17.12.21

900 o resymau...

Dyma'r 900fed erthygl ar ein gwefan!

Ers Mai 2012, mi fuo ni'n trosglwyddo rhai o erthyglau diweddar y papur, ac erthyglau hŷn o'r archif, ar y wefan blogspot yma. Os ydych yn gyfarwydd â'r wefan, gobeithio eich bod wedi mwynhau'r amrywiaeth. Os ydych yn newydd, ewch ati i bori!

Ar gyfrifiadur mae'r wefan yn gweithio orau gan fod posib pori a chwilio mewn tair gwahanol ffordd: yn ôl dyddiad; yn ôl geiriau allweddol yn y 'Cwmwl Geiriau'; neu trwy deipio geiriau eich hun er mwyn chwilio trwy'r cwbl!  

Ar ffôn, gallwch weld y dewisiadau yma trwy glicio 'View web version' wrth droed yr erthygl, wedyn chwyddo'r testun fel liciwch chi efo bys a bawd.

Fel bob dim arall ynglŷn â Llafar Bro, gwaith gwirfoddol sy'n gyfrifol am y wefan. Gall bawb helpu eich papur bro trwy barhau i brynu copi papur bob mis, er mwyn cael yr erthyglau dros fis yn gynt, a'r holl newyddion, hanesion a chyfarchion sydd ddim yn cael eu gosod ar y we.

Mae 900 yn rif perthnasol am reswm arall hefyd. Dyna faint o gopiau papur yr ydym yn argraffu bellach. Wyddoch chi bod yn nes at fil a hanner o gopiau yn gwerthu ar un adeg? Byddai'n braf medru gwerthu mwy eto, felly cofiwch brynu eich copi eich hun yn hytrach na derbyn copi ar ôl eich modryb! Gallwch gefnogi menter Cymraeg yn y gymuned: dim ond punt y mis. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.

Wyddoch chi fod tanysgrifiad digidol ar gael bellach? A'i fod yn rhatach nag oedd yn wreiddiol!

Gallwch dderbyn copi pdf o'r rhifyn gyfa' trwy ebost ar y noson gyhoeddi bob mis, a hynny am ddim ond £11 y flwyddyn.

Be amdani? Wnaiff £11 ddim torri'r banc i'r rhan fwyaf ohonom, ond mae'n gwneud byd o wahaniaeth i ddyfodol ein papur bro!

Ewch i'n tudalen danysgrifio am fanylion.

Diolch bawb.

- - - - -

Y 10 erthygl mwyaf poblogaidd yn y gwanwyn.

1 comment:

  1. Geiriau doeth iawn Mr Cadeirydd!! Dim ond gobeithio y bydd darllenwyr yn parhau i fod yn ffyddlon, ac yn denu mwy o ddarllenwyr newydd yr un pryd. Byddai'n dda petai'r rhai sy'n gweld y geiriau hyn yn ymateb yn gadarnhaol, ac yn canmol gwaith aruthrol cadeirydd Llafar Bro dros y flwyddyn, fel pob blwyddyn arall.

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon