27.11.21

Stolpia- ymestyn llaw

Atgofion am Chwarel Llechwedd... pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Un o’r pethau hynny a roddwyd ar brawf yn y chwarel yn ystod haf 1969 oedd ceisio gwella effeithiolrwydd y gwahanol orchwylion o fewn y gwaith. O ganlyniad, huriwyd swyddog dieithr i arolygu amser a symudiad y gweithwyr o un man i’r llall, sef dyn ‘time and motion’. Daeth heibio Ponc yr Efail (Llawr 5) un bore, yn cario oriawr nobl yn ei law ac yn edrych yn bwysig iawn. 

Beth bynnag, roeddwn i wrthi’n gosod creffyn ar beipen ychydig uwchlaw’r bonc i gyfeiriad y mynydd pan ddaeth sledeidiau o gerrig (darnau bras o lechfaen ar sledi) i fyny’r inclên o’r Bôn. Ychydig wedyn, roedd Dafydd ac Evie yn hwylio’r sledeidiau am y felin ond gan fod un o’r sledeidiau yn drwm ymlaen aeth oddi ar y bariau (rheiliau) mewn lle gydag ychydig o rediad fel bod ei phen blaen ar un o slipars pren y ffordd haearn. 

Yn dilyn hyn, a chofio bod y garreg yn un drom, roedd angen ‘band o hôp’ (term y chwarelwyr am griw i gynorthwyo gyda chodi, neu symud pethau trwm) i’w chael yn ôl ar y slêd. Yn y cyfamser aeth Evie i’r felin i nôl criw o ddynion a gwelwn bod y dyn a’i watj ‘time and motion’ yn dechrau mynd yn anniddig. Bu’r criw wrthi am dros ddeng munud yn cael y slediad yn ôl ar y bariau a gwelwn bod amser a symudiad yr hogiau wrth eu gwaith yn ormod o dreth i’r dyn a’r oriawr. Y peth nesaf a welwn oedd, y dyn yn rhoi’r watj o’r neilltu a ffwrdd a fo, a gwelson ni mohono yno byth wedyn!

Evie a Dafydd wrth eu gwaith yn Chwarel Llechwedd

 Ar adegau, byddai’n ofynnol imi wneud gwaith atgyweirio yn y pympiau neu’n un o’r agorydd tanddaearol. Un tro daeth galwad imi fynd i lawr i’r pympiau ar ôl imi orffen fy nghinio a chario rhyw ran efo mi i’w osod ar un o’r motors yno, ac os cofiaf yn iawn, Robin George (Robin Gof) a weithiai yno y prynhawn hwnnw. Gwyddwn hefyd bod Bleddyn Williams (Conglog) a Dafydd Roberts (Gwalia), tad David Emrys, yn gweithio yn un o’r agorydd yn Sinc y Mynydd. Pa fodd bynnag, nid oeddwn yn gwybod bod y ddau wedi bod i fyny ar Bonc yr Efail yn ystod yr hanner awr i ginio.


Bleddyn Conglog

 Wel, tra roeddwn yn ei throedio hi ym mherfeddion y ddaear a’m meddwl ar gyrraedd ‘stafell y pympiau mewn amser da roedd yn rhaid imi fynd heibio hen lefel fechan (twnnel bychan) yn y graig. 

 Yna, pan oeddwn gerllaw’r fan dyma law allan a chyffwrdd fy ysgwydd!


 Credwch chi fi, mi waeddais tros y lle yn fy nhychryn a’i gwadnu hi, ond yna clywn chwerthin - Bleddyn a Dafydd a oedd yn cuddio yno, ac wedi fy nglywed yn dod ar hyd y ffordd haearn, a Bleddyn oedd yr un a ymestynnodd ei law allan. 

 Roedd fy nghalon yn curo fel morthwyl meinar am sbelan, ond mi dderbyniais y cwbwl yn hwyl wedyn.


- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon