21.12.23

Stolpia -Doliau Glandŵr

Hen Ddiwydiannau Rhiw a Glan-y-Pwll, gan Steffan ab Owain

Fel y crybwyllwyd yn y rhifyn diwethaf, credaf mai yn yr 1960au y trowyd Ysgoldy Glandŵr a berthynai i’r Methodistaidd Calfinaidd yn ffatri ar gyfer gwneud cofroddion a doliau Cymreig. 

Drychfeddwl John E. Williams, Heulfryn, neu ‘Jake’ fel yr adnabyddid ef yn ein hardal, sef tad Davina, y ddiweddar Jayne, Jacqueline a Julianne, oedd sefydlu ffatri o’r fath yno. Un enedigol o Feddgelert ydoedd yn wreiddiol ac roedd wedi bod yn gysylltiedig â’r math hwn o fusnes ers yr 1950au. Enw’r busnes yn yr ysgoldy oedd Glandŵr Industries a chyflogid nifer o ferched yno dros y blynyddoedd. 

Bu Gwen Williams, Dolrhedyn, Diane Stone, Manod ac Ann Williams (?Tanygrisiau) yn gweithio yno yn ystod yr 1970au yn gwneud doliau mewn gwisg Gymreig, teganau, a chofroddion eraill. Dyma lun o Diane ac Ann wrth eu gwaith yn y ffatri yn Glandŵr yn paratoi’r doliau ar gyfer eu gwerthu yn y siopau lleol a’r Siop Anrhegion oedd gan y cwmni gerllaw gorsaf Betws-y-coed.

Roedd y doliau Cymreig hyn yn boblogaidd iawn gan dwristiaid o bedwar ban byd, yn ogystal â Chymry o bell ac agos. Fel y gwelir yn y lluniau gwisgid y ddol gyda het ffelt ddu, les gwyn o’i hamgylch, a ruban gwyn i’w chlymu o dan yr ên. Gwisgid ei chorff gyda blows wen llewys hir a chỳffs o les gwyn, a throsto siôl goch, sgert ddu a gwyn siecrog a ffedog les wen. Roedd ei dillad isaf hefyd yn wyn, a sanau gwynion am ei choesau a’i thraed, ac esgidiau duon.

Ceid amrywiaeth o enwau Cymraeg ar y doliau hyn megis Crugwen, Eirwen ac Anwen, ac yn ddiau, rhai enwau eraill. Ceid enwau Saesneg i gydfynd ag enwau Cymraeg y ddwy gyntaf sef Snowhite a White Heather. 

Tybed pwy sydd efo un o’r doliau hyn a wnaethpwyd yn y ffatri yng Nglandŵr? Yn dilyn marwolaeth Mr Williams yn 1976, daeth Davina ei ferch, a’i fab yng nghyfraith, i redeg y busnes a bu ganddynt siop yn y Blaenau am beth amser. 

Onid yn yr adeilad lle mae Caffi Antur heddiw oedd y siop, ynteu a ydwyf yn cyfeiliorni? Er nad wyf yn sicr, credaf i’r busnes ddod i ben yn y ffatri yn ystod yr 1980au, serch hynny, y gallwch brynu rhai o ddoliau Glandŵr ar amryw o wefannau’r rhyngrwyd. Rhyw daflu golwg sydyn ar y busnes yr wyf wedi ei wneud yma. Yn ddiau, gall Davina ddweud llawer mwy amdano nag y medraf i ei wneud.

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Hydref 2023



17.12.23

Y Gymdeithas Hanes yn Crwydro

Ddiwedd Medi cafwyd y cyfarfod cyntaf yn nhymor newydd y Gymdeithas. Roedd diwedd yr wythnos honno yn Gyhydnos i rai ac Alban Arthan neu yn Fabon i eraill, roedd cyfarfod am 5.30yh yn sicrhau digon o oleuni am o leiaf dwy awr arall i wneud taith iawn o gwmpas Rhiwbryfdir. 


Cafwyd amser arbennig yng nghwmni Steffan ab Owain a drefnodd y noson a daethom eto i sylweddoli pwysigrwydd y Rhiw yn natblygiad y Blaenau. 

Cychwynwyd y daith gyferbyn â’r hen Ysbyty Oakeley ac yna ar hyd Ffordd Fach ac anelu am Ffordd Dinas, a draw dros y rheilffordd fawr at waelod y Llwybr Cam. Wedyn ymlwybro yn ôl at Benygroes a heibio hen Gapel y Rhiw (Tai Dwyryd) a gorffen wrth y tro sy’n arwain i Gae Baltic. 

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Hydref 2023

Bu dwy ddarlith hyd yma yn y gyfres sgyrsiau poblogaidd. Y nesaf ydi HEN FURDDUNOD Y PLWYF gan Steffan ab Owain ar Ionawr 17.

Mae crynodeb o sgwrs Charles Roberts -effaith pandemig 1918- ar gael yn rhifyn Rhagfyr, sydd yn y siopau rwan.

Isod mae hanes darlith Peredur Huws (darn allan o rifyn Tachwedd 2023):

Y Gymdeithas Hanes. Cyfarfod Hydref 18fed
Cawsom wledd o luniau a phrofiadau unigryw'r teithiwr dan ddaear amlwg sef Peredur (Pred) Hughes o Bentrefelin, Cricieth. Dechreuodd ei yrfa fel saer cychod a llongau yn Falmouth, Cernyw, a thro wedyn yn gweithio ar adeiladu Gorsaf Bŵer Hydro Dinorwig yn Llanberis ac yna cyfnod yn gweithio mewn chwareli llechi yn y Blaenau a Dyffryn Nantlle. Erbyn hyn mae wedi ymddeol ac yn tywys ymwelwyr dan ddaear (rhan amser) gyda Go Below Underground Adventures yng Nghwmorthin a Rhiw-bach. Mae wrth ei fodd yn fforio hen weithfeydd ac mae’n cyfaddef fod hyn yn obsesiwn ganddo. 

Mae ganddo archif sylweddol o lunia hynod ac unigryw dan ddaear yn y gweithfeydd hyn a’r modd y mae ef a’i ffrindiau yn cerdded ac yn dringo drwyddynt. Disgrifiodd ei deithiau mewn nifer o leoedd ar hyd a lled Prydain gan ddangos lluniau mewn hen chwareli llechi, gweithfeydd plwm, aur, copr, calch ac mae ganddo luniau o’i dro yn hen waith mango (manganîs) y Moelwyn. 

Weithiau mae’n arwain ymwelwyr ond gan amlaf ef a’i ffrindiau sy’n fforio, yn ymchwilio a dilyn eu trwynau. Mae'r llunia'n dangos hen offer a ddefnyddid i weithio dan ddaer, a’r chwareli hyn bellach wedi troi’n fynwent i’r holl beiriannau hyn. Dangosodd luniau lliwgar o blanhigion a dyfai ymhell dan ddaear a hyd yn oed llyffantod a genau coeg oeddynt yn byw mewn tywyllwch parhaol cannoedd o droedfeddi o dan y ddaear. 

Roedd y sgwrs yn agoriad llygaid a deud y lleiaf! Cyhoeddodd y Cadeirydd, Dafydd Roberts fod y Gymdeithas wedi derbyn arian gan yr elusen Freeman Evans ac o’r herwydd yn medru cadw y tâl aelodaeth yn ddim on £6 dros y tymor. 

TVJ



15.12.23

Gerddi Ar y Gorwel

Diweddariad Cynllun Skyline Ffestiniog

Prif amcan ein prosiect Skyline yw dod a bwyd, tanwydd a'r wybodaeth am gynnal ein hunain yn ôl i'r gymuned leol. Fel rhan o’r gwaith, mae cynllun i ddechrau gardd fasnachol gymunedol a fydd yn weithredol ac effeithiol. Mae’r cynllun hefyd yn gweithio i hybu bioamrywiaeth yn yr ardd, a chynnig cyfleoedd gwirfoddoli a dysgu. Wrth edrych ar ymchwil newydd a thynnu o hen draddodiad amaethyddol, mae nifer o brosesau diddorol ar y gweill yno.

Dechreuwyd y gwaith ym Manod bron i flwyddyn yn ôl, ac erbyn hyn mae'r safle wedi newid yn llwyr. O dir gwastraff i ardd brydferth, mae’r safle heddiw yn adlewyrchu gwaith caled Wil Gritten a’i dîm yno dros y misoedd diwethaf.

Mae’r gwaith adeiladu mawr wedi gorffen: Mae tŷ gwydr, cwt barbeciw, a phaneli solar wedi eu codi, yn ogystal â digon o welyau plannu. Mae’r twnnel polythen 5m x 20m wedi’i godi erbyn hyn hefyd, ac wedi cael ei lenwi gyda phridd. Er mwyn cynyddu'r tymor tyfu a pharatoi ar gyfer y gwanwyn, mae pibellau cynnes wedi’u pweru o dyrbin gwynt bach yn rhedeg drwyddo.

Mae dipyn o lysiau wedi eu tyfu’n llwyddiannus yn barod, gan gynnwys pwmpenni, brocoli, perlysiau, a llysiau dail gwyrdd, ond y cam nesaf yn y prosiect bydd dechrau tyfu llysiau a ffrwythau o ddifri. Mae’n amser agor y lle i’r cyhoedd! Y gobaith yw i’r ardd gael ei gweithredu gyda chymorth pobl leol, a fydd yna’n gallu manteisio ar y cynnyrch. Yn ogystal, bydd yn bosib hefyd gwerthu’r cynhyrchion i fusnesau a sefydliadau lleol er mwyn i’r ardd allu cynnal ei hun yn ariannol yn hirdymor. Yna, gall y prosiect ehangu’n ymhellach wrth i fwy a mwy o bobl ddysgu’r broses o dyfu bwyd.

Roedd safle Maes y Plas yn ofod nad oedd yn cael ei defnyddio heblaw am ambell i berson yn mynd a’u ci am dro, felly, trwy drafod gyda swyddogion Cyngor Gwynedd, cytunwyd i’r Dref Werdd gael les rhad am 25 mlynedd i ddatblygu’r safle. Gyda’r rhan fwyaf o’r gwaith caled wedi ei gwblhau, bydd y gerddi yn rhan o brosiect newydd Y Dref Werdd sydd wedi ei ariannu gan gronfa Camau Cynaliadwy Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol. Prif nod y cynllun fydd i ddatblygu prosiectau sydd yn grymuso’r gymuned i chwarae rhan bositif gyda newid hinsawdd, yn ogystal â chynaladwyedd. Syniadau eraill fydd yn cael eu datblygu fydd meithrinfa goed fechan, plannu hyd at 3000 o goed brodorol, datblygu beics trydan ar gyfer aelodau'r gymuned, datblygu ymhellach ein gofod creu a thrwsio a rhaglen gynhwysfawr addysg gydag ysgolion a grwpiau'r Fro.

Dywedodd Gwydion, Rheolwr Prosiect Y Dref Werdd 

“Buom yn ffodus iawn o gael bod yn rhan o brosiect Skyline am y ddwy flynedd diwethaf. Mae sawl cynllun cyffrous wedi dod ohono, heb son am yr holl adnoddau gwerthfawr gaiff eu defnyddio gennym a’r gymuned. Ein bwriad a'n gobaith gyda’r ardd farchnad yw, nid yn unig darparu ffrwythau a llysiau wedi ei dyfu ym Mro Ffestiniog i’r gymuned, ond sefydlu'r gerddi fel menter yn ei hun, gyda’r gobaith y bydd yn sefyll ar draed ei hun yn y dyfodol agos wrth gynhyrchu incwm a swyddi. Fy mreuddwyd ers y cychwyn yw i efallai gallu cyflenwi ysgolion y fro gyda ffrwythau a llysiau iach sydd wedi eu tyfu ar yr un tir maent yn tyfu fyny arno, sydd am chwarae rhan fawr i’r hinsawdd. Diolch i bawb sydd wedi helpu datblygu’r safle”!

Bydd cyfle yn fuan i wirfoddolwyr gyda diddordeb mewn dysgu garddio, neu ddim ond eisiau helpu, i ddod i helpu cynnal yr ardd. Rydym eisiau clywed eich syniadau! 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â wil@drefwerdd.cymru
- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Hydref 2023



13.12.23

Mwy o Adloniant; Diwylliant; Chwyldro!

Cafwyd dwy noson o ganu a sgwrsio eto yng Nghaffi Antur Stiniog, dan ofal cangen leol yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru. 

Cynhelir Cyfres Caban er mwyn cynnig adloniant a diwylliant a chyfle i drafod a chodi ymwybyddiaeth am yr hyn y medrwn ni wneud dros ein hunain fel cymuned a chenedl.

Ar nos Wener olaf mis Medi cafwyd caneuon a straeon difyr a digri gan Mair Tomos Ifans, a cherddi gan Sian Northey. Noson hwyliog iawn mewn awyrgylch braf. 


Ar nos Wener olaf Hydref, Geraint Løvgreen a Gwil John fu’n diddanu efo rhai o’u ffefrynnau ac ambell gân newydd hefyd, a Bethan Gwanas yn son am y broses o greu ei nofel ddiweddaraf Gladiatrix, ynghyd â hanesion doniol ei theithiau.

Diolch i bawb ddaeth i gefnogi eto, roedd criw da wedi troi allan i noson Caban Hydref, yn ogystal a llawer o wynebau newydd, wedi ymuno o bell ac agos. Gwyliwch y gofod am fanylion rhan nesa’r gyfres*.

Posteri gan Gai Toms a Cadi Dafydd

- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Tachwedd 2023

* Bydd y gyfres yn ail-ddechrau ar nos Wener olaf Ionawr (26ain), ac wedyn ar Chwefror 23ain ac Ebrill y 5ed. Gallwn ddatgelu y bydd Tecwyn Ifan, a Meinir Gwilym ymysg yr artistiaid! Rhowch y dyddiadau ar eich calendrau rwan!

Hanes nosweithiau cyntaf Cyfres Caban


10.12.23

Gwaith Di-flino Glyn

Erthygl gan y Cynghorydd Glyn Daniels, o rifyn Hydref 2023

Gaf i ddechrau drwy ddiolch i Llafar Bro am fy ngwahodd i ysgrifennu ychydig am yr hyn rwyf wedi bod yn ei wneud dros y misoedd diwethaf yn fy rôl fel cynghorydd sir lleol dros ward Diffwys a Maenofferen. Felly dyma grynodeb byr o'r hyn rydw i wedi bod yn ei wneud. 

Fel llywodraethwr yn Ysgol Maenofferen, rwyf i a’r corff llywodraethu wedi bod yn ceisio cael mynediad i’r ysgol dros y trac rheilffordd o’r orsaf drenau, oherwydd y problemau traffig difrifol o gwmpas yr ysgol.

Hefyd fel aelod o bwyllgor y Ganolfan Gymdeithasol rydym wedi bod yn gweithio'n galed dros y mis diwethaf yn ceisio cael grant o hyd at £200,000 i osod ffenestri a bwyler newydd yn yr adeilad. O lwyddo i gael grant byddwn yn diogelu'r adeilad pwysig hwn i'r dyfodol. 

Rwyf  wedi bod yn mynychu nifer o gyfarfodydd yr wyf yn aelod ohonynt, sef Cyngor Gwynedd, Cyngor Tref Ffestiniog, Pwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd, Ynni Cymunedol Twrog, Llywodraethwyr Ysgol Maenofferen, Pwyllgor Rhanddeiliaid Trawsfynydd, Pwyllgor y Ganolfan Gymdeithasol ac wrth gwrs Pwyllgor Llafar Bro. Hefyd, yn ddiweddar, cefais yr anrhydedd fel cyn chwaraewr Clwb Rygbi Bro Ffestiniog o gael fy ethol yn gadeirydd y clwb. 

Rwyf hefyd wedi bod yn gweithio gyda’r Cynghorydd Elfed ap Elwyn a Network Rail i gael glanhau’r trac rheilffordd o’r gordyfiant. Rydym hefyd wedi bod yn edrych i mewn i drio helpu’r Gymdeithas Hanes i sefydlu amgueddfa yn ein tref hanesyddol ac yn y rhan hon o Wynedd. 

Yna, rydych chi'n dod at y rhan bwysicaf o fod yn Gynghorydd Sir, sef ceisio helpu fy etholwyr, boed hynny yn broblemau parcio, cŵn yn baeddu, problemau tai cymdeithasol, mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Weithiau mae pobl eisiau sgwrs gan nad ydyn nhw'n gwybod ble i droi nesaf.

Felly dyna ni, ychydig o waith misol Cynghorydd Sir.
Bu bron imi anghofio fy rôl fwyaf pwysig, sef swyddog hysbysebion i Llafar Bro
!
Felly parhewch i gefnogi ein papur lleol i sicrhau ei ddyfodol.

Os ydych angen cysylltu â fi ynglŷn ag unrhyw fater, cysylltwch â fi ar  07731605557 neu, cynghorydd.glyndaniels@gwynedd.llyw.cymru
Cofion gorau i chi gyd,
Cynghorydd Glyn Daniels
Ward Diffwys a Maenofferen

- - - - - - - - - - 

Erthygl am y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn