Cyfres Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y '50au, gan Steffan ab Owain.
Erbyn yr 1950au roedd y ‘Lein Fach’ fel y gelwid Rheilffordd Ffestiniog gennym, a’r ryn o wageni a gariai lechi ‘Stiniog i lawr i Borthmadog wedi dod i ben, ac o ganlyniad, roedd bariau’r rheilffordd, yn ogystal â rhai o’r hen wageni wedi dechrau rhydu. Cofiaf bod un wagen wedi ei gadael ar ei hochr ger y lein yn y Dinas, yng ngwaelod yr inclên a ddeuai i lawr o’r Gloddfa Ganol.
Cofiaf hefyd bod un arall wedi ei gadael nid ymhell o’r Bont Fawr (Bont Goch), ac er nad oedd hi wedi bod mewn defnydd am beth amser, medrodd yr hogiau mawr a oedd yn hŷn na ni ei chodi yn ôl ar y cledrau, ac yna gwthio hi rhyw ychydig i lawr y lein at y Dinas. Er bod yr hen wagen yn gyndyn o hwylio neu redeg yn rhwydd ar y lein i ddechrau, dechreuodd ei holwynion droi yn rhwyddach yn y man, a chawsom bas i lawr arni hi hyd at Y Groesffordd, lle byddai y diweddar Ali a Len ei frawd yn byw. Rhoesom naid oddi arni yn y fan honno ac yna aed ati hi i’w gwthio’n ôl at y Dinas, ac i ryw bedwar o hogiau bach wneud hynny, roedd yn dipyn o strach, credwch fi! Wedi ei chael at y fan lle roedd hi’n hwylus inni neidio arni hi y diwrnod canlynol, gosodwyd cerrig dan yr olwynion i rwystro iddi redeg i lawr yn ei hôl.
Beth bynnag, roeddem i gyd yn edrych ymlaen am gael pas (reid) arni hi drannoeth, ond pan aethom yno, roedd rhai o’r hogiau mawr wedi tynnu’r cerrig a rhedeg y wagen ymhell i lawr y lein er mwyn iddynt hwythau gael pas arni a dipyn o hwyl. Aeth dyddiau heibio cyn i’r wagen ddod i’r fei drachefn, ac o beth a gofiaf, rhyw un tro arall a gawsom yn eistedd ynddi a chael pas a hwyl iawn yn mynd i lawr y lein fach. Ychydig wedyn penderfynodd rhai o ddynion yr ardal ei thaflu ar ei hochr fel nad oedd neb yn mynd i gael anaf yn chwarae efo hi.
Roedd y Bont Fawr a Phenybont yn fan chwarae answyddogol inni ar ddydd Sadwrn ac yn ystod gwyliau’r haf hefyd. Mae hi’n anodd credu heddiw, ond rwyf yn rhyw led gofio Io, Ken, Dei Clac a finnau yn mynd i fyny i ben y bont gyda hen hancesi poced, neu ddarnau bach o hen gynfas gwely, tameidiau o linyn, cyllell boced, a phytiau o hen soldiwrs plwm, neu washars, ac yna gwneud parasiwtiau i’w gollwng i lawr o’r bont i’r hen lein fach islaw. Neu weithiau, byddid yn gwneud awyrennau papur a’u hedfan o ben y bont, i ble bynnag y byddai’r gwynt yn eu cipio. Cofiwch, roedd tipyn o waith cerdded i lawr o’r bont i nôl y parasiwtiau, ac ar ôl gwneud hynny rhyw un waith neu ddwy, buan iawn y blinid ar y gêm, a throi at rywbeth arall i’w chwarae.
Peth arall a gofiaf tra’n chwarae ar y lein fach oedd gweld mochyn bach (porchell) yn rhan uchaf y rheilffordd, sef wrth y bont a fyddai rhwng y Bont Fawr a’r rhan a fyddai yn arwain at bont y ffordd fawr ger Chwarel Llechwedd. Methaf â chofio yn iawn os oedd yn fyw neu’n farw, a methasom ni’r hogiau a meddwl o ble ar y ddaear y daeth y creadur i’r fan honno. Wrth gwrs, roedd rhai yn cadw moch yn Nhalyweunydd y pryd hynny, ac y mae hi’n bosib mai wedi dianc o’i dwlc yn y fan honno yr oedd y porchell. Efallai bod un o’r hogiau yn cofio’r digwyddiad yn well na mi.
--------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2018.
Dilynwch Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. (Os yn darllen ar ffôn rhaid dewis 'web view').
Llun o gasgliad yr awdur.
6.8.18
2.8.18
Ffermydd Bro Ffestiniog -6
Parhau â chyfres Les Darbyshire, efo ail ran Plwyf Trawsfynydd.
Mae’r hen ffordd o’r Traws i Lanuwchlyn yn llawn o ffermydd diddorol a hanesyddol i fyny i Benstryd.
Cychwynwn eto o hen bont Traws a mynd at y fferm gyntaf sydd ar y ffordd yma sef Rhyd y Felin, a wedyn ymlaen i Dŷ’n Llyn, Tŷ’n Rhos, Derwgoed, Bryn Llefrith, Tyddyn Bach, Plas Capten, Gilfach Wen a Phenstryd. Dwy fferm arall gyfagos ydi Rhiw Goch ac Adwy Goch. Mae’n rhyfedd fel mae hen enwau’r ffermydd yn cael eu llefaru, maent yn fiwsig i’r glust ac mae mwyafrif ohonynt yn disgrfio natur y cylch neu eu lleoliad. Ond erbyn hyn, mae ystyr gwreiddiol yr enwau bron a’u colli. Cymerwn fel esiampl Brynllefrith. Dywedir bod carreg ateb yn ffridd y ffarm, a bod rhith ynglŷn â phob llef yno: LLEF- RITH.
Diddorol yw hanes ffarm Plas Capten. Yr hen enw arni oedd Gelli Iorwerth. Newidwyd yr hen enw pan wnaeth Capten John Morgan etifeddu’r ffarm. Roedd y Capten yn hannu, ar ochor ei fam, o deulu Llwydiaid Rhiw Goch. Swyddog ym myddin Siarl y Cyntaf oedd, ac yn ei gefnogi yn ystod y Rhyfel Cartef. Pan drechwyd byddin Siarl, bu rhaid i’r Capten ddianc a daeth i Gelli Iorwerth. Ond nid oedd yn ddigon diogel yno a bu rhaid iddo ymguddio mewn ogof. Ymgeleddwyd ef gan wraig a oedd yn byw yn ffermdy Wern Gron. Gelwir yr ogof gan rai yn ‘Siambr y Capten’, neu yn briodol ‘Carreg yr Ogof.’ Bu’n llechu yn yr ogof i ddianc oddi wrth filwyr Cromwell, a oedd am ei waed. Bu iddynt wybod lle’r oedd a gorchmynwyd ef i ildio a rhoi ei hun o flaen y maen, ac fe’i saethwyd yn farw yn y fan ar lle.
Diddorol fel mae hanes yn ail adrodd ei hun - yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe ollyngodd awyren o’r Almaen un-ar-ddeg o fomiau rhwng Tomen y Mur a Phlas Capten a disgynnodd tair ohonynt yn Wern Gron, ond y bobl leol yn ddiolchgar nad oedd dim difrod wedi ei wneud!
Mae cylch Penstryd yn ddistaw y dyddiau yma. Dim ond fferm fach a’r capel sy’n aros, a diolch fod drws y capel yn dal yn agored. Yn ei fri ’roedd y pentre’n llawn bwrlwm o weithgareddau. Ar wahân i’r fferm, roedd Penstryd yn fan pwysig o ran trafnidiaeth. Cyfarfyddai pedair cangen o’r ffordd Rufeinig yn Mhenstryd, sef un i Ddolgellau, un i Harlech, un i Domen y Mur ac un i Lanfachreth. Mae enw Penstryd yn dod o’r cyfnod Rhufeinig - y gair ‘Stryd’ yn dod o’r gair ‘Strata’, sef ffordd Rufeinig wedi ei phalmantu ac i ddangos lleoliad, y gair ‘Pen’ i arwyddo bod y ffordd wedi cyrraedd ei brig.
Roedd Penstryd yn bentre ar ben ei hun a thai gweithwyr i’r rhai oedd yn gweithio yn y mân-weithfeydd ar y bryniau cyfagos. Roedd Penstryd yn nodedig am ei gofaint, yma y gwnaethpwyd miloedd o glipiau neu bedolau gwartheg. Byddai llanciau cryfion yn cwympo’r gwartheg ar y gwastadedd a llu o ofaint yn eu pedoli cyn eu cychwyn i ffeiriau yn Swydd Gaint ac Essex. Mae’n werth nodi enw fferm gyfagos, er ei bod ym mhlwyf Llanfachreth, sef ffarm Dolgefeiliau - a oedd hefyd yn lleoliad i bedoli gwartheg – tybed a oedd cystylltiad rhyngddi â gofaint Penstryd? Tybed ai ym Mhenstryd oedd y pedolau’n cael eu gwneud ond yn cael eu gosod yn Nolgefeiliau, trwy bod y ffarm honno yn ymyl Afon Eden a digonedd o ddŵr ynddi i ddyfrhau’r holl anifeiliaid a bod digonedd o borfa dda iddynt? Roedd hi’n daith o ryw dair milltir i’r gofaint o Benstryd i Ddolgefeiliau.
Rhiw Goch – dyma un o’r ffermydd hanesyddol mwyaf pwysig yn y fro. Bu teulu’r Llwydiaid yn berchen y plasdy yn ystod y 15fed, 16eg, a’r rhan fwyaf o’r 17eg ganrif. Nid oes cofnod o bryd yr adeiladwyd y tŷ. Roedd y Llwydiaid yn bobl pwysig ym Meirionnydd, yn ddisgynyddion o Owain Gwynedd. Bu Robert Lloyd yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd ym 1586 a 1601, a bu hefyd yn Uchel Siryf ar bedwar achlysur.
Ym 1577, ganwyd John Roberts, y merthyr, yn Rhiw Goch. Magwyd ef yn brotestant yn Eglwys Sant Madryn, y Traws, ond trodd at yr hen grefydd babyddol a dod yn fynach. Cafodd ei addysg yn Ffrainc. Bu’n gweithio’n ddirgel yn Ffrainc, ac ef oedd y mynach cyntaf i ddychwelyd ar ôl i Harri VIII ddiddymu’r mynachlogydd, a hynny’n gyfrinachol. Adnabuwyd ef gan yr awdurdod Prydeinig fel drwgweithredwr ac roedd ysbïwyr yn ei wylio. Fe’i daliwyd, ac er iddo gael cyfle i ddianc, fe arhosodd i fynd gerbron y llys, pryd y dyfarnwyd ef yn euog o deyrnfrawdwriaeth. Cafodd ei grogi, ei ddadberfeddu a’i chwarteru ar y 10fed o Ragfyr 1610.
Gwynfendigwyd John Roberts ym 1929 a chanoneiddwyd ef ym 1970 gan y Pâb John Paul VI. Bellach, gallwn ddweud fod un o blant y Traws wedi ei anrhydeddu’n Sant!
Mae llawer o wŷr amlwg wedi bod yn byw yn Rhiw Goch ers y cyfnod yna, a bu’r ffermdy’n ffynnu tan ddechrau’r ganrif diweddaf pan ei phrynwyd gan y Swyddfa Rhyfel ac addasu’r tŷ i fod yn ‘Officer's Mess’. Tua 1956, fe’i prynwyd gan Mrs Sally Snarr, Cross Foxes, Traws a’i addasu fel gwesty. Roedd gŵr Mrs Snarr yn ringyll a chogydd yn Rhiw Goch adeg yr Ail Ryfel Byd.
------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y llun) yn rhifyn Mehefin 2018.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde (rhaid dewis web view os yn darllen ar ffôn).

![]() |
| Bedd Porus, dafliad carreg o Benstryd (llun Paul W) |

Labels:
Crwydro Carreg yr Ogof,
enwau lleoedd,
ffermydd,
Ffermydd Bro Ffestiniog,
Llwydiaid,
merthyr,
Owain Gwynedd,
Penstryd,
Rhiw Goch,
Rhyfel Cartref,
Sant John Roberts,
Sarn Helen,
Trawsfynydd
29.7.18
Atgofion Cynhaeaf Gwair
Erthygl gan Wil Price
Fel dywed y bardd Eifion Wyn:
Mae paratoi am y cynhaeaf yn dechrau yn niwedd mis Mawrth a dechrau Ebrill, pryd mae’r amaethwr yn gwrteithio’r tir gyda thail y gwartheg dros gyfnod y gaeaf. Yna, at ddiwedd Ebrill, roedd y plant 10-14 mlwydd oed yn cael eu gyrru allan i ‘grega’, sef mynd o amgylch y weirglodd i gyd gyda bwced i godi unrhyw gerrig a fuasai wedi dod i wyneb y tir, neu drwy ddifaterwch eraill o daflu cerrig i’r cae, a hynny heb sylweddoli mor helbulus y gallai hynny fod i’r pladurwr.
Cael y pladuron i gyd wedi eu hogi ar y maen llifio, y cribiniau i gyd gyda dannedd newydd, y picffyrch a’r drol yn barod at eu gorchwyl.
Disgwyl diwrnod braf i gychwyn, un ai gwrando ar y radio am ragolygon – doedd dim sôn am deledu yn y dyddiau hynny – neu ail-brocio’r cof am hen arwyddion a ddaeth i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth – gweld y gwenoliaid yn hedfan yn uchel neu’n isel; sut roedd hi’n nosi? Oedd y mynyddoedd yn edrych yn bell neu’n agos? ... ac yn y blaen.
Rhaid oedd dechrau rywdro, gyda’r tad rhan amlaf yn cychwyn, a’r meibion neu’r gwas yn ei ganlyn, a hynny tua 5 o gloch y bore cyn i’r gwlith godi.
Byddent yn wyliadwrus iawn faint i’w dorri yn ôl y rhagolygon neu eu gweledigaeth hwy eu hunain. Ofn torri gormod, rhag ofn i’r tywydd droi yn anffafriol, neu ar yr ochor arall, ofn colli tywydd braf i barhau am wythnos neu well. Ond profiad y tad oedd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad yma eto.
Yna, yn amal iawn byddai’r tad yn mynd at ei waith dyddiol erbyn 8 yn y bore, a’r hogia i odro’r gwartheg yn y beudy ac yna i’r ysgol erbyn 9 o’r gloch.
Ar ôl ymborthi’r pladurwyr, amser i’r merchaid ddod allan i chwalu’r ‘stodiau’ er mwyn i’r gwair ddechrau gwywo. Y diwrnod canlynol, dilyn yr un drefn, gyda’r merchaid yn ‘troi’ y gwair er mwyn gwneud yn siŵr fod ochor isaf y gwair yn cael cyfle i wywo.
Y tad fel rheol oedd yn penderfynu os oedd y gwair yn ddigon aeddfed i’w gario i’r gadlas.
Ambell dro, byddai’r tywydd yn troi’n gymylog a gwan ac roedd yn ansicr dweud os oedd glaw yn agos. Yr amser yma, roedd yn rhaid ‘mydylu’, a dyma’r orchwyl gasaf gan bawb i’w wneud, achos mi fyddai’n orfodol i ‘rencio’ gwair i gyd, yna ei godi fel pebyll bach ar hyd y cae gan ofalu fod pen y mwdwl wedi ei godi fel bod y glaw yn rhedeg oddi arno i gyd, a dim yn mynd trwodd i’w du mewn.
Clywsoch lawer gwaith rwy’n siŵr fod eisiau pen iawn ar y mwdwl – wel dyma yn sicr i chwi o lle daeth y dywediad yma. Cyn cario’r gwair i’r gadlas, rhaid oedd bod yn hollol siŵr o ddau beth.
1. Peidio byth â’i gario os nad oedd o wedi gwywo’n iawn. Os buasai tamed ohono heb wywo, gallai’r mymryn yma boethi i’r fath wres yng nghanol y gadlas nes achosi tân a difa’r cynnyrch i gyd. Byddai hynny’n digwydd o fewn 6 wythnos o’i gario fel rheol.
2. Peidio byth â’i gario os oedd rhywfaint o law heb sychu yn iawn ar y gwair. Mewn dim amser mi fuasai’r gwair yma yn llwydo'r holl gynnyrch a’i ddifetha.
Ple bynnag yr oeddech yn gorffen eich gorchwyl yn y cae gwair, y pechod mwyaf fuasai cario eich cribin tuag at y gadlas. Na – rhaid oedd tynnu’r gribin tu ôl – rhag ofn y buasai rhywfaint o wair wedi ei fethu a hynny ar ôl i chwi hel yr olion. Yr eglurhad yr oeddech yn ei gael – er cyn lleied o wair oedd gennych ar y gribin, fuasai hwnnw ddim ar gael pe baech ei angen yn ystod y gaeaf maith. Hwyrach y byddai’n ddigon i wneud un pryd i’r fuwch odro!
Ni fedraf orffen heb gynnwys cwpled o gyngor a gefais gan fy nhad pan oeddwn yn cychwyn ar fy ngyrfa fel plymar ym 1948.
Dyddiau difyr iawn.
----------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y llun) yn rhifyn Mehefin 2018
Fel dywed y bardd Eifion Wyn:
‘Gwrendy y weirgloddAmser pleserus iawn yng nghalendr y fferm oedd y cynhaeaf gwair.
Am lais y bladur.’
Mae paratoi am y cynhaeaf yn dechrau yn niwedd mis Mawrth a dechrau Ebrill, pryd mae’r amaethwr yn gwrteithio’r tir gyda thail y gwartheg dros gyfnod y gaeaf. Yna, at ddiwedd Ebrill, roedd y plant 10-14 mlwydd oed yn cael eu gyrru allan i ‘grega’, sef mynd o amgylch y weirglodd i gyd gyda bwced i godi unrhyw gerrig a fuasai wedi dod i wyneb y tir, neu drwy ddifaterwch eraill o daflu cerrig i’r cae, a hynny heb sylweddoli mor helbulus y gallai hynny fod i’r pladurwr.
Cael y pladuron i gyd wedi eu hogi ar y maen llifio, y cribiniau i gyd gyda dannedd newydd, y picffyrch a’r drol yn barod at eu gorchwyl.
![]() |
| Llun gan Ellen Maiden -hel ym Mhantllwyd |
Disgwyl diwrnod braf i gychwyn, un ai gwrando ar y radio am ragolygon – doedd dim sôn am deledu yn y dyddiau hynny – neu ail-brocio’r cof am hen arwyddion a ddaeth i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth – gweld y gwenoliaid yn hedfan yn uchel neu’n isel; sut roedd hi’n nosi? Oedd y mynyddoedd yn edrych yn bell neu’n agos? ... ac yn y blaen.
Rhaid oedd dechrau rywdro, gyda’r tad rhan amlaf yn cychwyn, a’r meibion neu’r gwas yn ei ganlyn, a hynny tua 5 o gloch y bore cyn i’r gwlith godi.
Byddent yn wyliadwrus iawn faint i’w dorri yn ôl y rhagolygon neu eu gweledigaeth hwy eu hunain. Ofn torri gormod, rhag ofn i’r tywydd droi yn anffafriol, neu ar yr ochor arall, ofn colli tywydd braf i barhau am wythnos neu well. Ond profiad y tad oedd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad yma eto.
Yna, yn amal iawn byddai’r tad yn mynd at ei waith dyddiol erbyn 8 yn y bore, a’r hogia i odro’r gwartheg yn y beudy ac yna i’r ysgol erbyn 9 o’r gloch.
Ar ôl ymborthi’r pladurwyr, amser i’r merchaid ddod allan i chwalu’r ‘stodiau’ er mwyn i’r gwair ddechrau gwywo. Y diwrnod canlynol, dilyn yr un drefn, gyda’r merchaid yn ‘troi’ y gwair er mwyn gwneud yn siŵr fod ochor isaf y gwair yn cael cyfle i wywo.
Y tad fel rheol oedd yn penderfynu os oedd y gwair yn ddigon aeddfed i’w gario i’r gadlas.
Ambell dro, byddai’r tywydd yn troi’n gymylog a gwan ac roedd yn ansicr dweud os oedd glaw yn agos. Yr amser yma, roedd yn rhaid ‘mydylu’, a dyma’r orchwyl gasaf gan bawb i’w wneud, achos mi fyddai’n orfodol i ‘rencio’ gwair i gyd, yna ei godi fel pebyll bach ar hyd y cae gan ofalu fod pen y mwdwl wedi ei godi fel bod y glaw yn rhedeg oddi arno i gyd, a dim yn mynd trwodd i’w du mewn.
Clywsoch lawer gwaith rwy’n siŵr fod eisiau pen iawn ar y mwdwl – wel dyma yn sicr i chwi o lle daeth y dywediad yma. Cyn cario’r gwair i’r gadlas, rhaid oedd bod yn hollol siŵr o ddau beth.
1. Peidio byth â’i gario os nad oedd o wedi gwywo’n iawn. Os buasai tamed ohono heb wywo, gallai’r mymryn yma boethi i’r fath wres yng nghanol y gadlas nes achosi tân a difa’r cynnyrch i gyd. Byddai hynny’n digwydd o fewn 6 wythnos o’i gario fel rheol.
2. Peidio byth â’i gario os oedd rhywfaint o law heb sychu yn iawn ar y gwair. Mewn dim amser mi fuasai’r gwair yma yn llwydo'r holl gynnyrch a’i ddifetha.
Ple bynnag yr oeddech yn gorffen eich gorchwyl yn y cae gwair, y pechod mwyaf fuasai cario eich cribin tuag at y gadlas. Na – rhaid oedd tynnu’r gribin tu ôl – rhag ofn y buasai rhywfaint o wair wedi ei fethu a hynny ar ôl i chwi hel yr olion. Yr eglurhad yr oeddech yn ei gael – er cyn lleied o wair oedd gennych ar y gribin, fuasai hwnnw ddim ar gael pe baech ei angen yn ystod y gaeaf maith. Hwyrach y byddai’n ddigon i wneud un pryd i’r fuwch odro!
Ni fedraf orffen heb gynnwys cwpled o gyngor a gefais gan fy nhad pan oeddwn yn cychwyn ar fy ngyrfa fel plymar ym 1948.
“Cwyd dy bladur cyn iddi fynd heb ddim min,Cyngor sydd â llawer o feddwl tu ôl iddo ‘rwy’n siŵr - tu allan i fyd ffermio!
A stopia dy geffyl cyn iddo stopio ei hun.”
Dyddiau difyr iawn.
----------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y llun) yn rhifyn Mehefin 2018
25.7.18
Dathlu Celf yn Yr Ysgwrn
Braf oedd cerdded o gwmpas safle’r Ysgwrn ar noson hafaidd i fwynhau rhagwelediad o’r darnau celf ar gyfer arddangosfa I’r Byw gan Rhodri Owen, yng nghwmni Myrddin ap Dafydd a’r artist gwadd Catrin Williams.
Noson hwyliog o ddathlu oedd hon, yn cwblhau gwaith blwyddyn a welodd Rhodri yn cydweithio ag wyth artist gwadd ac wyth grŵp o gefndiroedd gwahanol iawn ar draws Cymru i fynegi eu profiad o fyw, a hynny ar ganfasau glân dodrefn newydd Rhodri.
“Bardd dodrefn” oedd disgrifiad Myrddin ap Dafydd o Rhodri, ac fe gychwynnodd y noson efo sesiwn holi ffwrdd â hi rhwng Myrddin, Rhodri a Catrin. Fel eglurodd Rhodri:
Cyfeiriodd Myrddin at gychwyn pethau hefyd a’r cyswllt rhwng themâu a chefndir Cadair Eisteddod Genedlaethol 2017 ac arddangosfa I’r Byw. Ychwanegodd Rhodri:
Bydd ffurf yr arddangosfa yn newid o le i le, cyn teithio i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ddechrau Awst, ac ymlaen wedyn i orielau eraill tan Ionawr 2019.
Mae ‘I’r Byw’ yn bartneriaeth rhwng wyth oriel a sefydliad, gan gynnnwys Parc Cenedlaethol Eryri, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.
--------------------------------
Ymddangosodd yr erthygl yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2018.

“roedd perffaith ryddid i’r grwpiau yma falu fy nodrefn, a doedd gen i ddim syniad o be fyddai’r canlyniad!”Yn amlwg daliwyd dychymyg y gynulleidfa, a difyr iawn oedd clywed y dehongliadau o’r darnau celf a’r trafod brwd wrth fynd o gwmpas y gweithiau. Roedd cryn ddiddordeb yn y dodrefn gwreiddiol a’r newid fu, a chyfle i rai o wirfoddolwyr Yr Ysgwrn fu’n rhan o’r gwaith i ddangos eu cyfraniad – cyfle hefyd i weld ffrwyth gwaith yr holl grwpiau a’r fideo ohonynt wrthi’n rhoi eu marc ar y dodrefn.
Cyfeiriodd Myrddin at gychwyn pethau hefyd a’r cyswllt rhwng themâu a chefndir Cadair Eisteddod Genedlaethol 2017 ac arddangosfa I’r Byw. Ychwanegodd Rhodri:
“gan mai gan y Parc ges i’r comisiwn i ddylunio a saernio’r gadair, a hynny ar ganmlwyddiant Y Gadair Ddu, roeddwn i’n falch iawn mod i wedi cael y cyfle i gynnal rhagwelediad y darnau yma yn Yr Ysgwrn, a chau’r cylch fel petai, cyn i’r arddangosfa gychwyn ar ei thaith o gwmpas Cymru”.
Bydd ffurf yr arddangosfa yn newid o le i le, cyn teithio i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ddechrau Awst, ac ymlaen wedyn i orielau eraill tan Ionawr 2019.
Mae ‘I’r Byw’ yn bartneriaeth rhwng wyth oriel a sefydliad, gan gynnnwys Parc Cenedlaethol Eryri, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.
--------------------------------
Ymddangosodd yr erthygl yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2018.
Labels:
arddangosfa,
artist,
Celf,
dodrefn,
I'r Byw,
Y Gadair Ddu,
Yr Ysgwrn
21.7.18
'Stiniog ydi Canol y Bydysawd!
CYSAWD ERYRI
Erthygl gan Eleth Peate.
Bydd yr haul yn sicr o wenu yn y Blaenau o hyn allan diolch i brosiect newydd Cysawd Eryri. Dros y misoedd nesaf bydd Arloesi Gwynedd Wledig a Pharc Cenedlaethol Eryri yn cydweithio gyda’r artistiaid Rachel Rosen ac Andy Birch er mwyn dod â’r haul a gweddill planedau Cysawd yr Haul i Wynedd. Y nod ydi amlygu dynodiad Eryri fel Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol a meithrin diddordeb mewn seryddiaeth.
Mae plant Blaenau Ffestiniog wedi bod yn gweithio’n ddiwyd iawn gyda’r artist Rachel Rosen er mwyn creu’r planedau fydd yn cael eu gosod mewn busnesau gwahanol ar draws y sir. Bu plant Ysgol Tanygrisiau yn creu'r blaned Mawrth. Er mwyn ail greu edrychiad coch y blaned, aeth y plant allan i chwilio am hen sgrap rhydlyd i’w ychwanegu i’r wyneb. Bydd Mawrth yn cael ei osod yng Nghaffi Llyn, Tanygrisiau.
Drwy osod planedau o amgylch y Parc, bydd llwybr rhyngblanedol yn cael ei greu i bobl ei ddilyn. Ym mhob stop bydd cyfle i ddysgu mwy am y blaned arbennig honno a dod i werthfawrogi maint cymhareb Cysawd yr Haul. Bydd hefyd yn annog pobl i ymweld ag ardaloedd newydd o fewn y Parc a hynny gan ddefnyddio trafnidiaeth wyrdd.
Bydd yr Haul i’w weld yn Siop Antur Stiniog, a bydd yn cael ei greu gan yr artist graffiti Andy Birch gyda help gan bobl ifanc Gisda. Dywedodd Ceri Cunnington o Antur Stiniog:
I geisio deall maint cymhareb cysawd yr haul, bydd y planedau sy’n bellach i ffwrdd o’r haul sef Iau, Sadwrn, Wranws, Neifion a Phlwton yn cael eu gosod yng Ngwesty’r Oakley Arms Maentwrog, Y Ring Llanfrothen, Caffi Pen y Pass Llanberis, Canolfan Arddio Camlan Dinas Mawddwy, a Rheilffordd Tal y Llyn. Ar y raddfa yma mae Cysawd yr Haul wedi ei grebachu o ffactor cant pedwar deg miliwn (140,000,000) i un.
Bydd y planedau yn cael eu gosod dros y misoedd nesaf, gyda phamffled ar gael i roi mwy o wybodaeth am y prosiect. Gobeithio’n fawr y bydd ddarllenwyr Llafar Bro yn cael y cyfle i fwynhau Cysawd Eryri a dysgu mwy am Gysawd yr Haul!
Mae prosiect Cysawd Eryri yn brosiect cydweithredol rhwng Arloesi Gwynedd Wledig a Pharc Cenedlaethol Eryri. Cefnogir y cynllun gan Gronfa Eryri sydd yn rhan o grantiau Parc Cenedlaethol Eryri, a drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), a Chyngor Gwynedd.
-------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2018.
Erthygl gan Eleth Peate.
Bydd yr haul yn sicr o wenu yn y Blaenau o hyn allan diolch i brosiect newydd Cysawd Eryri. Dros y misoedd nesaf bydd Arloesi Gwynedd Wledig a Pharc Cenedlaethol Eryri yn cydweithio gyda’r artistiaid Rachel Rosen ac Andy Birch er mwyn dod â’r haul a gweddill planedau Cysawd yr Haul i Wynedd. Y nod ydi amlygu dynodiad Eryri fel Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol a meithrin diddordeb mewn seryddiaeth.
Mae plant Blaenau Ffestiniog wedi bod yn gweithio’n ddiwyd iawn gyda’r artist Rachel Rosen er mwyn creu’r planedau fydd yn cael eu gosod mewn busnesau gwahanol ar draws y sir. Bu plant Ysgol Tanygrisiau yn creu'r blaned Mawrth. Er mwyn ail greu edrychiad coch y blaned, aeth y plant allan i chwilio am hen sgrap rhydlyd i’w ychwanegu i’r wyneb. Bydd Mawrth yn cael ei osod yng Nghaffi Llyn, Tanygrisiau.Drwy osod planedau o amgylch y Parc, bydd llwybr rhyngblanedol yn cael ei greu i bobl ei ddilyn. Ym mhob stop bydd cyfle i ddysgu mwy am y blaned arbennig honno a dod i werthfawrogi maint cymhareb Cysawd yr Haul. Bydd hefyd yn annog pobl i ymweld ag ardaloedd newydd o fewn y Parc a hynny gan ddefnyddio trafnidiaeth wyrdd.
Bydd yr Haul i’w weld yn Siop Antur Stiniog, a bydd yn cael ei greu gan yr artist graffiti Andy Birch gyda help gan bobl ifanc Gisda. Dywedodd Ceri Cunnington o Antur Stiniog:
“Rydym yn falch iawn o gael yr Haul yma’n barhaol. Mae pawb yn deud ‘bod hi’n bwrw glaw ym Mlaenau Ffestiniog’, ond wir i chi, mae hi’n braf o hyd yma! Bydd yn ffordd wych o ddenu mwy o bobl i’r dref ac i mewn i’r siop.”Mae disgyblion Ysgol y Moelwyn, Ysgol Maenofferen ac Ysgol Manod hefyd ar ganol gweithio’n galed i greu Y Ddaear, Mercher a Gwener. Mi fydd y planedau yma yn cael eu gosod yn Llechwedd, Caffi Parc ac yng ngweithdy llechi 'Snowdonia'.
I geisio deall maint cymhareb cysawd yr haul, bydd y planedau sy’n bellach i ffwrdd o’r haul sef Iau, Sadwrn, Wranws, Neifion a Phlwton yn cael eu gosod yng Ngwesty’r Oakley Arms Maentwrog, Y Ring Llanfrothen, Caffi Pen y Pass Llanberis, Canolfan Arddio Camlan Dinas Mawddwy, a Rheilffordd Tal y Llyn. Ar y raddfa yma mae Cysawd yr Haul wedi ei grebachu o ffactor cant pedwar deg miliwn (140,000,000) i un.
Bydd y planedau yn cael eu gosod dros y misoedd nesaf, gyda phamffled ar gael i roi mwy o wybodaeth am y prosiect. Gobeithio’n fawr y bydd ddarllenwyr Llafar Bro yn cael y cyfle i fwynhau Cysawd Eryri a dysgu mwy am Gysawd yr Haul!
Mae prosiect Cysawd Eryri yn brosiect cydweithredol rhwng Arloesi Gwynedd Wledig a Pharc Cenedlaethol Eryri. Cefnogir y cynllun gan Gronfa Eryri sydd yn rhan o grantiau Parc Cenedlaethol Eryri, a drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), a Chyngor Gwynedd.
-------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2018.
Subscribe to:
Posts (Atom)