Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain
Fel y crybwyllais yn rhifyn Medi bu amryw o ddamweiniau ar Reilffordd Ffestiniog rhwng y blynyddoedd 1836 ac 1946. Dyma nodi rhyw un neu ddwy ohonynt yn gyntaf er mwyn ichi gael amgyffred y peryglon a fodolai yn nyddiau cynnar y rheilffordd gul.
Oddeutu wythnos cyn Dydd Nadolig 1842 derbyniodd y llawfeddyg Rowland Williams o Dremadog ddamwain boenus ar y rheilffordd dra ar ei ymweliad â chlaf a breswyliai ar ochr y lein fach.
Marchogaeth ar gefn ei geffyl yr oedd ond wedi iddo deithio ysbaid go lew daeth ryn o wagenni yn llawn llechi i’w cwfwr, ac o ganlyniad, symudodd yntau a’r ceffyl i gilfach bwrpasol yn ochr y rheilffordd. Daeth oddi ar ei geffyl wedyn, ond fel yr oedd y ryn yn dod yn nes symudodd y ceffyl a thrawyd ef yn ei ben ôl gan wagen fel y syrthiodd ar ben ei berchennog a’i niweidio. Yn y cyfamser, rhusiodd y ceffyl a neidio tros wal gweddol uchel, ac er nad oedd ef fawr gwaeth, gadawodd Rowland Williams gyda’i asennau ac asgwrn ei wddw wedi eu torri. Wrth ryw drugaredd aed a neges rhagblaen i Lewis Lloyd, Gwesty Tan y Bwlch, a chludwyd ef yno lle gofalwyd am ei glwyfau.
Credaf mai rhyw dro ogylch y blynyddoedd 1850-51 y digwyddodd y nesaf. Cyn iddynt adeiladu’r Cei Mawr ar yr ochr isaf i hen Ffowndri William Lewis yn Nhanygrisiau ceid math o gob yn ymestyn oddi wrth olwyn ddŵr y ffowndri at droed Inclên Chwarel Wrysgan a Bryn Elltyd a chan ei fod yn weddol wastad byddid yn gorfod bachu ceffylau i dynnu’r wagenni at y fan honno er mwyn cael y rhediad drachefn i lawr y rheilffordd. Digwyddodd i fuwch Edward Parry, Maesgraian ddod i’r lein yn ymyl Beudy Mawr a rhedeg i fyny i gyfeiriad y trên a oedd yn dod i lawr gan fynd o dan y wagenni cyntaf lle'r oedd Humphrey Jones a’r ceffylau, a’r canlyniad fu, eu taflu tros wal y cob, a bu yno am oriau o dan y wagenni. Sut bynnag, medrwyd ei gael yn rhydd maes o law, er ei fod wedi ei anafu’n bur ddrwg. Yr oedd tair o ferched o Benrhyndeudraeth yn y wagenni ar eu ffordd adref wedi bod yn gwerthu cocos ac anafwyd hwythau hefyd, ond nid yn ddrwg iawn.
Damwain yn haf 1928. Dyma aralleiriad o’r adroddiad yn Y Rhedegydd, 12 Gorffennaf,1928: Brawychwyd ardal Tanygrisiau bore Sadwrn diwethaf trwy i nifer o wagenni ‘y ryn’ sydd yn cludo llechi o’r gwahanol chwarelau i Finffordd a Phorthmadog ar Reilffordd Gul Ffestiniog fynd oddi ar y rheiliau ger y bont haearn ar Allt Dolrhedyn. Disgynnodd nifer ohonynt drosodd i’r ffordd y rhai a faluriwyd yn fawr. Nodwyd hefyd bod llechi o faintioli anghyffredin yn rhai o’r wagenni a byddai’r golled yn enfawr. Yn ffodus, ni anafwyd neb. Dywedir mai achos y ddamwain oedd ci yn gorwedd ar y cledrau. Bu’n rhaid cael nifer o ddynion i glirio’r ffordd islaw yn ogystal â’r rheilffordd.
- - - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2024
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon