1.12.21

Ysgoldy Bach Tanygrisiau

Yn un o’r lluniau a ddefnyddwyd gan y BBC i gyhoeddi fod ein tref wedi ennill statws safle treftadaeth byd UNESCO, gwelais do  – llechen wrth gwrs – y tŷ lle’m magwyd. Brynmaes yw’r tŷ, yn sefyll rhwng y ffordd a’r graig serth sydd yn cario’r lein bach ac olion Pencraig. Mae hanes hir i’r tŷ.  


Mor fuan a’r 1830au dechreuodd Samuel Holland, y perchennog chwarel, adeiladu yn Nhanygrisiau. Yn ôl CADW, erbyn 1845 roedd 42 o anheddau wedi eu codi, ynghyd â thri capel! Ond mae’r rhan fwyaf o’i adeiladau yn dyddio o’r 1860au – a dyma pryd yr adeiladwyd Brynmaes. 

Mae yn adeilad hollol wahanol i’r tai eraill a godwyd ar y pryd. A’r rheswm yw nad tŷ oedd ei bwrpas, ond ysgol. Mae wedi ei gofrestru yn y cyfrifiad 1871 fel Holland’s School, yno rhwng Maesygraean ar yr un ochr a Phenygarreg a Fron Haul ar y llall – safle berffaith i ysgol yng nghanol y pentref. 

Ysgol breifat oedd, yn cael ei chefnogi gan Mrs Anne Holland fyddai yn cymryd diddordeb mawr yn ymdrechion ei gŵr. Yr athrawes yn 1871 oedd Janet Hughes (57), ac yma oedd hi’n byw hefyd hefo’i gŵr John Hughes, clerc o chwarel Holland, a’u merch Jane oedd yn cadw tŷ iddynt.


Adeilad o ddau hanner hollol wahanol oedd hwn. Lle byw y teulu oedd yr hanner chwith: cegin fawr a chegin gefn fach, grisiau a dwy lofft. Yr ochr dde oedd yr ysgol. Wrth fynd i mewn drwy’r drws ffrynt, roedd lobi fach a grisiau eraill ohoni. Ar y dde oedd drws i un o’r ddwy ystafell ddosbarth, hefo lle tân ar y wal bellaf a ffenest fawr yn edrych dros y caeau, ymhell cyn amser Rehau. I fyny’r grisiau oedd yr ystafell ddosbarth fawr. Roedd tair ffenest yn hon, dwy fawr i’r ffrynt ac un fach i’r cefn – hon yr agos dros ben i’r graig tu ôl i’r tŷ. Lle tân yn yr ystafell hon hefyd wrth gwrs.

Nid dyma’r unig ysgol yn yr ardal. Soniwyd yn y Cambrian News yn 1874 am Ysgol Mrs Holland a hefyd am ysgoldy bach arall Samuel Holland yn Llwyngell, Rhiw, yn ogystal ag ysgol arall ddi-enw.

Erbyn 1881, nid Mrs Holland’s School oedd enw’r adeilad ond Ysgoldy Bach. Mae’r teulu Hughes wedi ymadael ac yn eu lle mae Benjamin Jones, ciwrat Eglwys Dewi Sant, a’i wraig a phedwar o blant.  Ar y pryd roedd yr hen Eglwys Tun yn bod yn y cae dros ffordd i res Fron Haul.

Ni fu Benjamin a’i deulu yn byw yn Ysgoldy Bach yn hir iawn. Erbyn 1891 y preswylydd oedd Robert Pugh, chwarelwr, a’i wraig a phump o blant. Bu’r teulu yn byw yno am gryn amser. Ar ôl marwolaeth Robert symudodd ei wraig a’i merched i Lerpwl yn 1914 i gadw tŷ i’w mab, o’r enw Robert fel ei dad.  Yn anffodus, cyhoeddwyd yn yr Herald Cymraeg ym mis Medi fod “Robert Pugh, gynt o Ysgoldy Bach Tanygrisiau, wedi boddi yn China, wrth ddilyn ei orchwyl fel saer ar fwrdd llong”. 

William ac Ann Roberts oedd y perchnogion nesaf, ac fe newidwyd enw’r adeilad o Ysgoldy Bach i Brynmaes, yn bur debyg i arbed dryswch hefo’r ysgol swyddogol a’i ysgoldy oedd yn Nhanygrisiau erbyn hyn. Serch hynny, Ysgoldy Bach oedd bobl leol yn ei alw am flynyddoedd i ddod.

Ymunodd John mab William ac Ann â’r fyddin a fe’i laddwyd mewn damwain yr yr Almaen, lle ‘roedd yn garcharor rhyfel.  Mae cof amdano ar garreg fedd yn y fynwent yn Llan:  

John, annwyl fab William ac Ann Roberts, Brynmaes Tanygrisiau, bu farw yn Germani, Medi 5ed 1917 yn 19 oed, ac a gladdwyd yn Cologne. 

Yn 1925 bu farw William ei dad ond bywiodd ei fam tan 1952. ‘Roedd yn 88 mlwydd oed pan farwodd.

Dw i ddim yn siwr tan pryd y bu Ann Williams fyw yn Brynmaes, ond yn 1951 ‘roedd y tŷ wedi bod yn wag ers tro pan ddaru fy rhieni, fy mrawd Iwan a finnau gyrraedd yno o Rhiw. Dyma’r lle y magwyd fi – a lle arbennig i dyfu i fyny oedd. Efallai bod ambell i ddarllenwr yn cofio gweld fy nhad a mam yn eistedd ar yr hen stelin lechen tu allan i’r tŷ?

Efallai hefyd bod gan rhywun wybodaeth neu atgofion o Brynmaes – baswn wrth fy modd yn clywed amdanynt.
Alwena Brynmaes
- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021





No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon