27.9.24

Pa Gwt?

Daeth newyddion da am ddyfodol nifer o swyddi yn y diwydiant llechi lleol ym mis Mehefin, wrth i gais cynllunio i weithio’r graig yn Chwarel y Bwlch gael cymeradwyaeth i barhau am 24 o flynyddoedd.

Ond yn y dyddiau hyn o warchod, parchu, ac adfer enwau lleoedd gwreiddiol, mae’n parhau yn ddryswch i Llafar Bro pam bod cwmni Welsh Slate yn galw Chwarel y Bwlch yn ‘Cwt y Bugail’. Chwarel arall tua milltir i’r gogledd ydi Cwt y Bugail; un sydd wedi cau ers degawdau.

Chwarel Bwlch (Manod) uwchben y fawd; Cwt-y-bugail wrth y saeth!

Mi yrrodd eich papur bro neges at y cwmni, ac at bennaeth cysylltiadau cyhoeddus cwmni Breedon, mam-gwmni Welsh Slate, yn eu llongyfarch ar sicrhau caniatâd i barhau gweithio’r chwarel ond yn holi am yr enw. Os gawn ni ateb*, mi rannwn ni’r manylion efo chi.

I fod yn deg, rydym yn deall gan chwarelwr profiadol mae cyn berchnogion ddechreuodd arddel yr enw Cwt y Bugail ar Bwlch.  Ydi hyn i gyd o bwys?  Wedi’r cwbl, gallwch ddadlau fod rhan o’r gwaith yn digwydd ar safle Chwarel Graig-ddu, ac enwau eraill Chwarel Bwlch oedd Bwlch y Slaters a Chwarel y Manod... 

Be ydych chi’n feddwl? Gyrrwch air!

- - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2024

*Diweddariad, diwedd Medi:  Fyddech chi ddim yn synnu i glywed na ddaeth unrhyw ymateb na chydnabyddiaeth o'n ymholiad ni, ond mae'n siom bod cwmni lleol yn anwybyddu cais resymol gan ein papur bro...


Pen Maharen a Llechi

 Erthygl o 1983, o'r papur dydd Sul Cymraeg, Sulyn.


Cyfres Hanes Clwb Rygbi Bro Ffestiniog


24.9.24

O Na Fyddai’n Haf ...o Gwbl!

Rhan o Golofn Olygyddol rhifyn Medi 2024

Wrth eistedd o flaen sgrin wag yn meddwl sut i lenwi’r golofn olygyddol, daeth Steffan Griffiths, dyn tywydd S4C ar y teledu i ddweud fod haf 2024 wedi bod 21% yn sychach na’r arfer. Bu bron i mi dagu ar fy mhanad! A chithau hefyd efallai. Sychach o dd!@ψl..! 

Aeth ymlaen i egluro mae cyfartaledd oedd y rhif hwnnw, efo ‘ambell i le fel Dinbych yn tipyn sychach, ac ambell le...’ -mi godais fy nghlustiau ac aros amdani:  ond chwarae teg iddo, bu’n ddigon cwrtais i enwi Crymych yn hytrach na Stiniog fel enghraifft o rywle oedd yn wlypach na’r arfer!

Fo oedd yr unig un o gyflwynwyr tywydd Cymru a gododd i’r her gan Llafar Bro i roi Blaenau Ffestiniog ar eu map tywydd, ‘nôl yn 2021. Hen foi iawn! 

Mae wedi bod yn haf digon digalon o ran tywydd tydi; haf eleni oedd yr oeraf yng Nghymru ers 2015 yn ôl Steffan hefyd. Dim ond gobeithio y cawn ni wythnos neu ddwy o haul cyn iddi ddechrau dywyllu. Neu ddyddiau sych o leiaf! Cadwn y ffydd.

Wel, roedd hynna’n ddeg munud bach diddorol, ond lle oeddwn i dwad..? O ia, rhoi rhifyn Medi Llafar Bro i’w wely! Pan mae deadline yn gwasgu, rydw i’n arbenigwr ar dindroi a segura; mae pen set yn ffordd o fyw sy’n gwbl naturiol i mi. Gwneud rhyw fân-bethau di-ddim yn hytrach na’r job o waith dan sylw, a gorfod cwblhau’r orchwyl dan bwysau wedyn. A dyna’n union dwi’n wneud rwan!

Calendr y Cymdeithasau -prynwch y rhifyn i'w gael yn llawn!
 

Argian, mae yna bethau difyr ar eich cyfer yn y rhifyn yma. Gwaith hawdd a braf ydi golygu papur sy’n llawn i’r ymylon o erthyglau arbennig. Anoddach ydi gorfod derbyn fod gwerthiant Llafar Bro yn gostwng, a thalcen caled ydi denu’r to ifanc i’w ddarllen. Roedd yn galonogol felly i gael ymateb mor arbennig gan gymdogion yng ngwaelod Ffordd Wynne a Ffordd y Barwn pan rois i gnoc ar eu drysau nhw’n ddiweddar i holi os hoffen nhw dderbyn eu papur bro trwy’r drws yn fisol. 

Dyma sut oedd Llafar Bro yn cael ei ddosbarthu am flynyddoedd; gwirfoddolwyr yn mynd o ddrws i ddrws bob mis. O’r 19 tŷ lle ddaeth rhywun i’r drws dim ond un ddywedodd ‘na, dim diolch’. Diolch o galon i bawb am eu brwdfrydedd. Os nad oeddech adra pan alwais i ac eisiau imi ddanfon acw bob mis, cysylltwch! Mi fydd yn amhosib i mi ymestyn yr ardal fedra’i wneud, ond os hoffai unrhyw un arall gymryd stryd neu ddwy i gnocio drysau a gwneud yr un peth, mi fydden ni’n ddiolchgar iawn am eich cymorth. Siaradwch efo Rhian ein dosbarthwr neu unrhyw un o griw hwyliog Llafar Bro.

Bob blwyddyn, dwi’n cael y fraint o hel a chrynhoi Calendr y Cymdeithasau ar gyfer rhifyn Medi, ac mae’n fy siomi o’r ochr orau bob tro. Mae dros 20 o weithgareddau cymunedol yn ail hanner mis Medi yn unig, ac mae’n sicr fy mod wedi methu pethau na welais wybodaeth amdanynt, fel y clwb camera a’r clwb cerdded er enghraifft. Rydw i’n ail-adrodd fy hun, ond oes yna unrhyw le arall ar wyneb y ddaear efo cymaint o weithgareddau Cymraeg eu hiaith? Go brin!

Paul W

Tri grug cynhenid Bro Stiniog, yn tyfu o fewn llathan i’w gilydd, ger safle archeolegol Llys Dorfil
grug y mêl, grug cyffredin, grug croesddail, ac un arall o’r olaf efo amrywiad genetig yn rhoi blodau gwyn





21.9.24

Antur Stiniog- Mwy na dim ond beics!

Beicio
Ddiwedd Mehefin roedd cystadleuaeth rasio beics lawr allt ar lethrau’r Cribau: y drydedd mewn cyfres o 5 ras yng Nghymru a’r Alban. Penwythnos llwyddiannus iawn eto eleni ar gyfer y National Downhill Series, efo digon agos i 300 yn cymryd rhan. 

Roedd cyffro o gael y goreuon yma, gan gynnwys cyn-bencampwr y byd, Steve Peat, a bwrlwm arbennig ar y safle, efo Antur Stiniog yn cael ei gynrychioli gan hogia’ ifanc lleol, Osian Morris - 

Pencampwr Ieuenctid Lawr-allt 2023 o Lanrug mewn amser o 2:31.5 ac Aran Cynfal o Fro Ffestiniog mewn amser o 2:34.0. Hefyd Robin Rowlands o’r Bala yn cymryd rhan mewn ras yma am y tro cyntaf yn 12oed.

Gobeithio gafoch cyfle i fynd draw i weld y reidwyr. Diolch i bawb a ddaeth allan i wneud y digwyddiad yn un arbennig. Llongyfarchiadau i’r enillwyr Stacey Fisher ac Adam Brayton, bydd y ras nesaf yn Glencoe mis yma. 

Os dymunwch ddod i reidio ein traciau yn Antur Stiniog yr haf yma brysiwch i bwcio eich slot gan ein bod yn llenwi yn sydyn iawn, ‘da ni ddim isio i chi fethu allan ar gyfle i reidio.
(Lluniau: Man Down Media)

 

Eiddo
Mae’r gwaith dal i ddatblygu ar adeilad Yr Aelwyd, mae’r plastar ar du allan i’r adeilad wedi cael ei dynnu ac wrth ddadorchuddio'r adeilad daethom o hyd i ddau enw digon diddorol (gweler erthygl Dewi Prysor). 

Os oes gan un o ddarlledwyr Llafar Bro unrhyw hanes o’r adeilad yma, yr enwau yma neu hen luniau, hanesion i rannu gyda ni, plîs cysylltwch gyda Calvin ar 01766 831111 neu e-bostio  eiddo@anturstiniog.com
Mae tendrau am waith adeiladu a datblygu siop Ephraim a chaffi Bolton yn mynd allan yn fuan os oes diddordeb cadwch lygaid ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Tŷ Coffi
Mae Helen, rheolwraig y caffi a’r siop, yn y broses o benodi mwy o staff i’r Tŷ Coffi, a gobeithiwn fedru agor am oriau hirach, efo ambell i ddigwyddiad gyda’r nos gyda lwc. Mae’r cydweithio efo busnes newydd Y Cwt Blodau yn parhau i ffynnu, ac erbyn hyn mae Leisa yn gwerthu planhigion i’r ardd yn ‘Y Cwtsh’ awyr agored yn nghefn y caffi. Galwch heibio am sbec!

Siop Eifion Stores
Cofiwch fod ein siop-bob-dim yn agored ar ddydd Sul, ar gyfer eich holl angenion DIY yn y tŷ a’r ardd, a gwasanaeth torri goriadau ar gael.

Cyfarfod Blynyddol
Cynhaliwyd AGM cwmni Antur Stiniog ar yr 21ain o Fai, ac ail-etholwyd Hefin Hamer yn gadeirydd, ac Alan Edwards yn ysgrifennydd i’r bwrdd cyfarwyddwyr. Wrth edrych ymlaen i’r dyfodol, diolchodd Hefin i’r holl staff am eu gwaith dros y flwyddyn er mwyn gwneud y cwmni yn llwyddiannus, yn ogystal ag i’r cyfarwyddwyr am eu gwaith a’u hamser gwirfoddol.

Mae’r cwmni angen aelodau ychwanegol ar y bwrdd, felly os hoffech gyfrannu at ddatblygiadau cymunedol cyffrous Antur Stiniog, cysylltwch!
- - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2024

 

Bwrw 'mlaen efo gwaith yr Aelwyd

Erthygl gan Dewi Prysor
Tydi hanes ddim yn ddiog. Mae o’n aros i rywun ddod o hyd i’w stori. Ac rydan ninnau yn aros am ddarnau o hanes, hefyd. Pan ddaw rhywun o hyd i hen botel, neu hen grair, hen ddarn o arian yn y pridd, neu lyfryn yn yr atic, a hen ganeuon a cherddi yn dy dynnu... at dy hendeidiau. Mae ein olion yn y gwreiddiau, a’n gwreiddiau yn ein olion ninnau. 

Rydw i’n defnyddio gryn dipyn o eiriau Ernest Jones yn ei lyfr gwych Stiniog yma. 

“Daeth Urdd Gobaith Cymru i’r Blaenau yn 1926, gan sefydlu eu hunain yn festri eglwys Brynbowydd o dan ofal J.R. Jones, gŵr oedd hefyd yn gof chwarel. Wedyn, symudodd Aelwyd yr Urdd i’r Ysgol Ganol cyn prynu hen neuadd Byddin yr Iachawdwriaeth yn y flwyddyn 1940.  Bu clwb o arlunwyr swil yn cael defnyddio Aelwyd yr Urdd yn y pumdegau; ‘swil’ oherwydd mai nhw eu hunain roddodd yr enw ‘Y Clwb Poetsio’ ar eu sefydliad. Ond y gwirionedd oedd bod arlunwyr medrus iawn yn ymysg yr aelodau. Ac yn Aelwyd yr Urdd y dechreuodd y Clwb Camera hefyd. Debyg mai symud i’r Ganolfan Gymdeithasol yr aethon nhw ar ôl i’r Ganolfan agor yn 1978.” 

Diolch eto fyth am eiriau haneswyr yr ardal. 

“Gwasanaethodd yr Ysgol Frutanaidd, Dolgarreg-ddu, fel neuadd ychwanegol yn ystod yr 18ed ganrif. Ar ôl rhyfel mawr 1914-18  fe’i galwyd hi yn Drill Hall gan gynnal cyfarfodydd ynddi yn achlysurol. Defnyddwyd y Central Hall hefyd (sef barics Byddin yr Iachawdwriaeth) fel neuadd gyhoeddus ar brydiau, a bu Leila Megane yn canu yno unwaith.” 

DATGELU ATGOFION WRTH ADFER YR AELWYD

Yn y flwyddyn 1887 daeth Byddin yr Iachawdwriaeth i Stiniog. Ac yn yr hen Neuadd Gyhoeddus y cynhaliwyd eu cyfarfodydd cynnar, gan ddefnyddio Hen Gapel Rhiw cyn symud i’r Barics yng nghanol y dref, a symud drachefn i ardal Bodafon. Roeddan nhw hefyd yn cynnal gwasanaethau o gwmpas y dref yn yr awyr agored – fel maen nhw’n wneud o gwmpas y Nadolig heddiw. 

Mae geiriau ar dalcen yr Aelwyd yn wynebu’r ffordd a’r bont, ond codwyd portsh dros fynedfa’r neuadd ac mae crib y portsh yn cuddio canol y geiriau. Yn wir, anodd ydi deall y llythrennau sydd yn y golwg hefyd. 

Mae ‘BARRICKS BYDD___’ ac ar yr ochr arall o’r portsh mae ‘___IAITH’; Barricks Byddin yr Iachawdwriaeth, debyg iawn. Hefyd, mae’n edrych fel bod geiriau eraill wedi bod yno o’r blaen, ac anodd iawn ydi darllen y geiriau hynny. ‘Central Hall’ efallai? 

Diolch eto i haneswyr lleol, ac i’r adeiladwyr hefyd a fu’n pigo’r wal rendro tu allan. Dyma sut mae hanes yn gweithio weithiau. Aros, ac aros ymysg y meini, a daw’r hen straeon i’r golwg. 

Mae dwy lechan yn y wal efo geiriau arnyn nhw – ond enwau personau. Fel y gwelwch gyda’r lluniau, ar un llechan mae enw ‘Dr EVANS’ gyda’r gair ‘LOVE’ odditano. Ac ar y llechan arall mae enw ‘A. DUNLOP’ ac o dan i’r enw mae’r gair ‘PEACE’.

Enw Alexander Dunlop sydd ar yr ail lechan hon, ac os welir rhywun yn iawn mae llythyren ‘M’ felen yn y canol rhwng yr ‘A’ a’r Dunlop, fel y petai nam ar y llechan neu fod y gwaith hacio wedi malu’r ‘M’. Rydw i wedi methu cael hyd i Alexander M. Dunlop, ond mae Ernest wedi cael hyd i Alexander Dunlop, roedd o’n un ymysg rhai oedd yn gweithio i gael mwy o ysgolion i blant niferus y Blaenau. Ei gri oedd bod angen darparu addysg wyddonol i’r plant, ac wrth gwrs fe godwyd pwyllgor i ystyried y mater. 

Felly, mae’n debyg ein bod wedi cael hyd i un o’n dynion sydd ar y llechi. Rwan, am y llall. Wel, dim ond llond llaw o ddoctoriaid efo’r enw Evans fu yn ystod y 120 mlynadd rhwng y ddwy ganrif, yr 18ed a’r 17ed. Ond mae un ddoctor yn tynnu sylw. 

Ernest Jones eto:

“Un o wŷr pwysig eglwys Seion oedd y meddyg R.D. Evans, cyfaill bore oes i David Lloyd George; yr oedd y gwladweinydd yn ymweld â theulu Dr. Evans yn achlysurol. (Roedd cysylltiad teuluol hefyd oherwydd i Olwen Lloyd George briodi Thomas Carey Evans, mab y meddyg.) Bu adeg cyn hynny pryd y cadwai Lloyd George swyddfa yn y Blaenau a thrafeilio iddi efo’r trên bach.

Gallai eglwys Seion, felly, ymfalchîo yn y ffaith y byddai Lloyd George yn y gynulleidfa yn achlysurol efo teulu’r meddyg. Yn wir, dywedid bod Lloyd George fwy nag unwaith wedi rhoi cyngor i weinyddwyr eglwys Seion.” 

Ai Doctor R.D. Evans yw’r doctor hwn, fo sydd ai enw ar y llechen, ‘LOVE’? 

Dyna beth arall mae hanes yn ei wneud, sef eich gadael i wneud y gweddill o’r gwaith. Datgelu hanes. A datgelu atgofion at y tro nesaf.
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2024

Prynwyd yr hen aelwyd gan Antur Stiniog i'w adnewyddu fel adnodd i'r gymuned. Mae Dewi yn gweithio i Gwmni Bro Ffestiniog. 


To Llys Dorfil

Y consensws yw fod gan y tŷ tŵr yn Llys Dorfil do llechi. Darganfuwyd darnau o lechi wrth gloddio yno, rhai gydag ymyl befel wedi eu trin â chyllell naddu, mae hyn yn awgrymu to llechi, ond heb ddim cadarnhad. 

Yna ar ein chweched tymor o gloddio, eleni, darganfuwyd mwy o brawf ar ffurf llechen to wedi ei naddu a thwll hoelen ynddi, yn hytrach na’r twll peg pren disgwyliedig. Y dull cynharaf a ddefnyddiwyd ar gyfer to llechi oedd pegiau pren wedi'u sgwario'n fras, 30 – 40mm o hyd a tua 10mm o drwch, ac wedi'u naddu yn bwynt ar un pen.  Roedd y rhain yn cael eu gwasgu i mewn nes eu bod wedi'u cydio gan ymylon miniog y tyllau peg.

Darn o lechen Llys Dorfil a thwll hoelan ynddi (y blaen ar y chwith, a’r cefn ar y dde)


Defnyddiwyd llechi yng ngogledd Cymru cyn dyfodiad y Rhufeiniaid; gwelsant beth oedd y bobl leol yn ei ddefnyddio i doi, a gwella’r dull.  Roedd y darn o lechen to a ganfuwyd yn llwyd canolig 5-N5 yn y Siart Lliw Creigiau (ailargraffwyd – 1980), ac yn 8.5mm o drwch.
Ymddengys fod y twll, wedi ei yrru o ben blaen y lechen gydag olion rhwd arno, gyda hoelen haearn wedi ei yrru i’r estyll, ac nid hongian arno. 

Roedd y lechen hon yn awgrymu ei bod yn eiddo i berchennog cyfoethog, ac nid o dŷ cominwr, lle roedd pegiau pren yn cael eu defnyddio, yn hytrach na hoelion haearn. Mae'r dystiolaeth hon o do llechi gyda hoelion haearn yn cryfhau ein damcaniaeth bod Llys Dorfil yn dŷ caerog yn hytrach nag yn dŷ cyffredin.

Llechi to Rhufeinig o Llidiard Ysbyty, Tremadog
Darganfuwyd y llechi hyn gyntaf ym 1908 gan Edward Breese, archeolegydd a chyfreithiwr lleol.  Ail ddarganfwyd llechi to y baddondy Rhufeinig yn Llidiard Ysbyty (Ysbyty Alltwen,Tremadog) rhwng 2010/11 wrth wneud ffordd osgoi Porthmadog A487 o Benrhyndeudraeth i Benmorfa.  

Llechi to Rhufeinig o Llidiard Ysbyty, Tremadog

Roedd y llechi to Rhufeinig a ddarganfuwyd yn Llidiart Ysbyty, o faint safonol (‘Pes’ oedden nhw’n galw troedfedd safonol). Gyrrwyd y twll hoelen o ben blaen y lechen, gan adael ceudod yn y cefn. Mae'r dull hwn yn hollol groes i do llechi mwsog, lle gyrrwyd y twll o gefn y lechen ai hongian ar estyll gan beg pren.  Roedd y dull olaf hwn yn caniatâu i'r ceudod fod ar ochor flaen y lechen, a olygai y gellid gosod y peg pren yn y ceudod, a chaniatâu i'r lechen gael man gwastad i orwedd. Roedd mwsog wedi'i bacio o dan y llechi i atal drafft rhag chwythu llwch ac eira i'r gofod yn y to. Felly daw’r enw, cerrig neu llechi mwsog.

Bill a Mary Jones 

- - - - 

GWYBODAETH YDI’R TRYSOR PWYSICAF!
Dyna ddywed Bil Jones, sy’n arwain y cloddio archeolegol ar safle Llys Dorfil yng Nghwmbowydd, pan soniodd rhywun mor braf fysa darganfod trysor ar y safle!

> Darllen mwy

 

Ymddangosodd y ddwy erthygl uchod yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2024