Eleni, 2025, dathlwyd yr Ynyd rhwng 2 Mawrth a Mawrth 4ydd, a dydd Mawrth Crempog (neu Ddydd Mawrth Ynyd fel y’i gelwir yn ogystal) yn syrthio ar Fawrth 4ydd. Dydd Mawrth Crempog yw'r diwrnod o flaen Dydd Mercher y Lludw yn y calendr Cristnogol.
Daw'r gair Cymraeg 'Ynyd' o'r gair Lladin initium ('cychwyn'), cyfeiriad at agosáu'r Grawys. Fe'i gelwir yn Mardi Gras mewn llawer o wledydd Catholig, sef "Dydd Mawrth Tew", gan ei bod yn arfer bwyta bob math o fwydydd bras a danteithion cyn dechrau ar y carnifal lliwgar blynyddol. Wedi’r elwch y deuai’r tawelwch gyda gwasanaethau eglwysig dwys Dydd Mercher y Lludw pan dynnir croes ludw ar dalcen y ffyddloniaid gan yr offeiriad fel arwydd o edifeirwch. Arfer cyffredin yn nefodau’r Iddewon gynt.
Yr oedd yr Eglwys yn y Canol Oesau yn cadw ympryd deugain niwrnod cyn y Pasg, sef Y Grawys, i goffáu ympryd a themtiad Crist yn y Diffaethwch. Roedd y Grawys yn cael ei gymryd o ddifrif calon ac yn ôl gofynion yr Eglwys roedd yn rhaid i’r ffyddloniaid ymwadu rhag bwyd maethlon er mwyn canolbwyntio ar baratoi eu meddyliau: 'ymadroddion eu genau a myfyrdod eu calonnau', yn ogystal â'u cyrff, 'y temlau sanctaidd', ar gyfer defodau dwys Y Groglith. Ni chynhwysid y Suliau cyn y Pasg yn yr ympryd ac felly dechreuai’r ymprydio ar ddydd Mercher - Dydd Mercher Lludw.
Felly, cyfnod yw’r Ynyd i fwyta gweddillion bwyd a waherddid yn ystod Y Grawys a hefyd dathlu... cael parti mawr cyn y dyddiau blin. Pwy sydd heb glywed am ddathliadau lliwgar y Mardi Gras yn Sydney, Rio neu New Orleans? Mae’r ‘gras’ neu saim yn dal yn rhan o’n dathliadau ni yng Nghymru er bod y lard yn gyndyn o ymddangos yn ein dyddiau iach ni! Ac mae’r dyddiad hwn yn dal i weld pobl Stiniog yn estyn am eu padelli ffrio i wneud crempog.
Yn draddodiadol, gwaherddid wyau, lard neu saim, menyn, llefrith ac wrth gwrs cigoedd yn ystod Y Grawys. Nid fel heddiw pan fo’r Grawys yn gyfle i beidio bwyta siocled am 40 niwrnod hwyrach! Gwamalu yw hyn debyg… ond mae’r oes, ac yn sicr crefydd, wedi newid wrth gwrs!
Rhoddid cig weithiau yn y grempog yn y gorffennol. Yng ngogledd Lloegr gelwid dydd Llun yr Ynyd yn Collop Monday - y dydd olaf i fwyta cig cyn Y Grawys.
Roedd hwn yn hen draddodiad wrth gwrs, ond pylu wnaeth y diddordeb yn ystod y ganrif ddiwethaf. Sonnir fel y byddai trigolion y wyrcws yn cael eu troi allan ar ddydd Calan a dydd Mawrth Crempog i fynd i hel - fel rheol, yn ôl y dystiolaeth, cawsant lond eu boliau... ac mae crempog yn llenwi boliau gwag neu'n gwneud i rywun deimlo’n llawn beth bynnag. Roedd boliau llawn yn arbed arian i reolwr yr wyrcws yn ogystal!
Ceir cyfeiriadau at wneud crempog:
Dydd Mawrth Ynyd
Crempog bob munud
Ceir sawl cyfeiriad yng ngogledd Cymru at blant yn ‘blawta a blonega’, sef hel blawd a saim er mwyn gwneud crempog. Mae rhai o’r rhigymau sy’n gysylltiedig â hel crempog - y rhai fyddai plant yn eu llafarganu ar y rhiniog unwaith y byddant wedi cael y perchennog i ateb y drws - yn dal yn gyfarwydd megis hon:
Wraig y tŷ a’r teulu da
A welwch chi’n dda roi crempog?
A lwmp o fenyn melyn mawr
Fel ’raiff i lawr yn llithrig;
Os ydych chwi yn wraig led fwyn,
Rhowch arni lwyn o driog.
Os ydych chwi yn wraig led frwnt
Rhowch arni lwmp o fenyn;
Mae rhan i’r gath, a chlwt i’r ci bach
A’r badell yn grimpin grempog!
Llafarganwyd y rhigwm hwn i mi gan wraig o’r Manod a fagwyd yn ardal Aberdaron ar ddiwedd y 19eg ganrif a byddai yn mynd o gwmpas yn canu hon ar ddydd Mawrth crempog yn yr ardal honno.
Dyma rigwm a boblogwyd gan Gymru’r Plant, rhigwm a gasglwyd o’r traddodiad llafar ond a olygwyd ar gyfer ei chyhoeddi. Daeth y rhigwm yn enwog, ac felly’r gampwraig grempog Modryb Elin Enog, a oedd yn enw cyfarwydd ar aelwydydd Cymru yn y gorffennol:
Modryb Elin Enog
Os gwelwch chi'n dda gai’i grempog?
Cewch chithau de a siwgr brown
A phwdin lond eich ffedog
Modryb Elin Enog
Mae ’ngheg i'n grimp am grempog
Mae Mam rhy dlawd i brynu blawd
A Siân rhy ddiog i nôl y triog
A ’nhad rhy wael i weithio
Os gwelwch chi'n dda ga’i grempog?
Fel y dirywiodd yr arfer cedwid y rhigymau ar dudalennau cylchgronau megis Cymru’r Plant ond dim sôn am sut y defnyddid hwy yn wreiddiol. Newidiwyd beth arnynt i’w gwneud yn fwy deniadol. Cofnodwyd y rhigwm hwn a gasglwyd yn Stiniog tua 1890:
Os gwelwch chi’n dda gai’i grempog,Soniodd Lewis Morris (yn y 18fed ganrif) am blant sir Fôn yn cyrraedd adref yn hwyr yn y bore – ni ddylid hel crempog, na hel Calennig ar ôl hanner dydd wrth gwrs – a’u hwynebau’n drwch o saim a thriog o’u safnau hyd eu clustiau!
Os nad oes menyn yn y tŷ
Gai’i lwyad fawr o driog.
Mae mam rhy dlawd i brynu blawd
A ’nhad rhy ddiog i weithio.
Heddiw mae gwneud crempog yn dal yn draddodiad ac wele, yn y siopau lleol, - heb enwi'r un - ceir bargian, dau baced o gymysgfa i wneud crempog am bris un. Pwy fasa’n meddwl am wneud crempog allan o baced a dim ond angen ychwanegu dŵr neu lefrith? Tyda ni wedi mynd yn ddiog! Mae’r amser wedi newid ond mae’r grempog yr un mor flasus. Y gamp fwyaf wrth gwrs yw fflipio’r grempog... ei thaflu o’r badell i’r awyr a’i chael i droi a glanio’n ôl yn ddiogel yn y badell a’i phen i lawr. Mae pob plentyn a phob plentyn hŷn wrth eu boddau efo’r gamp hon! Beth am gael cystadleuaeth fflipio crempog… mae’r rhain yn boblogaidd bellach ac yn ddull i godi arian at elusen neu jyst fel dipyn o hwyl!
![]() |
Yr un mor draddodiadol yw ryseitiau crempog. Gelwir y grempog Gymreig draddodiadol heddiw yn ‘crepe’ (yn y siopau a’r bwytai o leiaf) - term sy’n gwahaniaethu’r grempog Gymreig oddi wrth y crempogau bach tewion hynny sydd mor boblogaidd yn America ac yma a elwid yn Scotch pancakes.
Dyma un rysáit draddodiadol a gesglais gan wraig o Danygrisiau rhyw ddeugain mlynedd yn ôl:
RYSÁIT CREMPOG HEN FFASIWN GYMREIG
Mae angen:
4 owns o flawd plaen
Pinsiad o halen
1 ŵy
Hanner peint o lefrith
Lard ar gyfer ffrio (os meiddiwch!)
Offer:
Padell ffrio fach
Chwisg
Plât
1.Rhidyllwch y blawd a'r halen i mewn i fowlen.
2. Curwch yr ŵy a'r llefrith.
3. Yn raddol, ychwanegwch yr ŵy a'r llaeth at y blawd. Curwch yn dda.
4. Cymysgwch nes y bydd gennych gytew (batter) llyfn. Defnyddiwch y chwisg i wneud hyn.
5. Toddwch ychydig o lard (neu olew erbyn hyn) mewn padell ffrio. Gofalwch nad oes gormod o saim.
6. Tolltwch ychydig o'r cytew i'r badell gan wneud yn siŵr fod y cytew yn gorchuddio gwaelod y badell. Coginiwch am 1-2 munud nes i'r grempog setio. (Gellir ychwanegu cwrens wrth goginio'r ochr gyntaf.) Defnyddiwch gyllell balet i ryddhau'r ochrau. Trowch y grempog drosodd, trwy ei fflipio i’r awyr os medrwch!
7. Coginiwch eto am 1-2 munud. Trowch y crempogau ar blât cynnes ac ychwanegwch sudd lemwn a siwgr yn ôl y gofyn.
Tecwyn Vaughan Jones
- - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon