Yn y cyfnod yma roedd yna wyth o gapeli ac un eglwys yn Nhanygrisiau, gyda’r capeli yn llawn ac aelodaeth selog. Roedd yna bedwar o weinidogion ac un ficar, ac hefyd clochydd, John Jones yn yr eglwys bach. Byddai Ysgol Sul, Band of Hope, Cwarfod Canu, Cymdeithas Lenyddol a Chwarfod ddarllen a Seiat hefyd.
Cawsom ddisgyblaeth dda o’r dechrau yn y capel, dysgu y “Rhodd Mam”, a dysgu “Yr Hyfforddwr”, ac wrth gwrs dysgu bod yn ufudd a’r gwahaniaeth rhwng Da a Drwg. Yn ogystal a’r gwasanaethau yn y capel, roedd Côr y Plant a’r Côr Telyn a’r Cwmni Drama yn cael defnydd o’r festrioedd i ymarfer.
Roedd yna blismon yn byw yn y pentre. Roedd hefyd bostmon a nyrs, a llawer o bobol yn rhoi help llaw i bawb a fyddai angen. Roedd caredigrwydd yn amlwg iawn ym mywyd y pentre bryd hynny.
Manylion y llun isod |
Roedd y pentref yn hunangynhaliol ar hyd y blynyddoedd yma. Roedd naw o siopau yn gwerthu bwyd o bob math, a phethau fel paraffin, asaffeta, penwaig picil a diod dail. Roedd hefyd tair o siopau chips, un siop feics, un siop gigydd, siop hetiau o bob math; tair siop crydd, dau ddyn yn gwerthu glo, dwy fecws yn pobi a gwerthu’r bara a hefyd un ffermwr yn codi mawn a thair fferm yn gwerthu llefrith. Roedd yno dair o chwareli llechi, dwy chwarel ithfaen, ac un hen chwarel gopr neu ‘waith aur’ fel y gelwid, ac yn bwysig iawn roedd melin wlan, yr olwyn ddŵr yn troi ar hyd y blynyddoedd. Ac roedd blancedi, cwiltiau o frethyn cartref a chrysau gwlanen a bob lliwiau o ddefnyddiau yn cael eu cynhyrchu yno. Roedd gan deulu’r felin dau fachgen a phedair o ferched mewn oed ysgol fel ninnau, ac yn cadw ieir fel y rhan fwyaf o deuluoedd yr ardal.
Un bore braf pan edrychodd y tad drwy’r ffenest at yr ardd fawr yn y cefn, dychrynodd i weld fod yr ieir a’r ceiliogod yn strytian o gwmpas yn lliwgar iawn: rhai yn las, eraill yn wyrdd, piws, pinc a choch! Ie dyna fo, roedd rhywun wedi bod yn brysur iawn yn y Pandy ac wedi dipio yr ieir yn y crwc llifo heb i neb weld na chlywed dim (na chwaith am ddweud dim!) Ni wnaed niwed parhaol i’r ieir ac roeddynt yn dodwy wyau gwyn o hyd diolch i’r drefn!
Erbyn hyn [1998] dim ond dau gapel sydd yn agor eu drysau ar y Sul. Dim ond un siop yng ngwaelod y pentref yn agored i fusnes. Y cyfan o'r lleill wedi cau. Yr olwyn ddŵr yn y ffatri wlan wedi rhoi ei holaf dro. Y tri chwarel lechi wedi rhoi goreu i weithio a’r chwarel ithfaen wedi chwalu ers llawer blwyddyn.
Yr hen fusnesau a’r dynion gweithgar wedi diflannu. Beth ddigwyddodd i’r pentref? Yn enwedig i’r gymdeithas glos a’r boblogaeth wedi hanneru. Rhesi o dai a’r gerddi wedi hen ordyfu. Does dim byd ‘run fath. Ysgwn i a oes gobaith fod rhai pobl a phlant fel roedd yma o’r blaen? Fel yr oedd ddoe fy mhlentyndod.
Beth sydd yn gyfrifol am y dirywiad yma? Pwy chwalodd yr eglwys a distewi y gloch? A oes diben mynd ar ôl y cwestiynau yma?
--
Llun: Richard Evans Tŷ'nddôl (tad Mary Jones, fu farw ym 1945) yn hel gwair yn y caeau dros y ffordd i Fron Haul, ar ôl diwrnod o waith yn y chwarel tua 1930-32.
---------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 1998 (llun o rifyn Gorff. '98).
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon