Showing posts with label dyddiad cau. Show all posts
Showing posts with label dyddiad cau. Show all posts

27.9.12

Lle maen nhw heddiw?

Mae Llafar Bro wedi bod yn holi rai o blant y cylch sydd wedi gadael y fro, bob mis, a thro Teleri Jones, Tyddyn Gwyn, oedd hi yn rhifyn Medi.
Dyma ddarn o'i herthygl hi isod.

(**COFIWCH, gyda llaw, bod y dyddiad cau ar gyfer rhifyn Hydref, YFORY, Dydd Gwener, 28ain o Fedi! Ewch ati i yrru rhywbeth i Tecwyn.**)






Dwi’n eistedd mewn Starbucks yn yr Exchange Tower yng nghanol Toronto. Fel arfer, mae’r lle yn llawn sŵn a phrysurdeb ond Dydd Sul ydi hi heddiw ac mae’r ddinas yn gorffwys rhyw ’chydig. Dwi wedi bod i fyny yn fy swyddfa yn trio clirio rhywfaint ar y pentwr gwaith sydd bob amser yn aros amdanaf yn fan’no ond yn teimlo ’mod i’n haeddu panad bellach a chyfle imi bendroni uwchben cwestiynau Llafar Bro ac i hel atgofion am gartra.

Beth yw eich swydd bresennol ac ym mha ran o’r byd ydych chi’n byw ar hyn o bryd?

Yn Toronto, yng Nghanada yr ydw i y dyddiau yma. Mae Phil (y gŵr) a finna yma ers bron i ddeng mlynedd, bellach. Mae’r ffaith fy mod i’n gweithio yn yr Exchange Tower yn gliw ynglŷn â fy swydd. Gweithio rydw i, ers tua phedair blynedd bellach, i’r cwmni sy’n rhedeg y Gyfnewidfa Stóc yn Toronto. Yn fy swydd bresennol fel Cyfarfwyddwr Cyllid, dwi’n gyfrifol yn bennaf am gynhyrchu adroddiadau blynyddol a chwarterol ar gyfer y rhiant-gwmni ac amryw o’r is-gwmniau.



A fyddwch chi’n dychwelyd weithiau i fro eich mebyd? Beth yw eich teimlada, bryd hynny?

Byddaf, o leiaf unwaith bob blwyddyn. A byddaf hefyd yn rhygnu ar Mam a Dad ac Owena a Merêd a gweddill y gang i ddod draw yma mor aml â phosib. Heb eithriad, mae dod adref i Stiniog yn brofiad cymysg – codi ’nghalon a’i thorri bob tro. Dwi wrth fy modd yn dod nôl i weld y teulu ac i grwydro’r ardal. Mae’n braf cael picio i’r Stryd Fawr a chael sgwrs efo hwn ac arall, fel pe na bawn i wedi bod i ffwrdd o gwbwl. Lle cartrefol fel’na ydi Blaena. A does byth well pryd o fwyd i mi, nac i Phil chwaith erbyn hyn, na chinio Dydd Sul Mam! Ond mae’r dyddiau’n mynd heibio’n rhy gyflym o lawer a daw’r amser i adael ac i’r dagrau ddechrau llifo eto. Efallai y caf brynu tocyn unffordd yn ôl yma, ryw ddydd.


27.8.12

Dyddiad cau rhifyn Medi

Mae'r dyddiad cau yn nesau...
Dydd Gwener, y 1af o Fedi.

Cofiwch yrru popeth i'w deipio i Siop Lyfrau'r Hen Bost, neu trwy ebost at y golygydd (gweler dudalen Pwy ydi Pwy? am fanylion).

 
Dyma lun prin o ddau drên stêm yn yr orsaf yr un pryd, a dynnwyd ar Awst 21ain eleni.
The Great Marquess  ydi’r injan fawr sydd ar y lein fawr yn y cefn. Un o gyfres o drenau fydd yn ymweld â’r Blaenau yn ystod Awst a Medi, medden nhw. 
Llun gan VPW.