28.3.25

Cyfnod cyffrous i’r Wynnes

Os wnaethoch chi ddigwydd gyrru ar hyd Heol Manod ar fore Sadwrn yn ddiweddar, efallai eich bod wedi gweld rhai o drigolion y pentref yn gwisgo festiau hi-vis, bagiau coch a ffyn codi sbwriel yn bob llaw.
Ar Chwefror 1af, unodd cymuned y Manod ar gyfer digwyddiad codi sbwriel a chodi calon, ond beth ysbrydolodd y bore?

Fel yr ydym eisoes wedi rhannu gyda chi ddarllenwyr Llafar Bro, ein nod yw prynu y Wynnes Arms, a’i hagor fel tafarn gymunedol, gan ddilyn arloesedd mentrau fel y Pengwern, Y Plu a’r Heliwr, a llawer mwy sy’n cymunedoli eu tafarndai i fod yn hybiau cymdeithasol a diwylliannol i’n pentrefi yng Nghymru.


Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi llwyddo i ennill grant Grymuso Gwynedd! Mi fydd hyn yn ein galluogi i gymryd y camau cyntaf tuag at ffurfio Cymdeithas Budd Cymunedol (CBS), hynny yw, menter wedi’i hariannu gyda siârs cymunedol, er budd, ac wedi ei harwain, gan y gymuned. Bydd y grant yn ein helpu i baratoi cynllun busnes a siârs, dyluniadau pensaernïol cychwynnol a strategaethau marchnata. Hefyd, rydym yn trefnu cyfarfod cyhoeddus arall i rannu'r holl fanylion, camau ac, yn bwysicaf oll, i chi cael rhannu barn! 

Cofiwch gadw llygad barcud am bosteri gyda rhagor o wybodaeth am y dyddiad, a’n dilyn ni ar grŵp Wynnes Cymunedol ar FaceBook – mae cyfnod cyffrous o'n blaenau!

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025

 


Stolpia- Prysurdeb y 1960au

I’r rhai ohonoch a brofodd y cyfnod 1958-1965 yn y fro, yn ddiau, daw'r holl weithgarwch, prysurdeb a bwrlwm a fu gydag adeiladu Pwerdy Tanygrisiau ac Atomfa Trawsfynydd yn ôl i’r cof. 

Roedd busnesau’r ardal yn ffynnu gan fod rhai cannoedd o bobl yn tyrru mewn i’r Blaenau a’r cyffiniau i chwilio am waith gyda chwmnïau McAlpine, Cementation, Laing, ayyb. Cofiwn i ni fel hogiau weld un dyn yn eistedd ar gwrb yn yr hen Stesion London ac yntau wedi dod yr holl ffordd o’r Alban i geisio gwaith ac inni sylwi mai dwy goes artiffisial a oedd gan y truan. 

Cofiaf hefyd bod amryw o Wyddelod ac Albanwyr yn lletya yma, ac yn wir, amryw wedi cartrefu yn y Rhiw a Glan-y-pwll. Yn y cyfnod hwn cynyddodd y drafnidiaeth ar ein ffyrdd a phrysurodd y rheilffordd hefyd. Dyma un hanesyn difyr am y prysurdeb hwnnw:

Ym mis Chwefror 1961, a phan yn y broses o adeiladu pwerdy Trydan-Dŵr Tanygrisiau, defnyddiwyd injan diesel gref i ddod â thrawsnewidydd (transformer) mawr yn pwyso 123 tunnell ar hyd y rheilffordd yr holl ffordd o Hollinwood ger Oldham i’r Blaenau. 

Dywedir mai hon oedd yr injan locomotif diesel gyntaf i ddod fyny drwy’r Twnnel Mawr, ac yn ôl y sôn, dim ond cwta fodfedd oedd i sbario ar bob ochr y trawsnewidydd anferth hwn wrth iddo ddod drwy’r twnnel. Pa fodd bynnag, cyrhaeddodd Stesion London yn ddiogel ac aethpwyd â fo i’r pwerdy yn weddol ddidrafferth, medda nhw. Tybed pwy all ddweud wrthym sut yr aeth yr honglad mawr hwn o’r orsaf i lawr i’r pwerdy?

Y llwyth yn dod allan o’r Twnnel Mawr gydag amryw bobol yn ei wylio mewn syndod


Dyma’r trên a’r llwyth yn mynd heibio’r Dinas ar ei ffordd i’r orsaf

Sylwer ar yr adeiladau a fyddai yng ngwaelod Tomen Fawr, Chwarel Oakeley yr adeg honno, sef hen gartref Mr Rufeinias Jones a’i wraig ar y chwith, ac os cofiaf yn iawn,  hen gartref Jonah Wyn ar y dde iddo, a sied injan yng ngodre Inclên Fawr Dinas. (Diolch i Megan Jones, Bryn Bowydd am y lluniau).
- - - - - - - - -

Rhan o golofn reolaidd Steffan ab Owain, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025

 

Hir Oes i Sbrint ’Stiniog

Degau o redwyr yn mentro eleni

Ddydd Sul cynta’ Chwefror mentrodd dros 80 o redwyr i fyny at Stwlan mewn ras 5K hwyliog. Dyma’r ail dro i Sbrint ’Stiniog gael ei chynnal, a chafwyd ras gystadleuol iawn – yn ogystal â digon o hwyl.

Lizzie Richardson o Danysgrisiau ddaeth gyntaf yn ras y merched, gan gwblhau’r ras mewn 21 munud a 31 eiliad. Gosododd record newydd ymhlith y merched, gan orffen bron i wyth munud yn gynt na’r enillydd y llynedd. Daeth partner Lizzie, Tom, yn chweched gan wthio’u mab blwydd oed mewn coetsh!

Matthew Fenwick o Flaenau Ffestiniog oedd y dyn cyntaf i orffen mewn 20 munud union, efo’i gi. Elis Jones o Ben Llŷn ddaeth yn gyntaf yn ras y dynion (heb gi), a hynny mewn ugain munud a deunaw eiliad. Fe osododd Elis record newydd yn ras y dynion hefyd, pan orffennodd dros dri munud yn gynt na’r dyn buddugol yn 2024.

Rhedodd 90 o bobol y ras, sy’n dilyn ffordd Stwlan o Ddolrhedyn at yr argae ac yn ôl eleni, dros 40 yn fwy na’r nifer gymerodd ran flwyddyn yn ôl. Hir oes i Sbrint ’Stiniog a gobeithio bydd y ras yn dal i fynd o nerth i nerth!

- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025

 

Dod â’n gerddi i’r gymuned...

Dyna ddywedodd un o staff Gerddi Stiniog wrth inni nodi ein bod am rannu ychydig o’n newyddion gyda darllenwyr Llafar Bro.

Roedd Ionawr wedi bod yn hen dywydd oer a thrwm. Ar adegau o'r fath, mae'n llesol galw yng Ngherddi Stiniog. Hwyliau da ar bawb bob amser. Y staff a’r unigolion i gyd wrthi’n ddygn. Mae croeso mawr i'w gael yno. Mae brwdfrydedd parhaus i rannu newyddion am ryw fenter newydd neu’i gilydd.

Gyda diolch i Barc Cenedlaethol Eryri cafwyd yn ddiweddar, nawdd i ddatblygu 'gwlyptir' yn y gerddi. Anodd meddwl bod angen datblygu’r ffasiwn beth yn ardal Ffestiniog!

Gyda lleihad yn y llefydd naturiol i adar, llyffantod, pryfetach a thebyg ymgartrefu mewn cynefin addas, gofynnwyd inni glustnodi llecyn i hybu byd natur. Yn dilyn stormydd mis Tachwedd, bu rhaid llifio ambell goeden fawr oedd wedi disgyn ac felly roedd llecyn addas rhydd ar gyfer llyn bychan. Mae’r tir wedi ei farcio a’r tyllu wedi cychwyn.

Diolch am arweiniad criw'r Dref Werdd – rydyn yn rhagweld na fydd y dasg yn un anodd.
Mae’r Dref Werdd am blancio un o’r coed sydd wedi syrthio er mwyn creu mainc ar gyfer eistedd wrth y llyn bach. Bydd y cwch gwenyn yn cael ei leoli nepell o'r llyn.

Wrth grwydro o gwmpas roedd yr unigolion yn bagio logs a choed tân, a rhai eraill wrthi yn tacluso ar ôl y gaeaf. Roedd yr ieir yn crwydro o gwmpas yn brysur yn pigo.

I’r rhai ohonoch sydd wedi cadw ieir, neu gydag ieir, gallwch werthfawrogi gwerth y dofednod. Mae’r unigolion wedi elwa o’r profiad busnes wrth brynu bwyd a gwerthu wyau, ond hefyd mae’r gerddi rywsut yn fwy cartrefol ers eu dyfodiad. Yr elfen gofal yn brofiad gwerthfawr!

Yn ddiweddar, bu cyfle i drwsio stribed hir o wal cerrig sych, a hyn wedi’i wneud yn grefftus iawn gyda chymorth ac arbenigedd Stephen Lucas. Mae Mr Lucas wedi adeiladu sedd o gerrig sych sydd wedi ei lleoli tu allan i’r cwt ieir. Man ymlacio i ambell unigolyn.

Dewch draw i fusnesu, mae’n werth galw heibio. Lleoliad da i godi hwyliau, myfyrio neu fwyta picnic bach, a hynny wrth edmygu’r golygfeydd bendigedig.

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025

 

23.3.25

Dilyn Trywydd

Mae’n anodd credu bod pum mlynedd wedi mynd heibio ers dechrau’r pandemig, neu ers i ni yn y gorllewin ddechrau ystyried cymryd y rhybuddion o ddifrif beth bynnag. Mawrth 23 ddaeth y clo mawr, wrth gwrs, ond erbyn y Chwefror dw i’n cofio gwylio’r newyddion o’r Eidal a dechrau poeni.

Bryd hynny, roeddwn i’n byw yn Aberystwyth ac yn astudio am radd feistr mewn Hanes Cymru, a dw i’n cofio'r rhyddhad o gyrraedd Bronaber, a ’Stiniog yn agor o’m mlaen i, ar ôl sgrialu hi fyny’r A487 ar noson y cyhoeddiad mawr, yn poeni y bysa ryw heddwas yn fy nhroi i’n ôl am Aber ac y byddai’n rhaid treulio misoedd mewn tŷ stiwdants oer oedd prin yn gweld golau’r haul. Ta waeth, gyrhaeddais i Gwm Teigl efo llond boot o bethau, gan gynnwys, am ryw reswm od, y peiriant gwneud toasties - jyst y peth mewn argyfwng.

Cwm Teigl. Llun Paul W

Flwyddyn yn ddiweddarach, gefais i waith fel gohebydd gyda golwg360. Â’r pandemig dal i ruo yn ei flaen, doedd prin un stori newyddion nad oedd yn sôn am Covid. Ar ôl ryw flwyddyn arall, gefais i ddechrau sgrifennu i gylchgrawn Golwg – swydd dw i dal i'w gwneud – a chanolbwyntio ar ddarnau ‘Ffordd o Fyw’, sy’n bopeth o straeon am fwytai, ffasiwn, siopau, bragwyr, gwyliau, safleoedd archeolegol... unrhyw beth difyr.

Daeth y pandemig ag erchyllterau fedrith y rhan fwyaf ohonom, diolch byth, fyth eu dychmygu. Ar y pegwn arall, cafodd rhai ohonom gyfle i ailfeddwl prysurdeb bywyd, i grwydro’n bro, i ailafael mewn heb ddiddordebau. Yn dal i fod, pan dw i’n cyfweld pobol ac yn gofyn sut ddechreuon nhw eu busnes neu eu diddordeb, mae canran uchel iawn ohonyn nhw’n sôn am gyfnod Covid. Fysa hi’n ddifyr iawn mesur yr effaith cymdeithasol gafodd y pandemig arnom yn iawn, a’r holl fywydau sydd wedi dilyn trywyddion cwbl wahanol yn ei sgil. 

Debyg iawn na fyswn i fyth wedi dod yn ohebydd, nag felly’n hapus i olygu Llafar Bro (!), hebddo.

Siŵr eich bod chi’n meddwl pam fy mod i’n rhygnu ymlaen am rywbeth ddigwyddodd bum mlynedd yn ôl – hanes ydy ’mhethau i, cofiwch - ond mae o’n dod â fi at yr edmygedd oedd gen i tuag at bapurau bro a grwpiau cymunedol wnaeth ddal ati’n ddygn yn ystod y cyfnod. Mae’n glod i wirfoddolwyr ym mhob rhan o’r wlad bod y traddodiadau hyn wedi dod drwyddi, a braf oedd cael gair o ganmoliaeth gan yr awdures Manon Steffan Ros yn ddiweddar.

“Er ’mod i ddim o’r ardal nac erioed wedi byw yno, mae gwefan Llafar Bro yn un o fy ffefrynnau. Gymaint o hanes difyr arno fo. Parch mawr at y rhai sy’n ei gynnal/sgwennu.”
Diolch Manon am y nodyn hyfryd, a chofiwch fod dros 1,100 o hen erthyglau gan lawer o golofnwyr ar y wefan os ydych chi awydd pori rywfaint ar yr archif.

Nodyn hefyd i orffen am un o fy addunedau blwyddyn newydd y soniais amdanyn nhw yn rhifyn Ionawr. Diolch i’r rhew, wnes i ddim symud y car am tua deng niwrnod cyntaf y flwyddyn felly dyna’r addewid i ddefnyddio llai arno'n cael tic. Gobeithio bod pawb wedi dod drwy’r tywydd rhewllyd a garw’n iawn, a chyda gobaith cawn adael y gwaethaf o’r gaeaf rŵan!

Cadi Dafydd
- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025

Dim Byd a Nunlla

Dyna sut mae Meinir Gwilym yn ateb ei chwestiynau ei hun yn ei chân o’r un enw: ‘Be dwi di neud? Lle dwi di bod?’

Ond yn groes i’w chytgan boblogaidd, yr hyn wnaeth hi ar Nos Wener ola’ Ionawr oedd swyno cynulleidfa, a hynny yn y Blaenau. Tŷ Coffi Antur Stiniog oedd lleoliad y ddiweddaraf o nosweithiau Caban, gan gangen Bro Ffestiniog o ymgyrch annibyniaeth Yes Cymru, a bu cryn edrych ymlaen ers talwm am ymddangosiad Meinir yn y gyfres.

Fel bob tro yn nosweithiau agos-atoch y gyfres, mi gafodd y gantores wrandawiad gwych gan gynulleidfa Bro Stiniog, a phawb yn gwrando’n astud ar eiriau arbennig ei chaneuon ac edmygu ei chwarae gitâr medrus, mewn awyrgylch hyfryd.

 

Rhian Cadwaladr oedd yn rhoi sgwrs ar y noson, a dechreuodd trwy son am ei chysylltiad hi â’n hardal ni. Gadawodd ei hen Nain, Rebecca Jones y Blaenau, efo’i theulu am Slatington, Pennsylvania. 

 

Roedd Rhian hefyd yn un o’r rhai ddaeth pan oedd hi’n actio yn y gyfres Amdani, efo cyflwynydd Radio Cymru, Jonsi, i droi’r goleuadau ymlaen ar noson Goleuo Stiniog rai blynyddoedd yn ôl. 

 

Dim ots ba raglenni y mae hi wedi ymddangos ynddyn nhw, dim ond am gymeiriad Siani Flewog o raglen blant Sali Mali mae hi’n cael ei nabod!

 

Aeth Rhian ymlaen i son am ei gyrfa fel nofelydd, efo darlleniadau byrion yn cael gwerthfawrogiad a chwerthin iach gan y gynulleidfa, a gorffen drwy gyfeirio at ei llyfrau coginio, a mwy.

Noson gofiadwy arall yn y gyfres Adloniant; Diwylliant; Chwyldro!

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025

 

Mentrau Creadigol Y Dref Werdd

Dyma ychydig o newyddion gan Y Dref Werdd.

Camu yn ein Blaenau
Rydym yn llawn cyffro o gael cyhoeddi prosiectau newydd Y Dref Werdd ar gyfer y tair blynedd nesaf, rydym wedi’n hariannu gan y Loteri Genedlaethol, ac arian Ffyniant Bro gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gyngor Gwynedd. 

Byddwn yn dal i agor yr hwb gyda llai o oriau, ond byddwn yn grymuso pobl i wneud gwaith dros eu hunain a chael balchder yn eu bywyd. Byddwn yn gwneud gwaith gydag ieuenctid ardal Ffestiniog a Phenrhyndeudraeth, gan gyd-weithio gydag Ysgol y Moelwyn i greu sesiynau pontio’r Cenedlaethau. Byddwn hefyd yn cychwyn prosiect Balch o’ch Bro gydag Ysgol y Moelwyn, i greu gwahanol sesiynau gyda holl blant yr ysgol.

Bydd Prosiect Celfyddydau Cymunedol hefyd yn cael ei siapio, yn ardal Ffestiniog a Phenrhyndeudraeth. Bydd yr iaith Gymraeg yn ganolog i holl waith y Dref Werdd, a byddwn yn helpu gyda grwpiau iechyd meddwl dynion, grwpiau galaru, ac yn ymgymryd â mwy o sesiynau i’r henoed hefyd. Edrychwn ymlaen at eich gweld a’ch cefnogi dros y tair blynedd nesaf.
 

Caffi Trwsio Lleol a 'Ffiws' yn Derbyn Cyllid Grant i Ehangu Gwasanaethau Cymunedol
Mae caffi trwsio lleol a 'Ffiws' Blaenau (un o brosiectau Y DREF WERDD) wedi derbyn grant hael i helpu i ehangu eu gwasanaethau i gynnwys 'Llyfrgell o Bethau', i feithrin creadigrwydd, cynaliadwyedd, a chydweithio cymunedol. Bydd y grant, a ddyfarnwyd gan gronfa 'Economi Gylchol' Menter Môn, yn cefnogi twf y mentrau hyn, gan ddarparu adnoddau gwerthfawr i unigolion a theuluoedd yr ardal.

Mae'r caffi trwsio, menter lle gall pobl ddod ag eitemau sydd wedi torri i mewn i'w trwsio gan wirfoddolwyr a staff medrus, eisoes wedi bod yn cael effaith gadarnhaol drwy leihau gwastraff a dysgu sgiliau atgyweirio.  Gyda'r grant, bydd y fenter yn gallu cynyddu ei chapasiti gweithdai, buddsoddi mewn offer newydd, a gwella allgymorth i'r gymuned.

Yn ogystal â'r caffi trwsio, bydd y man 'Ffiws' - gweithdy agored sy'n cynnig mynediad i offer amrywiol fel argraffwyr 3D, offer, a pheiriannau gwnïo - yn elwa o'r cyllid. Nod y gofod yw grymuso trigolion lleol i ddod â'u prosiectau creadigol yn fyw wrth ddysgu sgiliau newydd. 

Bydd y grant hefyd yn ariannu gweithdai cymunedol sydd wedi'u cynllunio i gysylltu pobl â'r diwylliannau atgyweirio a gwneud, gan annog cynaliadwyedd, arloesi a chydweithio yn y broses.

Mae Ffiws a’r caffi trwsio eisoes wedi dod yn ganolbwynt cymunedol gwerthfawr, a bydd yr elfen hon o Lyfrgell o Bethau yn caniatáu iddynt wasanaethu hyd yn oed mwy o drigolion, gan helpu i adeiladu cymuned gryfach a mwy dyfeisgar.

Mae Ffiws/Caffi Trwsio/Llyfrgell y Pethau wedi eu lleoli yn 4 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, LL41 3ES.  Cysylltwch a charlotte@drefwerdd.cymru am fwy o fanylion.
Diolch yn fawr
Meg Thorman, Arweinydd Prosiectau Amgylcheddol

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025

 

 

13.3.25

Manion o'r Manod

Faint ohonoch chi sydd wedi mynd o’r Blaenau i gyfeiriad Manod yn ddiweddar, ac wedi sylwi ar y tyfiant coed pinwydd ar y Manod Bach? Roedden nhw’n amlwg iawn pan oedd ychydig o eira wedi disgyn ar y mynydd.

Mae yna ddwsinau ohonynt, a’r cwestiwn sydd gen i ydi beth neu pwy sydd yn gyfrifol amdanynt? Dwi wedi cael fy synnu’n fawr beth sy’n digwydd ar y mynydd, ac yn edrych ymlaen at glywed eich barn neu atebion gan rywun.

Ychydig wythnosau’n ôl, mi es am dro ar ddiwrnod braf i fyny i gyfeiriad Hafod Ruffydd. Y bwriad oedd mynd i ben tomen Diffwys, ond oherwydd bod rhew ar y llwybr roedd yn rhy beryg i fwrw ymlaen, felly mi benderfynais droi am y llwybr heibio Fuches Wen.

 

Yno ‘roedd cerflun pren, anhygoel o dylluan, ac mi wirionais yn lân efo’r gwaith naddu manwl, yn creu rhywbeth gwych o fonyn coeden oedd wedi ei thorri. Llongyfarchiadau mawr i’r artist sy’n gyfrifol am y gwaith trawiadol yma!

Da Gweld cymaint o ddefnydd ar gae pêl-droed Cae Clyd yn ddiweddar. Nid yn unig gan Glwb Pêl-droed Amaturiaid y Blaenau, ond hefyd blant ifanc yn ymarfer ar benwythnosau; y genod a’r hogia yn cael hwyl fawr arni. Mae’n edrych yn dda ar ddyfodol y clwb.    

DR

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025



 

12.3.25

Dydd Mawrth Crempog a’r Ynyd

Eleni, 2025, dathlwyd yr Ynyd rhwng 2 Mawrth a Mawrth 4ydd, a dydd Mawrth Crempog (neu Ddydd Mawrth Ynyd fel y’i gelwir yn ogystal) yn syrthio ar Fawrth 4ydd. Dydd Mawrth Crempog yw'r diwrnod o flaen Dydd Mercher y Lludw yn y calendr Cristnogol. 

Daw'r gair Cymraeg 'Ynyd' o'r gair Lladin initium ('cychwyn'), cyfeiriad at agosáu'r Grawys. Fe'i gelwir yn Mardi Gras mewn llawer o wledydd Catholig, sef "Dydd Mawrth Tew", gan ei bod yn arfer bwyta bob math o fwydydd bras a danteithion cyn dechrau ar y carnifal lliwgar blynyddol. Wedi’r elwch y deuai’r tawelwch gyda gwasanaethau eglwysig dwys Dydd Mercher y Lludw pan dynnir croes ludw ar dalcen y ffyddloniaid gan yr offeiriad fel arwydd o edifeirwch. Arfer cyffredin yn nefodau’r Iddewon gynt. 

Yr oedd yr Eglwys yn y Canol Oesau yn cadw ympryd deugain niwrnod cyn y Pasg, sef Y Grawys, i goffáu ympryd a themtiad Crist yn y Diffaethwch. Roedd y Grawys yn cael ei gymryd o ddifrif calon ac yn ôl gofynion yr Eglwys roedd yn rhaid i’r ffyddloniaid ymwadu rhag bwyd maethlon er mwyn canolbwyntio ar baratoi eu meddyliau: 'ymadroddion eu genau a myfyrdod eu calonnau', yn ogystal â'u cyrff, 'y temlau sanctaidd', ar gyfer defodau dwys Y Groglith. Ni chynhwysid y Suliau cyn y Pasg yn yr ympryd ac felly dechreuai’r ymprydio ar ddydd Mercher - Dydd Mercher Lludw.

Felly, cyfnod yw’r Ynyd i fwyta gweddillion bwyd a waherddid yn ystod Y Grawys a hefyd dathlu... cael parti mawr cyn y dyddiau blin. Pwy sydd heb glywed am ddathliadau lliwgar y Mardi Gras yn Sydney, Rio neu New Orleans? Mae’r ‘gras’ neu saim yn dal yn rhan o’n dathliadau ni yng Nghymru er bod y lard yn gyndyn o ymddangos yn ein dyddiau iach ni! Ac mae’r dyddiad hwn yn dal i weld pobl Stiniog yn estyn am eu padelli ffrio i wneud crempog.

Yn draddodiadol, gwaherddid wyau, lard neu saim, menyn, llefrith ac wrth gwrs cigoedd yn ystod Y Grawys. Nid fel heddiw pan fo’r Grawys yn gyfle i beidio bwyta siocled am 40 niwrnod hwyrach! Gwamalu yw hyn debyg… ond mae’r oes, ac yn sicr crefydd, wedi newid wrth gwrs!

Rhoddid cig weithiau yn y grempog yn y gorffennol. Yng ngogledd Lloegr gelwid dydd Llun yr Ynyd yn Collop Monday - y dydd olaf i fwyta cig cyn Y Grawys.

Roedd hwn yn hen draddodiad wrth gwrs, ond pylu wnaeth y diddordeb yn ystod y ganrif ddiwethaf. Sonnir fel y byddai trigolion y wyrcws yn cael eu troi allan ar ddydd Calan a dydd Mawrth Crempog i fynd i hel - fel rheol, yn ôl y dystiolaeth, cawsant lond eu boliau... ac mae crempog yn llenwi boliau gwag neu'n gwneud i rywun deimlo’n llawn beth bynnag. Roedd boliau llawn yn arbed arian i reolwr yr wyrcws yn ogystal! 

Ceir cyfeiriadau at wneud crempog:

Dydd Mawrth Ynyd
Crempog bob munud

Ceir sawl cyfeiriad yng ngogledd Cymru at blant yn ‘blawta a blonega’, sef hel blawd a saim er mwyn gwneud crempog. Mae rhai o’r rhigymau sy’n gysylltiedig â hel crempog - y rhai fyddai plant yn eu llafarganu ar y rhiniog unwaith y byddant wedi cael y perchennog i ateb y drws - yn dal yn gyfarwydd megis hon:

Wraig y tŷ a’r teulu da
A welwch chi’n dda roi crempog?
A lwmp o fenyn melyn mawr
Fel ’raiff i lawr yn llithrig;
Os ydych chwi yn wraig led fwyn,
Rhowch arni lwyn o driog.
Os ydych chwi yn wraig led frwnt
Rhowch arni lwmp o fenyn;
Mae rhan i’r gath, a chlwt i’r ci bach
A’r badell yn grimpin grempog!

Llafarganwyd y rhigwm hwn i mi gan wraig o’r Manod a fagwyd yn ardal Aberdaron ar ddiwedd y 19eg ganrif a byddai yn mynd o gwmpas yn canu hon ar ddydd Mawrth crempog yn yr ardal honno.

Dyma rigwm a boblogwyd gan Gymru’r Plant, rhigwm a gasglwyd o’r traddodiad llafar ond a olygwyd ar gyfer ei chyhoeddi. Daeth y rhigwm yn enwog, ac felly’r gampwraig grempog Modryb Elin Enog, a oedd yn enw cyfarwydd ar aelwydydd Cymru yn y gorffennol:

Modryb Elin Enog
Os gwelwch chi'n dda gai’i grempog?
Cewch chithau de a siwgr brown
A phwdin lond eich ffedog
Modryb Elin Enog
Mae ’ngheg i'n grimp am grempog
Mae Mam rhy dlawd i brynu blawd
A Siân rhy ddiog i nôl y triog
A ’nhad  rhy wael i weithio
Os gwelwch chi'n dda ga’i grempog?

Fel y dirywiodd yr arfer cedwid y rhigymau ar dudalennau cylchgronau megis Cymru’r Plant ond dim sôn am sut y defnyddid hwy yn wreiddiol. Newidiwyd beth arnynt i’w gwneud yn fwy deniadol. Cofnodwyd y rhigwm hwn a gasglwyd yn Stiniog tua 1890:

Os gwelwch chi’n dda gai’i grempog,
Os nad oes menyn yn y tŷ
Gai’i lwyad fawr o driog.
Mae mam rhy dlawd i brynu blawd
A ’nhad rhy ddiog i weithio.
Soniodd Lewis Morris (yn y 18fed ganrif) am blant sir Fôn yn cyrraedd adref yn hwyr yn y bore – ni ddylid hel crempog, na hel Calennig ar ôl hanner dydd wrth gwrs – a’u hwynebau’n drwch o saim a thriog o’u safnau hyd eu clustiau!

Heddiw mae gwneud crempog yn dal yn draddodiad ac wele, yn y siopau lleol, - heb enwi'r un - ceir bargian, dau baced o gymysgfa i wneud crempog am bris un. Pwy fasa’n meddwl am wneud crempog allan o baced a dim ond angen ychwanegu dŵr neu lefrith? Tyda ni wedi mynd yn ddiog! Mae’r amser wedi newid ond mae’r grempog yr un mor flasus. Y gamp fwyaf wrth gwrs yw fflipio’r grempog... ei thaflu o’r badell i’r awyr a’i chael i droi a glanio’n ôl yn ddiogel yn y badell a’i phen i lawr. Mae pob plentyn a phob plentyn hŷn wrth eu boddau efo’r gamp hon! Beth am gael cystadleuaeth fflipio crempog… mae’r rhain yn boblogaidd bellach ac yn ddull i godi arian at elusen neu jyst fel dipyn o hwyl!


Yr un mor draddodiadol yw ryseitiau crempog. Gelwir y grempog Gymreig draddodiadol heddiw yn ‘crepe’ (yn y siopau a’r bwytai o leiaf) - term sy’n gwahaniaethu’r grempog Gymreig oddi wrth y crempogau bach tewion hynny sydd mor boblogaidd yn America ac yma a elwid yn Scotch pancakes.

Dyma un rysáit draddodiadol a gesglais gan wraig o Danygrisiau rhyw ddeugain mlynedd yn ôl:

RYSÁIT CREMPOG HEN FFASIWN GYMREIG
Mae angen:
4 owns o flawd plaen
Pinsiad o halen
1 ŵy
Hanner peint o lefrith
Lard ar gyfer ffrio (os meiddiwch!)

Offer:
Padell ffrio fach
Chwisg
Plât

1.Rhidyllwch y blawd a'r halen i mewn i fowlen.
2. Curwch yr ŵy a'r llefrith.
3. Yn raddol, ychwanegwch yr ŵy a'r llaeth at y blawd. Curwch yn dda.
4. Cymysgwch nes y bydd gennych gytew (batter) llyfn. Defnyddiwch y chwisg i wneud hyn.
5. Toddwch ychydig o lard (neu olew erbyn hyn) mewn padell ffrio. Gofalwch nad oes gormod o saim.
6. Tolltwch ychydig o'r cytew i'r badell gan wneud yn siŵr fod y cytew yn gorchuddio gwaelod y badell. Coginiwch am 1-2 munud nes i'r grempog setio. (Gellir ychwanegu cwrens wrth goginio'r ochr gyntaf.) Defnyddiwch gyllell balet i ryddhau'r ochrau. Trowch y grempog drosodd, trwy ei fflipio i’r awyr os medrwch!
7. Coginiwch eto am 1-2 munud. Trowch y crempogau ar blât cynnes ac ychwanegwch sudd lemwn a siwgr yn ôl y gofyn.
Tecwyn Vaughan Jones
- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025



11.3.25

Gweithredu'n Lleol

Gwirfoddolwyr YesCymru Bro Ffestiniog yn Glanhau Strydoedd Lleol

Ar 15 Chwefror, cymrodd unarddeg o wirfoddolwyr o YesCymru Bro Ffestiniog ran mewn sesiwn codi sbwriel i lanhau strydoedd Trawsfynydd a’r A470 sy’n mynd heibio’r pentref. Casglodd y grŵp tua ugain sachiad o sbwriel -yn ogystal â theiar car, genwair bysgota a llawer eitem arall.

Roedd y digwyddiad yn rhan o ymgyrch genedlaethol YesCymru, gyda 16 o grwpiau lleol ledled Cymru yn trefnu sesiynau glanhau tebyg yn eu cymunedau. Yn Nhrawsfynydd, bu gwirfoddolwyr yn gweithio mewn cydweithrediad â’r Dref Werdd a Chyngor Gwynedd, gan adael y gwastraff a gasglwyd mewn man penodol i'r Criw Glanhau ei symud.


Mae casglu sbwriel yn helpu i wella mannau cyhoeddus, lleihau llygredd, a diogelu bywyd gwyllt lleol. Mae strydoedd a llwybrau glanach o fudd i drigolion ac ymwelwyr, gan greu amgylchedd mwy dymunol i bawb.

Tynnodd Hefin Wyn Jones, cadeirydd YesCymru Bro Ffestiniog, sylw at ystyr dyfnach y fenter:

"Nid mater o godi sbwriel yn unig oedd hyn - roedd yn ymwneud â dangos balchder yn ein cymunedau a dangos y gall Cymru wneud yn well. Credwn y dylai Cymru annibynnol fod yn wlad lanach a gwyrddach lle mae pobl yn cymryd cyfrifoldeb am eu hamgylchedd."

Pwysleisiodd Rob Hughes, un o gyfarwyddwr YesCymru, effaith ehangach yr ymgyrch:

"Gydag 16 o grwpiau lleol ledled Cymru yn cymryd rhan, mae'r digwyddiad hwn yn anfon neges bwerus. Pan fydd pobl ledled y wlad yn dod at ei gilydd i weithredu, hyd yn oed ar rywbeth mor syml â chodi sbwriel, rydym yn dangos cryfder ein cymunedau a'n hymrwymiad i wneud Cymru yn lle gwell."

Dyma’r ail dro i aelodau a chefnogwyr YesCymru Bro Ffestiniog fod allan yn casglu sbwriel, yn dilyn diwrnod llwyddianus rhwng Blaenau Ffestiniog a Thanygrisiau y tro diwethaf. Mae’r criw yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan weithredol wrth ofalu am eu hardaloedd lleol.