16.12.24

Senedd Stiniog -Cofeb a Baner

Sefydlwyd Gweithgor – o rai o gynghorwyr Rhiw a Bowydd, er mwyn trin a thrafod y cynlluniau diweddaraf ar gyfer gosod safle MUGA (Multi Use Gaming Area) yn y Parc. Rhaid cyfaddef, mae’r cynlluniau i weld yn rhai da dros ben a bydd yn sicr o fod yn ased gwerthfawr i’r dref. Mae’r Pwyllgor wedi cyfarfod yn barod a’r gwaith hyn wedi dechrau.

Hefyd yn y cyfarfod, trafodwyd llythyr a dderbyniodd y Cyngor gan aelod o’r cyhoedd. Roedd yn sôn am hanes chwarelyddol y dref a gan fod llechfaen y ffownten yn Diffwys bellach yn segur, a pham na ellir ei throi’n gofeb i’r chwarelwyr hynny a gollodd eu bywydau yn y diwydiant? 

Pam ddim yn wir, mae hi’n sefyll yng nghanol y dref yn gwneud dim fel y monolith mawr yna ar ddechrau 2001: A Space Odyssey ar hyn o bryd tydi, (gwell peidio sôn am fwncïod o’i hamgylch!). 

Cafodd y cynnig ymateb dda yn y Siambr a phenderfynwyd bwrw ymlaen gyda’r syniad o osod plac o ryw fath arni. Bwriedir ymholi os oes arian a’r gael o’r Gronfa Lefelu neu o gronfa Llewyrch o’r Llechi i wneud y gwaith. Yn y drafodaeth cytunwyd na ddylid gwneud ymgais i enwi unigolion ond dylai’r gofeb yn hytrach gofio’r holl chwarelwyr hynny a fu farw, unai’n uniongyrchol drwy ddamwain drychinebus neu o ganlyniad i’r llwch a fu’n raddol yn cau eu hysgyfaint. Rydym yn cofio’r milwyr a gollwyd yn y Rhyfeloedd Byd yn y dref, dylem gofio’r arwyr fu’n gweithio yn y chwareli hefyd dybiwn i.

Cytunwyd, wedi cynnig gan y Cyng. Marc Thomas, i hedfan baner Y Ddraig Aur yn y dref drwy fis Tachwedd er cof am frwydr Twthill, (2il o Dachwedd, 1401), ble cododd Owain Glyndŵr y faner wrth ymosod ar dref frenhinol Caernarfon. Ni wnaeth yr un o’r ddwy ochr orchfygu ond fe adroddwyd fod tua 300 o filwyr Cymreig wedi eu lladd yno gan amddiffynwyr estron y dref.

Yn y cyfarfod Mwynderau (21/10/24), cafwyd manylion am gyflwr diweddaraf y caeau chwarae a’r llwybrau cerdded a phenderfynwyd mynd ati i wneud y gwaith a argymhellwyd gan y swyddogion.

Penderfynwyd hefyd i fynd ati i drin coed ar Sgwâr Oakeley. Mae’r coed wedi tyfu’n flêr ac angen eu tocio.
DMJ (barn, nid cofnod swyddogol sydd uchod)

- - - - - - - - - - 

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2024

 



15.12.24

Y Gymdeithas Hanes -Côr y Moelwyn ar Daith

Gwelodd mis Hydref gyfarfodydd y Gymdeithas Hanes yn ail-gychwyn. Y siaradwr y tro hwn oedd Gareth T. Jones a’i destun oedd Teithiau Côr y Moelwyn ar draws yr Iwerydd yn 1910 ac 1912.

Cychwynnodd gydag ychydig o gefndir yr arweinydd Cadwaladr Roberts o Danygrisiau a chyfeiriodd y gwrandawyr a oedd eisiau mwy o hanes y cerddor nodedig hwn, at erthygl Meredydd Evans yn Rhamant Bro 1991.

Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, llywydd y côr oedd yr aelod seneddol Syr Osmond Williams a phan ddaeth y Brenin Edward VII i agor adeilad newydd prifysgol Bangor yn 1907, gofynnodd i’r côr ganu ar y llong frenhinol tra’r oedd y parti brenhinol yn swpera. 

Yn dilyn hynny, mabwysiadodd y côr y teitl ‘Brenhinol’ yn eu henw, ond dangosodd Gareth ateb a dderbyniodd ei dad (Ernest Jones) oddi wrth y Swyddfa Gartref yn 1973, yn nodi na wnaeth y côr erioed ofyn am ganiatâd i ddefnyddio y teitl hwnnw.

Bu dirywiad sydyn a sylweddol iawn yn y diwydiant llechi yn 1900 ac arweiniodd hynny at lawer iawn o ddynion yn colli eu gwaith neu yn cael torri eu horiau yn y chwareli. 

 

Mae’n dra thebygol bod y gobaith o ennill cyflog da am bedwar mis, wrth ganu yn America, wedi apelio at aelodau o’r côr, a dewiswyd 24 ohonynt i fynd ar daith drwy ogledd-ddwyrain UDA yn niwedd 1909. 

O ddyfyniadau o ddyddiaduron a phapurau newydd y cyfnod, clywyd am lwyddiant ysgubol y daith a’r croeso a gafodd y côr yn ardaloedd Cymreig yr UDA. Daethant adref yn nechrau Mai 1910 (heblaw am bedwar aelod, a ddewisodd aros yno). Yr oeddent wedi canu mewn 115 cyngerdd mewn 118 diwrnod. Fe gostiodd y daith £2,500 (£370,000 heddiw) ac yr oedd £100 yn y banc ar ei diwedd (£15,000).

Tra’r oeddent i ffwrdd, bu farw'r brenin Edward VII a sefydlwyd cronfa er cof amdano i gasglu arian i drechu y ddarfodedigaeth (TB). Gofynnodd y Barwn David Davies (Llandinam) i’r côr fynd ar daith ar draws yr Iwerydd unwaith eto er mwyn casglu arian tuag at y gronfa – a neidiodd Cadwaladr at y cynnig. Y tro hwn, yr oedd y daith am fod yn fwy uchelgeisiol – am fynd coast-to-coast gan dreulio llawer o’r amser yng Nghanada. 

Ymadawodd y côr ym Medi 1911, ond o’r dechrau, ymddangosodd problemau. Nid oedd y trefniadau yn dda, ac yr oeddent yn ymweld â llawer o ardaloedd ble nad oedd llawer o alltudion Cymreig yn byw ynddynt. Wrth iddynt fynd ymhellach tua’r gorllewin aeth pethau o ddrwg i waeth a phenderfynwyd bod y daith yn llyncu’i phen a bod yn rhaid eu galw gartref. 

Cyrhaedd’sant adref ddechrau Chwefror – bedwar mis ynghynt nag a fwriadwyd. Darllenodd Gareth wedyn lythyrau, yr oedd ei dad wedi eu darganfod, rhwng ysgrifennydd David Davies â swyddogion y côr â gwraig y Parch. Silyn Roberts a oedd wedi mynd efo’r côr i siarad yn y cyngherddau i egluro am y Gronfa Goffa. Gwelir o’r llythyrau fod y côr yn anfodlon iawn ar y penderfyniad i’w galw gartref ac yn teimlo eu bod wedi cael cam – ond gwelir hefyd resymau David Davies dros wneud hynny. Yn hytrach na bod wedi codi arian, yr oedd y daith wedi bod yn fethiant ariannol trychinebus. 

Yr oedd colled o £1,000 pan alwyd hwy adref (tua £150,000 heddiw) ac fel ymateb i sylw’r côr am i Davies dorri eu gytundeb â nhw, dadleuai Davies y gallai fod yn dweud mai y côr eu hunain ddylai fod yn atebol am y golled gan mai nhw oedd yn gyfrifol am y trefniadau. 

Yn dilyn hyn oll, fu yna fawr o fri ar gorau meibion yn ’Stiniog am sawl cenhedlaeth. 

Talwyd y diolchiadau gan Tecwyn Williams a fu’n aelod o Gôr y Moelwyn (yn ei newydd wedd) am nifer o flynyddoedd.
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2024


14.12.24

Rhod y Rhigymwr -Af ymaith ar daith bob dydd

Rydw i’n gwbl argyhoeddedig fod mynd allan i gerdded yn ddyddiol nid yn unig yn gwneud lles i’r corff, ond yn llesol i’r meddwl hefyd. Mae’r holl arbenigwyr meddygol y cefais ymwneud â nhw’n ystod y flwyddyn yn cytuno efo fi gant y cant. 

Ar ôl fy nhriniaeth ddiweddaraf, roeddwn yn benderfynol o barhau â’r cerdded, gan ddechrau efo siwrneiau byr, a chynyddu’n raddol fel y byddai’r corff yn caniatáu. Roedd y llawfeddyg yn Llundain wrth ei fodd yn clywed hynny pan gefais air ag o i drafod fy natblygiadau ôl-driniaethol yn ddiweddar. Pwysleisiodd y byddai’r corff a’r meddwl yn elwa’n fawr. 

Un agwedd o’r lles meddyliol na allwn drafod ag o oedd mod i’n gosod tasg feddyliol i mi fy hun bob dydd bron ... ceisio gweithio englyn. Dyma’r cyntaf ddaeth i mi ganol Medi:

AM DRO

Rhag bod yn berson llonydd - yn y tŷ,
Os teg fydd y tywydd
Af ymaith ar daith bob dydd
Fy hun hyd Lyn Trawsfynydd.

Dros y canrifoedd, bu tymor yr hydref yn cynnig ei hun yn destun i feirdd. O weld y dail crin yn pentyrru mewn ffosydd a than draed hyd y ffyrdd, gweithiwyd yr englyn yma:

DAIL HYDREF

Â’r deiliach yn crebachu - yn y ffos
A hyd ffordd yn pydru,
Ar ras wyllt ‘rhen Forys hy
Gara’r hwyl o’u sgrialu.

Dail hyd y ffordd yn aros am Forys y Gwynt i’w sgrialu, a Choelcerth y perthi

A hithau’n tynnu at ddiwedd Hydref, roedd yr olygfa o bobtu’r lôn i fyny at Argae Newydd Maentwrog yn wledd i’r llygad. Wrth syllu ar y dail rhydlyd ar goed a pherthi, a hithau’n dynesu at Galan Gaeaf a Noson Guto Ffowc, dychmygais weld coelcerth. Gyda’r dail yn tynnu at ddiwedd eu hoes yn y fflamau, ni allwn ond edrych ymlaen yn obeithiol, a gweld fod yna her yn ei hwynebu. Ymhen rhyw hanner blwyddyn, daw gwreichion newydd i frigau’r perthi a chânt eu haileni eto.

Fel y dywedodd R. Williams Parry’n ei awdl enwog: ‘Marw i fyw mae’r haf o hyd’:

COELCERTH

Hardd yw coelcerth y perthi - a dail rhwd
Ola’r haf amdani;
Mae her yn ei fflamau hi
I wanwyn yr aileni.

Mae gweld rhywbeth, boed yn fyw neu mewn llun, yn gallu ennyn yr awen mewn prydydd. Mae camera’r ffôn symudol mewn poced yn declyn mor ddefnyddiol i’r sawl sy’n crwydro’n yr awyr agored. Ar un o’m teithiau diweddar, ceisiais blethu’r disgrifiadau yma’n englyn ar ôl gweld effaith Hydref ar dair coeden:

WEDI’R FRWYDR

Gweld archoll ar wisg collen, - ing a loes
Yng ngleisiau masarnen,
Clystyrau briwiau ar bren -
Filoedd ar griafolen.

Archoll collen; Cleisiau masarnen; Clystyrau briwiau’r pren criafol

Ond er mor dlws ydy aeddfedrwydd Hydref, mae yna hagrwch i’w weld ynddo hefyd:

HAGRWCH HYDREF

Yn nhyfiant fy nghynefin - â drain gwyllt
Hydre’n gwau’n anhydrin,
Aceri hyll rhedyn crin
Rythant ar flodau’r eithin.

Os gwelais i ddarluniau amrywiol Hydref yn fy nghynefin, daeth Simon ap Lewis ar eu traws mewn rhan arall o Ynysoedd Prydain. Fe ymwelodd o â Gardd Harlow Carr, gerllaw tref Harrogate, yng Nghogledd Sir Efrog yn ddiweddar, ac anfon i mi lun o’i harddwch ynghyd ag englyn pwrpasol i gydfynd â hynny:

Rhedyn crin yn rhythu ar flodau’r eithin; Harlow Carr hydrefol

GARDD HARLOW CARR HYDREFOL

I'r hesb cynigia ryw ysbaid, dilyw
o'i deiliant, coed euraid,
dofi'r lliw a dyf o'r llaid,
su sy'n ynys i'r enaid.

- - - - - - - - - 

Rhan o golofn reolaidd Iwan Morgan, o rifyn Tachwedd 2024.

Mae Iwan hefyd yn gosod tasg farddonol bob mis; prynwch gopi o Llafar Bro er mwyn cymryd rhan!

Lluniau Iwan Morgan

 

13.12.24

Crwydro -Pedol Ffestiniog

Pur anaml y daw’r cyfle i lythrennol rowlio o’r gwely, cerdded drwy’r drws ffrynt ac allan drwy giat yr ardd i gychwyn taith, ond fellu oedd dydd Sadwrn i mi. 

Wrth edrych ar rhagolygon yn hwyr nos Wener, diwrnod braf oedd hi’n addo, ond yn amlwg roedd pethau wedi newid dros nos, gan mai niwl, ychydig o law, a gwyntoedd cryfion fu i ni brofi ar hyd y daith.

Wrth i ni gychwyn, roedd y wawr yn dechrau torri wrth i ni gerdded drwy stryd ‘Stiniog, tuag at Glan y Pwll, a llwybr sy’n dilyn godrau Nyth y Gigfran tuag at Dolrhedyn. Wrth anelu i fyny allt Stwlan, roedd y Moelwyn yn gwisgo'i gap, ac mewn amdo o niwl trwchus.



Wedi cyrraedd llyn Stwlan, roeddym yn y niwl, a dyna fu’r hanes wrth i ni ymlwybro drwy’r hen chwarel, drwy ganol Moelwyn Bach ac at y copa. Roedd y gwynt pellach yn cryfhau hefyd, fellu byr iawn fu’n ymweliad â’r copa cynta, cyn anelu dros Graig Ysgafn, ac esgyn Moelwyn Mawr – pwynt ucha’r diwrnod.

Doedd y niwl dal heb godi, felly lawr a ni hyd grib gogleddol Moelwyn Mawr at gopa’r Garnedd Lwyd (neu’r "Moelwyn Mawr north ridge" yn ôl rhestr y Nuttalls!). Hon oedd y copa a ddilëwyd oddi ar restr mynyddoedd Cymru, yn gwbwl ddi-seremoni rai blynyddoedd yn ôl, gan greu stwr mawr (a dealladwy) yn lleol, gan fod y cyfryngau wedi cam adrodd y stori, gan adrodd bod Moelwyn Mawr bellach ddim yn fynydd!! (Gweler Hir Oes i'r Moelwyn Mawr)

- - - - - - 

Detholiad byr ydi'r uchod o erthygl gan Erwyn Jones a ymddangosodd yn rhifynnau Hydref a Thachwedd, yn disgrifio taith yr arweiniodd ar ran Clwb Mynydda Cymru. Gallwch ddarllen yr erthygl gyfan ar wefan y clwb: Pedol Stiniog 14 Medi 

(Nid yw Llafar Bro yn gyfrifol am gynnwys gwefannau eraill)


12.12.24

Yr Aurora Borealis / Llewyrch yr Arth

Mae gan yr aurora borealis amryw o enwau yn Gymraeg megis Gwawl y Gogledd, Llewyrch yr Arth, neu Ffagl yr Arth ond rhaid i mi gyfaddef fod yr enwau hyn i gyd yn ddieithr i mi gan mai dieithr iawn yw’r ffenomen hon yn ardal Llafar Bro … ond nid eleni, fel y gall pawb aeth i ben y Crimea ddechrau mis Hydref i weld y goleuadau anhygoel yn lliwio’r awyr.

Llun: Edwina Fletcher

Roedd y ffenomen yn gyfyngedig i’r gogledd pell yn hanesyddol ac o fewn y Cylch Arctig yn arbennig, ond erbyn hyn mae’n cyrraedd cyn belled i’r de a Ffrainc a thu hwnt ac yn ymddangos fel rhubanau lliwgar yn dawnsio’n hardd ac mae’r golau hwn wedi swyno pobl erioed. Ond am ei holl harddwch, mae'r sioe ysgafn ysblennydd hon yn ddigwyddiad eithaf treisgar. Mae'r goleuadau gogleddol yn cael eu creu pan fydd gronynnau egnïol o'r haul yn disgleirio i atmosffer uchaf y Ddaear ar gyflymder o hyd at 45 miliwn m.y.a ond mae maes magnetig ein planed yn ein hamddiffyn rhag yr ymosodiad.

Heddiw rydyn ni'n gwybod y wyddoniaeth y tu ôl i Lewyrch yr Arth. Ond dychmygwch syllu i fyny ar ffenomenau gwyrdd, coch a phorffor, goleuadau yn fflachio ar draws yr awyr a heb ddeall be sy’n digwydd. A doedd yr hen bobl yn deall dim am y wyddoniaeth. Does ryfedd fod yr aurora borealis wedi dylanwadu ar lên gwerin a chwedlau drwy'r oesoedd. 

Mae'r goleuni hwn wedi ysbrydoli rhai o'r straeon mwyaf dramatig ym mytholeg Norwy. Dathlodd y Llychlynwyr y goleuadau, gan gredu eu bod yn amlygiad daearol o'u duwiau. Roedd eraill yn eu hofni, gan adrodd straeon am y peryglon yr oeddent yn eu peri a thyfodd ofergoelion i amddiffyn eu hunain. 

I'r Sámi, pobl frodorol gogledd Sgandinafia, roedd y goleuadau i'w hofni a'u parchu yn gyfartal. Roedd gweld Llewyrch yr Arth yn arwydd gwael yn eu llên gwerin. Eneidiau'r meirw oeddynt i’r Sámi a ni ddylech siarad am y goleuni. Roedd yn beryglus deffro’r goleuni trwy chwibanu, neu ganu oddi tanynt, gan y byddai hyn yn rhybuddio'r goleuadau o'ch presenoldeb. Y gred oedd y gallai'r goleuadau estyn i lawr a'ch cario i fyny i'r awyr – neu hyd yn oed dorri eich pen! Hyd heddiw, mae llawer o Sámi yn aros dan do pan fydd y llewyrch yn ymddangos, dim ond i fod ar yr ochr ddiogel! 

Credai nifer o lwythau brodorol gogledd America mai eneidiau’r meirwon oedd y goleuni hwn. Credai’r Inuit yng ngogledd Canada a’r Ynys Las y gellid sgwrsio gyda pherthnasau ymadawedig trwy rym y goleuni. Credid, o wrando’n astud fod y goleuni yn chwibanu’n ysgafn a rhaid i’r brodorion ymateb yn ddistaw bach trwy sisial. Pe byddai cŵn yn cyfarth ar y goleuni dyma arwydd eu bod yn adnabod rhai o’u cyfeillion oeddynt wedi marw.

Nid oedd y llwythau i gyd yn barod i ddathlu ymddangosiad y goleuni a chredid mai argoel ddrwg oedd y goleuni. Roedd i bob llwyth eu coelion mewn perthynas â’r goleuni hwn. 

Mwyaf yn byd oedd y goleuni yn digwydd yn y de fel ar gyfandir Ewrop, roedd iddo, fel arfer wawr goch scarled ac fe’i hystyriwyd fel argoel o ryfel a thywallt gwaed i ddod neu beryglon eraill. Yn yr Alban cyfeirir at y goleuni fel y ‘dawnswyr llawen’ … enw od ar gymeriadau a gredid eu bod yn ymladd mewn rhyfel epig yn yr awyr, Ar Ynysoedd Heledd os oedd y goleuni wedi ei fritho gyda sbotiau coch, dyma oedd dafnau gwaed yn syrthio o glwyfau’r ymladdwyr.

Mae’r ffenomen yn anghyfarwydd yng Nghymru a thebyg felly nad oes coelion perthynol wedi tyfu o gwmpas y goleuni yma ond os daw'n yn fwy cyffredin hwyrach y bydd rhyw fath o lên gwerin yn tyfu o’u cwmpas. Ond ar ben y Crimea cafwyd gwledd mis Hydref eleni a nifer o drigolion lleol wedi ymgasglu yno i’w gweld. Eto, hwyrach y daw nifer fawr o bobl o bob cyfeiriad i’w gweld ar ben y Crimea yn y dyfodol gan gymryd mantais o’r awyr dywyll a gawn yno sydd heb ei effeithio gan oleuadau artiffisial.
TVJ
- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2024


11.12.24

Stolpia -car a cheffyl

Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain

Cludo Offer a Defnyddiau Trwm i’n Chwareli yn y 19 Ganrif.

Holwyd fi’n ddiweddar sut ar y ddaear y medrwyd cludo trawstiau enfawr a pheiriannau trwm i fyny i felinau ein chwareli yn ystod y 19 ganrif a chofio’r math o ffyrdd a rheilffyrdd a oedd yn bodoli pryd hynny.

Efallai bydd y canlynol yn esbonio ychydig am y modd y gwneid hynny. Dyma gofnod o Atgofion am Danygrisiau gan David Owen Hughes a ymddangosodd fel cyfres yn Y Rhedegydd (1909): 

"Yr oedd gan Gwmni Cwm Orthin nifer fawr o geffylau, saith neu wyth yn gweithio yn y chwarel ac nid dynion dibwys y cyfrifid y certwyr, yn enwedig y prif gertwyr. 

Mawr fyddai'r helynt a’r twrw pan fyddent wedi dod i lawr at y Post Office, ac yn bachu wrth drol a thunnell o wair arni ar brynhawn Sadwrn, neu dynnu coed hirion at wneud pontydd yn y gwaith. 

Nid ai'r rhai hynny i fyny'r incleins, ac am hynny byddent yn clymu un pen o dan echel y drol, a’r pen arall ar gerbyd bychan pwrpasol a dwy olwyn o dano. Yna, bachu pump neu chwech o geffylau i’w tynnu i fyny'r gelltydd i’r gwaith.

Ymhlith y certwyr hynny yr oedd y diweddar Thomas Roberts, a’i frawd John Roberts, a John Evans. Brodorion o ymyl Llanrwst oedd y ddau flaenaf, a J. Evans o Sir Aberteifi."

Enghraifft o foeler mawr yn cael ei dynnu gan geffylau gwaith

Yn yr adroddiad diddorol hwn o’r North Wales Chronicle, 5 Gorffennaf, 1862 cawn ddilyn taith dau ferwedydd, (boiler), i chwarel Rhiw Bach. Dyma gyfieithiad ohono: 

"Cyrhaeddodd dau foeler enfawr, sef y rhai mwyaf a welwyd yn yr ardal yn ôl rhai, i Chwarel Rhiw Bach dydd Mawrth diwethaf. Daethpwyd a hwy o Gaer ar wagenni cryfion yn cael eu tynnu gan tua dwsin, os nad mwy, o geffylau grymus. Roedd y ddau geffyl gwedd yn y llorpiau (sef rhai heb eu cyweirio/entire) o faint sylweddol, yn hardd ac yn rhai nerthol iawn, ac wedi syfrdanu rhai o’r ffermwyr lleol. 

Yn anffodus, cafodd y boeler a bwysai oddeutu 84 tunnell [tybed ai ddau foeler 42 tunnell oeddynt mewn gwirionedd?] a gyrhaeddodd Ffestiniog ar y dydd Mawrth, anhap difrifol gan i olwynion y cerbyd suddo mewn lle gwlyb rhwng Penygroes a Llanllyfni a methwyd a chael y wagen yn rhydd er i nifer o geffylau ymdrechu i’w thynnu. Yn y cyfamser, aeth y boeler arall, oedd ar wagen chwe olwyn, heibio iddi hi a mynd ar ei siwrnai i Rhiw Bach. Dychwelwyd y wagen hon ar ôl ei dadlwytho i Benygroes a rhoi’r boeler arall arni hi a theithiwyd drwy Borthmadog i Faentwrog y Sul diwethaf. 

Arhoswyd yno wedyn tan ddydd Mawrth er mwyn i’r ceffylau gael gorffwys. Yna, er mwyn cludo peiriant mor drwm i fyny’r allt serth i Ffestiniog daethpwyd a nifer o geffylau gorau’r gymdogaeth at y rhai a oedd ganddynt eisoes fel yr oedd cymaint ag ugain o geffylau yn tynnu’r wagen i fyny’r rhiw.

Heb os nac oni bai, roedd angen cryfder aruthrol i dynnu’r holl bwysau i fyny’r Allt Goch gyda rhannau ohoni mor serth â tho tŷ. Mewn ambell le roedd y troadau yn siarp iawn, ac o ganlyniad, dibynnid yn fawr ar gryfder y ddau geffyl blaen, y rhai a glodforwyd gan bawb. Cymerwyd diddordeb mawr yn y fenter gan y trigolion lleol, ac er bod ffair yn y Llan y diwrnod hwn, cyrhaeddodd nifer o’r ffermwyr yn hwyr yno."

Cofier, roedd cario boeleri mor fawr a thrwm i fyny i Chwarel Rhiw Bach, a oedd tua 3 milltir arall oddi yno, gyda’r rhan fwyaf o’r ffordd yn serth yn gamp aruthrol yr adeg honno. 

Edmygwyd yr orchest gan bawb a’i gwelodd, a bu’r ddau geffyl blaen yn destun siarad gan lawer.

Ponc Chwarel Rhiw Bach, gyda’r felin, y tai boelar ger y corn, a’r inclên ar y chwith uchaf

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2024