Mae John Norman yn un o golofwyr rheolaidd Llafar Bro. Dyma ddarn o'i erthygl yn rhifyn Medi:
CHWARAE PEL DROED
Llun JN |
Rhoddai’r afon linell glir ar un ochr a therfyn gwlyb tu ôl i un gôl. Dysgai chwaraewyr Traws i ergydio’n unionsyth at y gôl. I’r sawl a fethai ‘roedd tasg annifyr o dynnu’r bêl o’r dŵr oer yn eu disgwyl.
Yn ystod y
rhyfel ‘roedd rhan helaeth o dim Traws, ‘Prysor Rovers’, yn y lluoedd arfog. Bu
ychydig ohonom, yn ein harddegau, yn cadw pethau i fynd. Byddem yn marcio’r
cae, paratoi y bêl, trefnu’r gemau a chrafu am ddillad chwarae- ‘y togs’.
Gwaith annodd oedd marcio’r cae gan ei fod yn dibynnu ar y tywydd ac ar haelioni’r
saer gyda’i lwch lli. Byddai gwynt mawr, neu’r afon mewn llif yn creu
anawsterau ond erbyn amser ‘cic off’ roedd Dôl Bont yn faes chwarae heb ei ail.
Llun. JN yn ugain oed
ym 1948, ‘ar y bêl'.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon