Tybed faint o werth ydach i’n rhoi ar eich papur bro?
Yn sicr mae’r mwyafrif llethol o ddarllenwyr Llafar Bro, eich papur bro, yn gweld gwerth i’r papur gan eich bod yn cysylltu â ni’n gyson ac mae modd mesur wrth gwrs llwyddiant y papur o edrych faint o gopïau sy’n cael eu gwerthu, faint mae busnesau’r fro yn ei fuddsoddi yn y papur trwy hysbysebu a hynny’n gyson, beth yw’r ymateb ar y stryd i Llafar ac er nad ydym yn gofyn am gyfraniad mae darllenwyr Llafar yn fisol yn anfon arian atom i ddiolch ac thrwy hynny sicrhau dyfodol y papur.
Mae mwy o fusnesau yn hysbysebu yn eich papur bro chi nag mewn unrhyw bapur bro arall yng Nghymru. Mae gan bob ardal yng Nghymru eu papur bro ac mae 57 ohonynt, papurau misol i gyd ac mae dros 35,000 o gopïau yn cael eu gwerthu bob mis. Dan ni’n gyfarwydd â rhai cyfagos … Yr Wylan, Llanw Llŷn, Yr Odyn, Y Gadlas etc.. Bydd Llafar Bro yn dathlu 50 mlynedd o wasanaethu'r ardal hon yn 2025. Gwelwyd fflyd o bapurau bro yn cael eu sefydlu ynghanol y 1970au a’r papur diweddaraf i gael ei sefydlu yw Llygad y Dydd yn ardal Dolgellau yn 2018.
Mae Llafar wedi newid yn sylweddol yn ystod y cyfnod hwn o fod yn fenter pan oedd criw o bobl yn ymgasglu ar ddiwedd bob mis i gasglu newyddion, ei deipio a’i bastio ac yn gosod yr holl newyddion yn barod i gael ei argraffu. Gwaith caled a digon diflas ond roedd tân yn eu calonnau a chwarae teg iddyn nhw i gyd, fe wnaethon gymwynas fawr a’u hardal. Erbyn heddiw mae pethau wedi newid yn sylweddol ac mae Llafar Bro, ynghyd â’r papurau eraill, yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i gyhoeddi.
Mae pob copi mewn lliw ac mae’r wasg yn gosod ac argraffu'r papur erbyn hyn a phob golygydd yn anfon yr holl erthyglau a newyddion i mewn dros y we a does dim angen mynd a dim … yn gorfforol … i’r wasg bellach. A gwaith golygydd fel fi yw, yn syml, golygu'r testun, sicrhau nad yw yn rhy hir, ei fod yn gweddu, ei gywiro os oes angen ac yn aml chwilio am storïau fyddai’n difyrru ac yn rhoi gwybodaeth i’r darllenydd a sicrhau nad oes unrhyw enllib neu dorri’r gyfraith yn ddim a gyhoeddir. Mae’r papur wedi ei weddnewid.
A sut meddech chi mae modd cyhoeddi papur misol fel hwn am ddim ond £1 y mis?
Wel, cwestiwn da … dan ni’n gorfod cadw golwg ar y pris yn gyson ond does dim oll fedrwn ni wneud efo tanysgrifiadau drwy’r post … dach chi i gyd yn gwybod cymaint mae cost postio wedi codi yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae pris y papur yn eithriadol o resymol o ystyried yr holl dechnoleg sy’n cael ei ddefnyddio i’w gynhyrchu. (Gyda llaw, mae modd i chi gael eich copi yn ddigidol gyda e-bost gan osgoi talu am bostio).
Mae’r Daily Post yn costio £1.70 bob dydd a dros £2 ar Sadyrnau ac mae’r Cambrian News yn £1.65. Mae’r rhain yn bapurau mwy o faint wrth gwrs ond mae Llafar Bro yn canolbwyntio ar ein hardal ni yn gyfan gwbl ac yn bwysig, mae i gyd yn Gymraeg, iaith bob dydd y mwyafrif llethol o drigolion yr ardal. Mae pris yn bwysig a rhaid i’r papur gael ei weld fel ei fod yn fforddiadwy a choeliwch i fi dan ni’n gneud popeth yn ein gallu i gadw’r pris i lawr a hynny heb niweidio’r papur ei hun. Mae’n rhaid i bobl licio’r papur hefyd a da ni’n wastad yn cyflwyno colofnau newydd ac ymateb i ofynion ein darllenwyr … da ni’n gwneud ein gorau i wneud y papur yn ddifyr a diddorol … ac mae eich awgrymiadau yn help mawr.
Fe soniais fod rhyw 35,000 o gopiau yn cael eu cyhoeddi yn fisol dros Gymru, gwych meddech chi ond ia, mae gwerthu copïau yn holl bwysig. Mae’n debyg fod y nifer sy’n darllen y papurau bro deirgwaith os nad mwy, yn uwch na nifer y copïau sy’n cael eu gwerthu. Mae’n draddodiad yng Nghymru, a hwyrach ymhob man in roi bethyg copi i ffrindiau, teulu a chymdogoin … mae’r ardal hon yn cynnwys cymdeithas glos ac wedi bod erioed a phobl yn dibynnu ar ei gilydd a pheth naturiol yw benthyg yn de? Pe byddai pawb sy’n gweld Llafar Bro yn prynu copi basa gennym ddsbarthiad o thua 1500 a mi fasa hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr. Pe bawn yn medru gwneud elw byddai modd cyhoeddi mwy o dudalennau ac amrywio’r cynnwys.
Ga’i apelio atoch i brynu copi bob mis am £1 y copi yn hytrach na benthyg copi gan rhywun arall a hefyd annog rhai nad ydynt yn darllen Llafar Bro i'w brynu. Dan ni angen codi nifer y darllenwyr a phryniant i sicrhau dyfodol y papur. Mae popeth sy’n cael ei brintio ar bapur bellach dan fygythiad gan dechnoleg newydd a rhaid addasu a chadw i fyny i sicrhau llwyddiant ac mae hyn yn costio. Does dim bwriad gennym godi pris y papur ond annog mwy o bobl i brynu copi a mi fyddai hynny’n cynyddu incwm y papur wrth gwrs.
Ers talwm roedd gennym ddosbarthwyr oedd yn mynd rownd tai yn fisol yn gwerthu copïau ac roedd y sustem honno’n gweithio’n wych. Erbyn heddiw, mae pethau wedi newid ac mae’n anodd iawn cael dosbarthwyr fel hyn i wneud y gwaith yn fisol ond mae rhai yn mentro a helpu fel hyn a diolch iddynt ond mae angen mwy, hyd yn oed jyst dosbarthu yn fisol mewn un stryd neu grŵp o dai- cysylltwch os medrwch wneud rhywbeth bach fel hyn i helpu-byddai dosbarthiad y papur yn cynyddu’n syth petai hyn yn digwydd.
Mae digon o siopau yn yr ardal a thu hwnt sy’n gwerthu Llafar ac mae copi o fewn cyrraedd pawb.
Dyma pam yr oeddwn yn gofyn ar y dechrau: Be ydy gwerth eich papur bro i chi?
Mae angen eich help arnom…a’r help mwyaf yw prynu mwy o gopiau a helpu i ddosbarthu. Meddyliwch am y peth ac ystyriwch eich colled a cholled y fro petai’r papur yn darfod.
Felly prynwch eich copi ac annogwch eraill i brynu copi yn ogystal
TVJ
Lleufer o fri – llafar y fro- yn hwn
Mae heniaith bob Cymro
Yn weddus boed iddo
Wen y byd, a gwyn y bo
Rhoed papur i’n cysuro- a’i ddoniau
A’i ddeunydd di-guro
Hir fo’i oes, a rhown groeso
Hael a brwd i arlwy bro.
Gorau llen a ddarllenwn-ohonno
Yn hynaws myfyriwn,
Ei olud eto welwn
A chofir yn hir am hwn
Siôn Gwyndaf
(Cyhoeddwyd yr englynion brwdfrydig uchod i’r papur bro yn y rhifyn cyntaf, Hydref 1975)
- - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2024