Bydd Vivian, yr ysgrifennydd yn ei ddanfon i'r wasg bore Mercher.
Nos Fercher nesa -y 12fed- fydd o'n cael ei blygu, yn neuadd y WI, ac yn cael ei rannu wedyn rhwng y dosbarthwyr lleol a'r siopau.
A fu aberth pobl Bro Ffestiniog yn ofer? -llun PW |
Dyma ddarn i aros pryd..
Dwi ddim isio swnio fel tiwn gron, ond ‘rargian, mae golygu
rhifyn Medi bob blwyddyn yn gwneud i mi sylweddoli mor braf ydi byw ym Mro
Ffestiniog. Do, mi gawsom ni’r haf gwlypaf ers cychwyn cofnodi’r glaw, ond wfft
i’r tywydd. Mae’r golofn rhoddion yn fy rhyfeddu i’n rheolaidd. Diolch yn fawr
iawn i chi gyd am eich haelioni, ar gyfnod mor anodd i nifer. Diolch i lawer
hefyd am gefnogi ein papur bro mewn ffyrdd eraill.
Mae Calendr y Cymdeithasau hefyd yn llonni calon rhywun,
wrth sylwi’r gweithgaredd anhygoel sy’n mynd ymlaen yn ein cymuned.
Hefyd, angerdd pobl y fro, a llafur cariad ac ymroddiad y
pwyllgor amddiffyn, wrth geisio gwarchod ein gwasanaethau. Mae’n fraint yn wir
cael byw yn eich mysg.
Mae golygu papur misol yn gallu bod yn waith rhwystredig
iawn hefyd. Ffrystreting: hwnna ydio!
Yn ystod yr wythnos rhwng gyrru Llafar Bro i’r wasg, ac iddo ymddangos
yn eich cartrefi, gall llawer iawn o bethau ddigwydd! Y tro hwn, rwy’n methu
adrodd yn llawn ar ddatblygiadau’r ysbyty, oherwydd bod cyfarfodydd y bwrdd
iechyd yn digwydd ddiwrnod ar ôl rhoi Llafar Bro i’w wely, ar y 6ed! Pwy a ŵyr;
oherwydd cefnogaeth eich papur bro i ymgyrch y pwyllgor amddiffyn, efallai mai
dyna mae’r bwrdd iechyd yn gwybod?!
Mewn difri’, gall nifer o bethau newid
hefyd yn y bwlch hwnnw, a ninnau’n methu adrodd yr hanes am fis arall. Ni all,
ac ni ddylia Llafar Bro gystadlu efo’r Herald a’r Cambrian News o ran adrodd y
newyddion felly, ond gobeithiwn eich bod yn deall y rhesymau pam.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon