(Llun gan Duncan Brown. Lle^n y Llysiau)
Tydi chwyn ddim yn chwyn os yr edrychwch arnynt
mewn ffordd wahanol medd rhai!
Wel oddeutu 4 mis yn ôl gyda'r caeau a’r
lonydd yn euraidd gyda dant y llew cefais inna newydd wedd ar y
blodyn hardd hwn... Nid chwyn mohono i mi bellach ond blodyn gwerthfawr. Dechreuodd
hyn i gyd wrth i ddwy ohonym drafod rhaglen a welsom ar y teledu lle’r
oedden nhw’n gwneud marmalêd dant y llew ..... pwy glywodd am ffashiwn beth
wir! Beth am rhoi cynnig arni ein hunain a chynnig i bwy bynnag sydd am ymuno
yn y hwyl ddod hefo ni.
Doedd gennym ni ddim clem beth oedd o'n
blaenau, ac wedi denu un mentrus arall i ymuno â ni a chael cynnig
defnyddio ei chegin, dyma drefnu cwrdd a bwrw ati y penwythnos hwnnw.
Wel am ddiwrnod gwerth chweil, a hollol annisgwyl....
Tra'n hel y blodau o bob cornel o'r ardd, hyd
y lonydd i gyd a chyrraedd gardd arall dyma ddechrau siarad gyda'r perchennog
oedd yn holi pam yr oedden yn hel. Wedi gwirioni cynnigodd i ni hel yn ei gardd
hithau hefyd. A felly bu, a thra yn ei gardd hi dechreuom siarad â'r mab sydd
yn cadw cwpwl o ieir, a’i diwedd hi oedd cael mynd o’no efo wy ffresh yr un
hefyd!
Aethom yn ein blaenau i gael popeth yn barod i
wneud y marmalêd, gydag un arall wedyn yn penderfynu ymuno â'r hwyl.
Wedi cinio cartref bendigedig penderfynom fod
angen mynd am dro bach i ni gael ysgogi rhywfaint ac i fyny a ni hyd lonydd a
chaeau Cwm Teigl. Wrth gerdded a chloncian cawsom dipyn o hanes y fro, ac
ambell i doriad bach yma ac acw i blannu'n ein gerddi ein hunain, heb son am
ddod ar draws llwybrau newydd.
Yn ôl i'r gegin, berwi a throi y sosban .... gan
deimlo ychydig fel y gwrachod yn Macbeth, ond llawer hapusach ein byd. Ar
ddiwedd y fenter, wedi potio ein marmalêd dant y llew euraidd, gyda gwen mawr
ar ein hwynebau eisteddom i lawr am baned bach wedi ei llawn haeddu a tholc
o fara cartref yr un, menyn yn toddi, a haen o farmalêd ar ei ben. Dyma'r
foment mawr ..... fydda ni yn ei fwynhau ..... a bois bach roedd wir yr yn
fendigedig, fel mêl!
Dyna syndod, a dyma pan troiodd y chwyn yn rhywbeth
llawer mwy gwerthfawr!
Yn dilyn hyn fe es i ymlaen i wneud sawl jam a marmalêd
gwahanol, a phob un, rhaid dweud, yn llawer mwy blasus na'r rhai dwi wedi brynu'n
y siopau!
Rydym yn meddwl rwan am ymgynyll eto, o bosib i
wneud jam criafol ac afalau surion ...... ac wrth gwrs, mae'r cynnig yno i chi
ymuno gyda ni yn yr hwyl. Dewch yn llu gyda'ch syniadau am ba bethau eraill y
gallwn fynd ati i’w gwneud.
Marmalêd
Dant y Llew
Rysait gan Catrin Roberts
500g creiddiau a chroen afalau neu afalau wedi cwympo wedi'u torri'n fras
500g croen ffrwythau (lemwn, oren , grawnffrwyth di-gŵyr) wedi'u torri'n fras
100g petalau dant y llew (Y ffordd hawddaf i dynnu’r petalau yw torri’r darnau melyn efo siswrn)
Siwgr
100g petalau dant y llew (Y ffordd hawddaf i dynnu’r petalau yw torri’r darnau melyn efo siswrn)
Siwgr
1. Rhowch yr afalau, croen sitrws a hanner y petalau mewn sosban fawr. Ychwanegwch ddigon o ddŵr i orchuddio - tua 1.5 litr. Dewch i fudferwi a'i goginio yn araf am 45-60 munud. Bydd hyn yn meddalu’r ffrwythau ac yn rhyddhau'r pectin gwerthfawr. Trowch y ffrwythau mewn i fag mwslin a gadewch am ychydig oriau i ddiferu (dros nos os yn ymarferol).
2. Mesurwch yr hylif wedi'i
hidlo a phwyswch 450g o siwgr am bob 600ml o hylif. Dychwelwch i'r sosban;
dewch a fo i ferwi ac ychwanegwch y siwgr. Cymysgwch nes toddi yna berwch
yn gyflym heb ei droi, nes cyrraedd pwynt setio (tua 10 munud).
Cymysgwch
weddill y petalau'r i mewn.
3. Tynnwch oddi ar y gwres a'i droi mewn un cyfeiriad nes bod unrhyw swigod neu lysnafedd ar y wyneb wedi diflannu a'r petalau wedi'u dosbarthu yn dda. Arllwyswch i mewn i botiau jam glân a seliwch ar unwaith gyda chaeadau.
4. Os yw’r petalau’n codi i'r wyneb tra rydych yn aros i'r jeli setio, gadewch iddo oeri ychydig cyn troi y pot yn gyflym i ailddosbarthu'r petalau.
3. Tynnwch oddi ar y gwres a'i droi mewn un cyfeiriad nes bod unrhyw swigod neu lysnafedd ar y wyneb wedi diflannu a'r petalau wedi'u dosbarthu yn dda. Arllwyswch i mewn i botiau jam glân a seliwch ar unwaith gyda chaeadau.
4. Os yw’r petalau’n codi i'r wyneb tra rydych yn aros i'r jeli setio, gadewch iddo oeri ychydig cyn troi y pot yn gyflym i ailddosbarthu'r petalau.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon