24.12.21

Stolpia -strach y bwrdd llifio

Atgofion am Chwarel Llechwedd... pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Credaf mai yn haf 1969 yr aethom â’r ‘bwrdd mawr’, sef bwrdd llifio gyda llif gron a blaenion diemwnt arni hi i fyny i Felin Sing-Sing ar Lawr 7 am y tro cyntaf. Byrddau bach hen ffasiwn, h.y. byrddau llifio gyda llafnau haearn oedd yno pan ddechreuais i weithio yn Chwarel Llechwedd. 

Enghraifft o fwrdd bach ar gyfer llifio clytiau

Gan ein bod angen lle tipyn ehangach ar gyfer gosod yr un newydd gofynnwyd imi dorri rhai o’r byrddau bach yn ddarnau. Cofier mai haearn bwrw oeddynt, a serch fy mod innau yn eu taro gyda gordd haearn drom roeddynt yn gyndyn o falurio. Yn wir, byddai’r ordd yn trybowndio i fyny’n ôl yn aml iawn, ac heb wneud argraff arnynt gan eu bod wedi eu gwneud mor wydn. Os cofiaf yn iawn, mai byrddau llifio Owen Isaac Owen, Porthmadog oeddynt, ac wedi eu gwneud yn y ffowndri yno. 

Yr adeg honno, ar y ffordd haearn y byddid yn cludo y rhan fwyaf o bethau trwm, naill ai mewn wagen rwbel neu ar slêd, ond y tro hwn ar ben wagen lechi (neu wagen slaitj, yn ôl term y chwarel) y gosodwyd y bwrdd mawr. Clymwyd y bwrdd llifio efo cadwyni yn sownd yn y wagen wag a gwthiwyd hi yn raddol gydag injian, i gyswllt ‘Inclên No. 7’ ac aeth pethau yn bur dda. Pa fodd bynnag, gan mai amrediad cyfyng oedd ar echelydd olwynion wageni llechi, yn wahanol i wageni rwbel a’r sledi, roedd yn rhaid i led y ffordd haearn fod yn union 1 troedfedd a 11½ modfedd, neu byddai’n dod oddi ar y bariau, a dyna a ddigwyddodd tra roedd ar ei ffordd i fyny’r inclên, a mwy na hynny, trodd ar ei hochr. 

O ganlyniad, bu’n rhaid ei chodi yn ôl ar y bariau gyda phwli a thacl (block and tackle) a bu’n rhaid i Robin Williams, y fforddoliwr, gywiro pob rhan o ffordd haearn yr inclên i’r mesur cywir. Do, bu hi’n dipyn o strach, a chymerodd bron i ddwy awr inni gael yr horwth i fyny i ben yr inclên. A meddwl am y peth heddiw, gellid fod wedi gwneud y gwaith o fewn deng munud gyda pheiriannau modern y dyddiau hyn a’i gludo i fyny’r ffordd a oedd wedi ei gwneud ychydig ynghynt. 

Nid aeth pethau yn dda iawn y diwrnod canlynol chwaith, ar ôl iddo gyrraedd i fewn i Felin Sing-Sing. Roeddem wedi paratoi gwaith estyll (shuttering) ar gyfer wal goncrit i ddal y ‘bwrdd mawr’ yn ei le, ond yn anffodus, pan ddaeth y lori a dadlwytho’r concrit chwyddodd y coedwaith gryn dipyn gan nad oedd yn ddigon cryf i’w gynnal, a bu’n ofynnol inni roi pob math o bwysau trwm arnynt. Pan galedodd y concrit wal braidd yn foliog oedd y canlyniad. Wel, dyna yw hanes gwaith a bywyd, ynte, - pethau yn mynd yn rhwydd iawn ambell ddiwrnod, ond yn hollol groes, ac o chwith ar ddyddiau eraill.

Llif y ‘bwrdd mawr’

- - - - - -

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2021


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon