28.12.21

Gwreiddiau -Yr Erial

Dilyniant i erthygl un o hogia Maen Fferam

Dros y blynyddoedd mae sawl un wedi ysgrifennu yn Llafar Bro am eu dyled i’r addysg a gawsant yn ysgolion y fro. Ym 40au a 60au y ganrif ddiwethaf, i drigolion Blaenau, ‘roedd Slate Quarries, Central a’r Cownti yn eiriau cyfarwydd iawn ar dair o’n hysgolion. 

Ond fel i bopeth arall daeth newid i fyd addysg. Cyfunwyd yr Ysgol Ramadeg -Y Cownti- a’r Ysgol Fodern -y Central- yn y 50au fel rhan o bolisiau addysg cenedlaethol i sefydlu ysgolion cyfun yng Nghymru. Dyma pryd y diddymwyd arholiad yr 11+ gyda’r bwriad o hyrwyddo cydraddoldeb a chyfle cyfartal i bob disgybl. 

Cymerodd flynyddoedd i gyflawni hyn yng Nghymru ac fel y gwyddom, yn Lloegr ni chwblahwyd y broses ac mae rhai awdurdodau lleol yn dal i gynnal ysgolion gramadeg. Beth bynnag yw eich barn ar y chwyldroad yma, rhaid cydnabod blaengaredd a gweledigaeth Cyngor Sir Meirionnydd am fod yn un o’r Awdurdodau cyntaf ym Mhrydain i ymateb i’r her. 

Ond i lawer ohonom fe erys yn y co’ y canolbwyntio a’r hyfforddi dwys ar gwricwlwm cyfyng iawn. Buasai'r Gymraeg, Saesneg a Syms a mwy o Syms, yn ddisgrifiad teg o’r hyn a ddysgem yn ddyddiol. Pasio’r arholiad ac ennill Gwobr Brymer oedd y nod. Ac fe roedd Prifathro Maenofferen J S Jones yn feistrolgar tu hwnt yn ein paratoi ar gyfer yr arholiad. Yn wir prin iawn oedd y profiadau addysgol eraill y clywn cymaint amdanynt heddiw- yr amgylchedd’, sgiliau personol a chymdeithasol! Y llechen las a phensal nid lap top neu iPad oedd ein 'notebooks' ni pryd hynny! 

Ar hyd y blynyddoedd fel y newidiwyd ac addaswyd cyfundrefnau, a chwricwlwm byd addysg newidiwyd hefyd y drefn o asesu gwaith y dysgwyr. Wedi mynd mae arholiadau'r CWB; TA; Lefel O ac eraill i wneud lle i’r gyfundrefn newydd fu’n destun cymaint o bryder yn ystod y pandemig yma. Ar y cyfan mae’r Lefel A wedi dal ei thir a’i statws ar gyfer disgyblion ôl-16 ers blynyddoedd lawer. Bydd nifer ohonom fu’n astudio Daearyddiaeth at Lefel A yn y 50au yn cofio y byddai’n ofynnol i bob ymgeisydd sgrifennu traethawd estynedig ar destun daearyddol.

Ym 1956 es i ati i sgwennu fy nhraethawd ar ‘Chwareli Blaenau’. Dyma’r adeg es i ar grwydr i'r chwareli megis Llechwedd, Maenofferen a Lord i dynnu ychydig o luniau i’w cynnwys yn y traethawd sydd yn fy meddiant hyd heddiw. Pan soniais am Dŷ’r Mynydd yn y rhifyn diwethaf cyfeiriais at fy nhaid Wmffra Jones fel un o’r tȋm a adeiladodd yr Erial fu’n ran anatod o dirlun y Blaenau am flynyddoedd. Gan obeithio y bydd o ddiddordeb amgeuaf lun o’r ‘criw’ a adeiladodd yr Erial ym 1932. 

 

Mae fy nhaid yn eistedd ar yr ochr dde yn rhes flaen y llun gyda phren mesur yn ei law. Mae ambell i wyneb yn gyfarwydd imi ond ofnaf na allaf enwi ‘run ohonynt. Tybed all darllenwyr Llafar Bro daflu goleuni ar y mater?


Ychydig o luniau 'swyddogol’ sydd o’r Erial am y gwn i ond mae gennyf lun neu ddau o’r peiriant yn gweithio ym 1956 gan imi eu cynnwys yn y fy nhraethawd Lefel A. 

 


Dydy nhw mo’r lluniau gorau na’r cliriaf: ‘doedd y camera a ddefnyddiais ddim mor soffistigedig ȃ iPhones heddiw! Ond fe’i atodaf rhag ofn y gellir eu cynnwys ran diddordeb. Beth bynnag fo eu gwendidau fel lluniau maent serch hynny yn hanesyddol ac yn sicr o ddwyn atgofion . Wedi’r cyfan dyma’n Zip World ni yn y 50au onide? 

Gareth Jones

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2021.

Pennod 1 Gwreiddiau


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon