11.12.15

Sgotwrs ‘Stiniog

Erthygl arall o gyfres Emrys Evans. Y tro hwn yn trafod mater oedd yn ddadleuol ym 1997, ac yn dychwelyd i'r Gamallt.

Beth sydd yn mynd i ddigwydd i Lyn y Ffridd?  Dyna gwestiwn sydd yn cael ei ofyn yn ddiweddar wedi i’r cynlluniau ynglŷn â lle y mae y rwbel a ddaw o’r cloddio yn hen Chwareli’r Oakeley yn mynd i gael ei arllwys.

Fel sydd wedi’i ddweud, hen gynlluniau ydi y rhain o’r adeg, pan oedd Chwareli’r Oakeley mewn bodolaeth, a’r adeg hynny hwy oedd piau Llyn Ffridd y Bwlch.  Mae cryn dipyn o ddŵr wedi mynd o dan y bont ers hynny, ac erbyn hyn Cymdeithas y Cambrian yw perchennog y llyn, ac hyd at bum medr o gwmpas ei lannau.

Ar wahan ei fod yn llyn i’w bysgota ac yn llyn y medr rhai ag anabledd arnynt fynd ato i’w bysgota, y mae Cymdeithas y Cambrian wedi’i ddefnyddio hefyd i roi mag ynddo ac i’r rheini i gael eu rhwydro wedi iddynt dyfu’n gogiau, ac yna eu symud i lynnoedd eraill y Gymdeithas.

Mi fyddai hi’n rhyfedd iawn gweld y gwpan o dir lle mae Llyn y Ffridd yn cael ei lenwi â rwbel chwarel, a hynny’n wastad â’r ffordd fawr.

Mae’n wir fod sawl darn o dir Stiniog wedi gladdu o dan rwbel ers dechrau y diwydiant llechi dros ddau can mlynedd yn ôl, a neb yn meddwl dim o’r peth.  Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae pethau wedi newid ac agwedd pobl at gadwraeth wedi newid yn fawr.

Llyn Ffridd y Bwlch. 6ed Rhagfyr 2015, llun Paul W

Bron bob tro y byddaf yn mynd draw i Lynnoedd y Gamallt ac yn cyrraedd pen isaf y Llyn Mawr a’r man lle mae’r afon yn gadael y llyn, byddaf yn aros ac yn edrych ar y ffurf driongl sydd yno ar y ddaear.  Mae’r ffurf i’w weld yn eithaf eglur, a’i ymylon wedi eu nodi â cherrig.  Mae’n amlwg yn waith dyn, pwy bynnag ydoedd a phryd bynnag y bu wrthi hi yn gwneud y gwaith.

Ar fap sy’n mynd yn ôl dros ganrif o amser i 1886, mae'r man yma ym mhen isaf Llyn Mawr y Gamallt yn cael ei nodi fel ‘pwll pysgod’.  Mae yna le arall, hefyd, ym mhen isaf Llyn Bach y Gamallt sy’n cael ei nodi ar y map fel ‘pwll pysgod’, ond tydi hwnnw ddim mor eglur nac mor hawdd ei weld a’r un sydd ym mhen isaf y Llyn mawr.

Chlywais i’r un o Hen Griw y Gamallt yn son gair am y naill na’r llall o’r ddau le yma, a tydwi’n gwybod dim o’u hanes.

Yn y Llyn Mawr, er fod y lle wedi tyfu drosto erbyn hyn, gellir gweld y bwlch lle gollyngid dŵr y llyn er mwyn llenwi'r pwll, ac hefyd yn ei ben arall lle y gellid gwagio'r pwll ac i’r dŵr lifo ohono i’r afon.  Mae hi’n ymddangos ei fod wedi’i wneud rhyw adeg er mwyn dal pysgod o’r llyn, a hynny drwy adael i’r pwll lenwi ac i bysgod fynd iddo.  Yna, wedi’i wagio, cael gafael ar y pysgod yn ddidrafferth.

Tybed a oes rhywun a ddigwydd ddarllen hyn o golofn yn gwybod unrhywbeth am y pyllau hyn?  Buaswn yn falch iawn o gael unrhyw wybodaeth amdanynt, pa mor ddibwys bynnag fyddai.
------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 1997. 

Gallwch ddarllen erthyglau eraill Sgotwrs Stiniog gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon