr adeilad a hefyd yn fodlon helpu yn yr ymgyrch.

Mae’r Wynnes bellach wedi cau ei ddrysau ers wyth mlynedd; er hyn mae llawer o bobl yn cofio’r Wynnes fel calon i’r gymuned, ac yn hel atgofion am yr adeilad. Mae gweld yr adeilad wedi dirywio yn dorcalonnus. Mae’r ffaith ei fod ar werth yn y cyflwr yma wedi cael pobl i siarad a thrafod sut mae llawer o bentrefi wedi gallu ail agor adeiladau er budd y gymuned. Barn pawb sy’n rhan o’r ymgyrch ydy mai'n bosib dilyn sawl tafarn cymunedol arall sydd wedi sefydlu yn llwyddiannus. 


Mae’r ymgyrch yn ei ddyddiau cynnar. Hyd yn hyn rydym wedi llwyddo codi ymwybyddiaeth am dafarn cymunedol ym Manod. Mae cais am grant wedi mynd mewn, yn ogystal ag eraill ar y ffordd. Bu i ni gael trafodaeth gyda Radio Cymru ac erthygl yng nghylchgrawn Golwg er mwyn rhannu’r gair. Y diweddaraf ydy ein bod wedi sefydlu pwyllgor sydd yn barod i weithio yn galed ar yr ymgyrch. 

Fel dechrau pob ymgyrch, rydym yn wynebu heriau, yr un mwyaf ydy bod yr adeilad ar werth am bris uchel, er fod y pris wedi dod lawr yn ddiweddar. Y camau cyntaf fydd cael prisiwr annibynnol ac asesu’r adeilad yn iawn. Siarad hefo’r perchennog a gofyn oes posib ei dynnu oddi ar y farchnad am ychydig amser, er mwyn cael trefn ar y sefydlu. Y peth pwysig sydd rhaid gwneud ydy symud yn gyflym. 

Y ffordd ymlaen fel sydd wedi cael ei drafod yn y pwyllgor diweddara: trafodaethau a chael cyngor gan dafarndai sydd wedi sefydlu. Mwy o geisiadau grantiau, a chyfranddaliadau cymunedol . Bydd mwy o wybodaeth am hyn i ddilyn yn fuan. I’r fenter yma lwyddo rydym yn awyddus i gael cefnogaeth mwy o bobl a busnesau o’r gymuned i ymuno yn y project yma.

Peth braf fysa gallu cyflawni'r uchelgais yma. Dychmygwch mor fendigedig fysa gweld Tafarn y Wynnes yn ôl yn ei ogoniant ac yn cynnig croeso cynnes i bawb. Edrychaf ymlaen at rannu mwy o wybodaeth a diweddariadau.

I unrhyw un sydd eisiau bod yn rhan o’r project cyffrous yma, (mi fydda ni wir yn gwerthfawrogi). Plîs cysylltwch hefo Nia neu Gwenlli. Hefyd cofiwch ddilyn ein tudalen facebook Wynnes Cymunedol er mwyn cael y newyddion diweddaraf.
Gwenlli@cwmnibro.cymru  

niapar71@gmail.com

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2024


Traphont Blaen y cwm

Mi es am dro yn ddiweddar i weld traphont Cwm Prysor oedd yn cario yr hen reilffordd o Drawsfynydd i’r Bala. Doeddwn erioed wedi bod yn ei gweld o’r blaen ond mae’n ddigon hawdd i’w chyrraedd ac mae na rywbeth hollol swreal am y bont hynod hon. Aeth cymaint o lafur i’w hadeiladu ond mae bellach yn segur fel rhyw atgof o’r hyn a fu. Un o hynodion ardal Llafar Bro yn sicr.

Mae traphont (viaduct) Blaen y cwm neu draphont Cwm Prysor fel y’i gelwid mewn cyhoeddiadau swyddogol, yn croesi pen uchaf y cwm gyda golygfeydd godidog y lawr y cwm tuag at y Rhinogau. 

Fe'i hadeiladwyd gan Reilffordd y Bala a Ffestiniog. Roedd yn cario un trac ar lein oedd yn rhedeg rhwng Cyffordd y Bala a Blaenau Ffestiniog. Caewyd y rheilffordd yn 1961 a chodwyd y cledrau yn ddiweddarach. Mae'r bont yn cynnwys naw bwa carreg lle'r oedd trenau i deithwyr yn rhedeg o 1882 i 1960, gyda threnau cludo nwyddau yn para tan 1961. 

 

Y draphont hon oedd y bont unigol fwyaf sylweddol ar y llinell … hyd yn oed o’i chymharu â Phont Fawr y Gelli sydd ar yr un trac ond yn y Blaenau! Ym 1953 gwnaed gwaith atgyweirio helaeth lle manteisiwyd ar y cyfle i godi'r parapet ac ychwanegu rheiliau metel ar ei ben. Mae’r bont yn sefyll ar uchder o 1,270 troedfedd sef man uchaf y rheilffordd. 

Boddwyd rhan o’r trac i’r Bala pan godwyd argae Llyn Celyn a boddi Capel Celyn. Pan agorodd y lein Tachwedd 1af 1882, roedd y terminws gogleddol yn Llan Ffestiniog ac oddi yno y trawsgludwyd nwyddau ar linell gul i’r Blaenau ac ar Medi 10fed 1883 agorwyd y trac ar led safonol ar y daith gyntaf i’r Blaenau. Yn 1910 daeth yn lein yn rhan o reilffyrdd y Great Western. 

Wrth deithio ar hyd yr A4212 ar ben uchaf Cwm Prysor medrwn weld yr olygfa, annisgwyl i ymwelwyr yn sicr, o draphont odidog ar fynyddir llwm sydd bellach wedi ei llyncu gan y tirwedd. Mae bron wedi mynd yn angof ond dylai fod yn un o eiconau trafnidiol hynotaf hanes adeiladu rheilffyrdd Cymru. Mae'r bont yn un o ryfeddodau peiriannaeth Fictoraidd sy'n dal i sefyll yn urddasol 122 o flynyddoedd ar ôl ei chodi (1882). Ond er bod croesfannau rheilffordd eraill yng ngogledd Cymru yn cael eu dathlu'n briodol, mae Traphont Blaen y cwm wedi ymddeol i ebargofiant.

Mae llwybr goddefol dros ei naw bwa ac felly mae modd cerdded dros y bont gan ddilyn yr hen drac Ond er ei bod yn gymharol agos at y brif ffordd rhwng Capel Celyn a Thrawsfynydd, mae'r draphont yn aml yn ymddangos yn anodd mynd ati. I’r rhai sy’n mentro ceir golygfeydd gwych i lawr y dyffryn. Mae modd parcio ger Llyn Tryweryn yn y gilfan sydd rhyw hanner milltir o’r bont. Mi wnes i fentro ychydig wythnosau’n ôl ac ar ôl yr haf gwlyb mae angen esgidiau cryfion i gerdded yno!

450 troedfedd ydy rhychwant y bont ac mae Afon Prysor yn rhedeg drwy’r bwa canol. Adeiladwyd y rheilffordd at wasanaeth chwareli Blaenau Ffestiniog ond roedd y lein 22 milltir o’r Blaenau i’r Bala yn achubiaeth i gymunedau ynysig nes adeiladu'r A4212 drwy Gwm Prysor yn 1964. Erbyn canol y 1950au roedd yn mynd yn anodd cynnal y gwasanaeth i deithwyr ac yn 1957 dim ond tri theithiwr y dydd oedd yn defnyddio gorsaf Cwm Prysor. Roedd y rheilffordd hefyd yn rhoi dewis i blant Trawsfynydd os oeddynt am fynychu Ysgol Sir Ffestiniog neu Ysgol y Bala ac roedd nifer yn teithio bob dydd o Traws i’r Bala i fynd i’r ysgol uwchradd. Ond, yr oedd yr ysgrifen ar y mur pan benderfynwyd boddi Capel Celyn a rhan o’r rheilffordd a doedd modd cadw’r rheilffordd ar agor wedyn.

Ar y teledu’n ddiweddar clywais y sylw hwn: "Byddai'n wych pe baen nhw'n ailagor y lein o'r Bala i Ffestiniog. Byddai'n denu llawer o dwristiaid i'r ardal i weld harddwch naturiol a golygfeydd Cymru."  Tasg enfawr ac anhebygol…ond tybed? Ac ystyried y diffyg penderfynu, heb sôn am weithredu, ynglŷn â dyfodol y trac rhwng Blaenau a Traws (gweler Lein Blaenau-Traws) hwyrach mae gadael hen draphont Blaen y cwm yn ei hunigedd ysblennydd sydd orau ac yn safle i rai o gerddwyr y fro …
Tecwyn Vaughan Jones

- - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2024

 

Y llun du a gwyn: © 2024 James Perry

2.1.25

Sefyll yn y Bwlch

Ar ddydd Sadwrn y 9fed o Dachwedd bu aelodau a chefnogwyr YesCymru Bro Ffestiniog yn chwifio baneri ar ochr yr A470 ar Fwlch Gorddinan, y Crimea. 

Roedd 26 o ganghennau trwy Gymru yn cymryd rhan y bore hwnnw er mwyn tynnu sylw, fel un, at yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru. ‘Baneri ar Bontydd’ ydi enw’r ymgyrch, ond gan nad oes gennym unrhyw bontydd addas dros y ffordd fawr yn ein dalgylch, rhaid bod yn greadigol efo’n lleoliadau ac mae sefyll yn y Bwlch yn addas iawn. 


Cafwyd cefnogaeth arbennig gan yrrwyr a theithwyr i’n harddangosfa liwgar o faneri, a hyn y codi calon y rhai ddaeth allan yn yr oerfel. Diolch i Mari a genod caffi’r llyn am wneud cawl blasus, i’n cynhesu wedyn!

Diolch yn fawr i Gyngor Gwynedd am alw ar lywodraeth San Steffan i ddatganoli’r cyfrifoldeb dros Ystâd y Goron i Gymru. Mae YesCymru wedi cynnal ymgyrch genedlaethol i dynnu sylw at yr anhegwch fod yr holl incwm o diroedd y goron yng Nghymru yn mynd yn syth i drysorlys Llundain ac i deulu’r brenin, gan gynnwys incwm o gynhyrchu trydan dŵr a gwynt; pibelli dŵr a cheblau dosbarthu trydan; rhent pori, pysgota; trwyddedau i gloddio am lechi; ac yn y blaen. 

Wyddoch chi er enghraifft fod Cyngor Gwynedd yn gorfod talu £161,000 bob blwyddyn -eich arian treth chi a fi cofiwch- i’r goron am ‘hawl’ i gael mynediad i’r traethau?! 

Mae rheoli’r ystâd wedi ei ddatganoli i’r Alban ers blynyddoedd a nhw sy’n cael gwario’r incwm yno. Pam ddim Cymru?

Mae pedair Sir arall yng Nghymru wedi cefnogi’r alwad hefyd [mwy erbyn hyn], ac o leiaf un arall yn trafod tra oedd Llafar Bro yn y wasg. Rydym ni fel cangen wedi gohebu efo’r cyngor tref a’r cynghorau cymuned yn ein dalgylch, yn gofyn iddyn nhw hefyd datgan cefnogaeth.

Os gawsoch chi galendr newydd gan Sion Corn, cofiwch nodi fod ein noson Caban nesa ar Nos Wener, 31 Ionawr, efo Meinir Gwilym yn canu, a Rhian Cadwaladr yn rhoi sgwrs. Ar nos Wener olaf y mis bach bydd y canwr lleol Garry Hughes yn diddanu a’r arbennigwr gwleidyddol, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Richard Wyn Jones yn rhoi sgwrs. Noson ola’r gyfres fydd yr 28ain o Fawrth efo Ffion Dafis ac Osian Morris. Gwledd o nosweithiau adloniant; diwylliant; chwyldro! Welwn ni chi yno.
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2024