Dyma ddarn o'i herthygl hi isod.
(**COFIWCH, gyda llaw, bod y dyddiad cau ar gyfer rhifyn Hydref, YFORY, Dydd Gwener, 28ain o Fedi! Ewch ati i yrru rhywbeth i Tecwyn.**)
Dwi’n
eistedd mewn Starbucks yn
yr Exchange Tower yng
nghanol Toronto. Fel arfer, mae’r lle yn llawn sŵn
a phrysurdeb ond Dydd Sul ydi hi heddiw ac mae’r ddinas yn gorffwys
rhyw ’chydig. Dwi wedi bod i fyny yn fy swyddfa yn trio clirio
rhywfaint ar y pentwr gwaith sydd bob amser yn aros amdanaf yn fan’no
ond yn teimlo ’mod
i’n haeddu panad bellach a chyfle
imi bendroni uwchben cwestiynau Llafar Bro ac i hel atgofion
am gartra.
Beth yw eich swydd bresennol ac
ym mha ran o’r byd ydych chi’n byw ar hyn o bryd?
A fyddwch chi’n dychwelyd
weithiau i fro eich mebyd? Beth yw eich teimlada, bryd hynny?
Byddaf, o leiaf unwaith bob blwyddyn.
A byddaf hefyd yn rhygnu ar Mam a Dad ac Owena a Merêd a gweddill y
gang i ddod draw yma mor aml â phosib. Heb eithriad, mae dod
adref i Stiniog yn brofiad cymysg – codi ’nghalon a’i thorri bob tro.
Dwi wrth fy modd yn dod nôl i weld y teulu ac i grwydro’r ardal. Mae’n braf cael picio i’r Stryd Fawr a chael sgwrs efo hwn ac
arall, fel pe na bawn i wedi bod i ffwrdd o gwbwl. Lle cartrefol fel’na
ydi Blaena. A does byth well pryd o
fwyd i mi, nac i Phil chwaith erbyn hyn, na chinio Dydd Sul
Mam! Ond mae’r dyddiau’n mynd heibio’n rhy gyflym o lawer a daw’r amser i
adael ac i’r dagrau ddechrau llifo eto.
Efallai y caf brynu
tocyn unffordd yn ôl yma, ryw ddydd.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon