Son am benwythnos a hanner! Ar ddiwedd Medi daeth cefnogwyr yr ymgyrch annibyniaeth o bell ac agos i ŵyl Nabod Cymru a drefnwyd gan YesCymru Bro Ffestiniog.
Achlysur agoriadol y penwythnos oedd noson gyntaf yng cyfres ddiweddaraf y nosweithiau Caban poblogaidd, y tro hwn yn CellB, er mwyn sicrhau lle i’r gynulleidfa fwy.
Daeth dwsin neu fwy o gefnogwyr o Ferthyr Tudful, nifer o Gaernarfon (sydd wedi eu hysbrydoli i gynnal penwythnos eu hunain yn y dyfodol!), eraill o Ddinbych, Sir y Fflint a llawer man arall, yn ogystal ag aelodau a chefnogwyr lleol i lenwi ystafell fawr yr hen lys ynadon, i fwynhau gwledd o ganu arbennig a chyflwyniadau teimladwy i bob cân gan Gai Toms, a sgwrs ddifyr ac angerddol iawn gan ein haelod seneddol Liz Saville Roberts.
Roedd criw Pizza Stiniog, a’r cwmni crempogau Llydewig lleol Cwt Carlwm yno i fwydo’r criw brwdfrydig. Ar ddiwedd ail set Gai, a’r gynulleidfa’n morio canu efo fo, cafwyd canu mwy anffurfiol yn y bar, a symud i orffen y nos efo cyd-ganu gwych yn y Meirion, dan arweiniad y canwr gwerin Gwilym Bowen Rhys.
Er fod ambell un yn hwyr yn noswylio, daeth criw da at ei gilydd drannoeth i fwynhau brecwas hamddenol braf yng Nghaffi Mari fore Sadwrn, a manteisio ar ei chynnig caredig o 10% i ffwrdd i gefnogwyr annibyniaeth! O fanno, rhannodd y criw yn ddau: rhai yn cerdded efo Dafydd Roberts i Gwmorthin a chael hanes y cwm a manylion gwaith Cymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog yn cloddio a chynnal gwaith cadwraeth ar rhai o’r adeiladau yno. Taith y mentrau cymunedol oedd gan yr hanner arall, dan ofal Ceri Cunnington, yn ymweld â rhai o safleoedd Antur Stiniog, Y Dref Werdd a Chwmni Bro Ffestiniog.
Cafwyd sgwrs agos atoch rhwng Delyth Gray a Dewi Prysor am waith creadigol y nofelydd lleol yn Siop Lyfrau’r Hen Bost, a’r gynulleidfa’n cael cyfrannu at y trafod dros baned a chacen gri wedyn. A symud o fanno wedyn i Dŷ Coffi Antur Stiniog am drafodaeth gonest a brwd am ddyfodol Cymru a be fyddai annibyniaeth yn ei olygu i ni fel cenedl. Ar y panel oedd y cynghorydd sir prysur Elfed Wyn ap Elwyn, ein haelod yn Senedd Cymru Mabon ap Gwynfor, Gaynor Jones ar ran Yes Cymru, a Colin Nosworthy yn cynrychioli Melin Drafod, y think-tank annibyniaeth. Cadi Dafydd oedd yn eu holi ar ran Golwg360.
I gloi’r penwythnos ymunodd pawb efo’r grŵp offerynol Acordions Dros Annibyniaeth am noson o ganu hwyliog yn y Pengwern. Roedd y dafarn yn orlawn a phawb yn canu’i hochr hi. Achlysur arbennig i gloi penwythnos ardderchog.
Diolch o galon i Rhys CellB a chriw Pizzas Stiniog, a Nia o Hostel Cell; i Rhodri a Selene, Cwt Carlwm; i Delyth a’i staff yn y Meirion; Mari a staff Caffi’r Llyn; Dafydd, Ceri, Gwenlli, Prysor a Calfyn ar y teithiau; Elin, Cadi a Sioned yn Siop Lyfrau’r Hen Bost; Ronwen, Michaela, a Helen yn Antur Stiniog (ac i’r bwrdd am y bws mini); a Gwynfor a chriw Y Pengwern; i Delyth a Cadi am gyflwyno’r trafodaethau ac i bwyllgor bach gweithgar YesCymru Bro Stiniog. Pob un, a mwy, wedi cydweithio’n gymwynasgar i greu penwythnos gofiadwy i bawb.- - - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2024
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon