Erthygl o gyfres Steffan ab Owain, y tro hwn yn edrych ar rai o swyddfeydd post y fro.
Fel y soniais yn fy llythyr yn rhifyn diwethaf ‘Llafar’ [Hydref 1998], mae hi’n ganmlwydd a hanner ers sefydlu Swyddfa’r Post gyntaf yn y Blaenau. Yn siop Robert W. Jones yn yr hen Riwbryfdir, gerllaw’r ffermdy o’r un enw, a’r Bont Fawr a godwyd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, yr agorwyd y post yn gyntaf yma.
Wrth gwrs, yn y rhan hon y ceid prif chwareli’r ardal y pryd hynny, a byddai prysurdeb mawr yma’n ddyddiol yn ddiau. Pa fodd bynnag, gyda thwf y chwareli, claddwyd holl dai Dolclipiau, gan gynnwys yr hen swyddfa bost, y ffermdy, a nifer o adeiladau’r chwarel o dan y tomennydd rwbel ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r un bresennol.
Tan y Bwlch
Er mai’n y flwyddyn 1848 yr agorwyd y swyddfa bost gyntaf yn y Blaenau, roedd un yn y Llan er y flwyddyn 1844 ... os nad ychydig cynt ... ac wrth gwrs, roedd un yn Nhan y Bwlch lawer blwyddyn cyn hynny. Ie, i Westy Tan y Bwlch (Oakeley Arms) yr anfonid ein llythyrau yn nyddiau cynnar ein post ... a hynny mor bell yn ôl a’r 1780au, os nad cynt. Bu’r post yn cael ei ddosbarthu oddi yno am flynyddoedd lawer. Sut bynnag, cyn iddynt benodi John Parry fel postmon cyntaf y plwyf yn 1844, byddai’n ofynnol i chi (neu rhywun arall) alw i lawr yno i nôl eich post. Beth fyddai’n ymateb ni pe baen ni’n gorfod gwneud hynny heddiw tybed?
Y llythyr gludydd
Ym mlynyddoedd cynharaf ei yrfa fel llythyr gludydd byddai dyletswyddau J. Parry, ymhlith pethau eraill, yn golygu cerdded o’i gartref yn y Llan i lawr i Dan y Bwlch i nôl y post, ac yna, ei throedio hi’n ôl i’r Llan, gadael rhai llythyrau, a chasglu rhai eraill yn y swyddfa honno, a cherdded wedyn i fyny i Riwbryfdir gyda’r gweddill a gwneud yr un peth yno. Yna, ai’n ôl drachefn i Dan y Bwlch ... a hynny drwy bob tywydd, cofiwch.
Yn ddiweddarach, (yn yr 1850au, o bosib) cafodd ferlyn a cherbyd bychan pwrpasol gyda lle i un ynddo i gludo’r post yn ôl a blaen. O beth welais, bu yn y swydd hon am tua 25 mlynedd, os nad mwy, a cherddodd gannoedd lawer o filltiroedd yn danfon llythyrau a phecynnau i drigolion y fro. Deallaf fod sawl stori am ei hynt a’i helynt fel llythyr gludydd ... a pheth braf fyddai cael clywed am un neu ddwy ohonynt gennych chi’r tro hyn.
Swyddfeydd Post eraill
Yn ystod y cyfnod y bu cynnydd ym mhoblogaeth plwyf Ffestiniog, bu datblygiad sylweddol yn y gwasanaeth post drwy Brydain gyfan, hefyd. Yma, yn y Blaenau a’r cylch, agorwyd cymaint a saith swyddfa bost wahanol dros y blynyddoedd ... a hynny heb gyfri un yn Llan, cofier.
Dyma restr ohonynt:
1. Rhiwbryfdir (y soniwyd amdani eisioes);
2. Bethania;
3. Four Crosses (Blaenau Ffestiniog, wedyn);
4. Heol yr Eglwys;
5. Glanypwll;
6. Caersalem;
7. Tanygrisiau.
Credaf mai swyddfa bost Bethania oedd yr ail i’w hagor yn ardal y Blaenau ... rywdro yn yr 1850au, yn ôl un ffynhonell. Dilynwyd hi gan swyddfeydd post Tanygrisiau a Fourcrosses (h.y. lle mae Siop yr Hen Bost heddiw) yn ystod yr 1860au, yn ôl pob tebygrwydd. Yn ddiweddarach, agorwyd un yn Heol yr Eglwys, un yn Rhes Caersalem, ac yng Nghlanypwll.
Gyda llaw, a wyddoch chi fod swyddfa bost Rhiwbryfidr wedi bod mewn pedwar lle gwahanol i gyd? Bu un Bethania wedi cael o leiaf tri chartref gwahanol. Bu swyddfa Fourcrosses/Blaenau Ffestiniog mewn tri chyfeiriad arall cyn symud i’r un presennol ... a bu un Heol yr Eglwys mewn dau le gwahanol cyn cael ei chau yn gyfangwbl. Efalli y caf gyfle i ymhelaethu am eu hanes rywbryd eto ... ond mi fuaswn yn hoffi casglu mwy o wybodaeth amdanynt yn gyntaf.
Llythyrau a Marciau Post
Fel y gwyddoch, mae llythyrau, pecynnau a pharseli a anfonir gyda’r Post Brenhinol yn cael eu nodi â marc post, a chan amlaf, y mae enw’r lle y postiwyd hwy oddi yno arnynt.
Dechreuwyd gwneud hyn yn y trefi mawr yn gynnar yn y 18fed Ganrif, ac yna, yn ystod yr 1840au daethpwyd a ‘nod rhifol’ allan ... a gellir gweld y rhain ochr yn ochr a’r marciau post arferol ar hen lythyrau a chardiau post. Rhifolyn wedi ei amgylchynu gan gylch neu ‘wy rhesog’ oedd hwn a chynrychiolai’r ffigwr a ddefnyddid gan y swyddfa honno y fan a’r lle yr anfonwyd y llythyr oddi yno.
Er enghraifft, dyma’r rhifolion a ddefnyddid gan swyddfeydd post plwyf Ffestiniog –
Tanybwlch 033,
Llan Ffestiniog 032,
Bethania F02,
Fourcrosses/Blaenau Ffestiniog F04,
Rhiwbryfidr F05,
Tanygrisiau F06.
Edrychwch ar rai o’ch hen lythyrau a llyfrau post i weld os ydynt wedi eu nodi ag un o farciau yr hen swyddfeydd post.
Heddiw
Prin nad oes angen dweud fod newid mawr wedi digwydd yn hanes y Post Brenhinol ers sefydlu swyddfa bost gyntaf y Blaenau ... ac yn sicr, ers dyddiau cynnar un Tanyblwch. Bellach, y mae pawb yn son am e-bost ar y cyfrifiaduron, onid ydynt? Pa fodd bynnag, nid oes dim i guro llythyr oddiwrth gyfaill drwy’r post yn fy marn i, beth ddwedwch chi?
Gresyn yw gorfod dweud fod sawl swyddfa’r post wedi cau eu drysau am byth yn yr ardal, hefyd.
Bellach, dim ond tair swyddfa sy’n agored o’r saith a fu ... a chofier, cauwyd un Tanybwlch hefyd yn y 1960au. Beth bynnag, gobeithir y caiff y gweddill ohonynt flynyddoedd lawer o lewyrch a ffyniant, ynte?
Ymholiadau
Hoffwn wybod sawl peth parthed hanes y post yn ein plwyf. E.e. pa bryd yr agorwyd post Bethania? I ble’r aeth lluniau ein postmyn, tybed? Ychydig iawn ohonynt wyf i wedi ei weld.
Pwy sydd â llythyrau efo marciau post yr ardal arnynt? Byddai unrhyw wybodaeth parthed hanes ein swyddfeydd post, ein postmyn, yr hen lythyrau a chardiau post lleol yn dderbyniol dros ben.
Steffan
-----------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon