Ddechrau'r mis, bu cynrychiolaeth o’r Pwyllgor Amddiffyn i lawr yng Nghaerdydd yn cyflwyno deiseb derfynol yr ardal hon dros adfer gwasanaethau iechyd hanfodol i’n hysbyty coffa, sef y gwlâu i gleifion, y gwasanaeth mân anafiadau a’r uned pelydr-X.
O wefan Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol: Bethan Jenkins a William Powell yn derbyn y ddeiseb gan Geraint a Dafydd |
Sut bynnag, gair o eglurhâd rŵan i’r rhai ohonoch na chafodd gyfle am ryw reswm neu’i gilydd i roi eich enw ar y ddeiseb. Bellach, mae’r Bwrdd Prosiect wedi cyflwyno ‘Cynllun Busnes’ i’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, yn y gobaith o dderbyn sêl bendith sydyn arno gan y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd.
Ond ystyriwch hyn! - Ar gais y Gweinidog Iechyd ei hun, mae gŵr o’r enw Marcus Longley ar hyn o bryd yn gneud arolwg o safon gwasanaethau iechyd yng nghefn gwlad Cymru, gan gynnwys yr ardal hon. Mae gan yr Athro Longley brofiad helaeth fel Ymgynghorydd Arbenigol ar Faterion Cymreig i Dŷ’r Cyffredin yn Westminster ac i’r Senedd yng Nghaerdydd a bydd ei adroddiad pwysig ef yn ymddangos o fewn dau neu dri mis. Derbyniodd y Pwyllgor Amddiffyn wahoddiad i’w gyfarfod ac i gyflwyno’n hachos iddo, a byddwn yn gneud hynny o fewn yr wythnosau nesaf.
Pe bai llywodraeth Carwyn Jones yng Nghaerdydd yn derbyn Cynllun Busnes y bwrdd prosiect cyn i Marcus Longley gael cyflwyno ei adroddiad swyddogol ef, yna fe fydd hynny’n rhoi’r drol o flaen y ceffyl, ac yn ffwlbri noeth ym marn pob un call ohonom.
Yn syml iawn felly, dyma mae’r ddeiseb yn galw amdano, sef i’r Llywodraeth ohirio penderfynu ar y Cynllun Busnes ar ddyfodol y gwasanaeth iechyd yn yr ardal hon hyd nes i’r Athro Marcus Longley gael cyfle i gyflwyno’i adroddiad ef i’r Gweinidog Iechyd. Wedi’r cyfan, ystyriwch yr embaras i bawb a fu ynglŷn â’r Cynllun hwnnw - heb sôn am i Mark Drakeford ei hun! – pe bai’r cynllun yn cael ei fabwysiadu ar frys a bod adroddiad yr Athro Longley wedyn yn dangos bod gan yr ardal hon angen rhywbeth dipyn amgenach na Chanolfan Goffa’n unig!
Geraint, Walter, Dafydd, a Meirion, yn Y Senedd |
Sut bynnag, gair o ddiolch rŵan i bawb ohonoch a arwyddodd y ddeiseb, ac yn arbennig i’r unigolion hynny a fu’n mynd o ddrws i ddrws i gasglu enwau. Ni fu’n bosib cyrraedd pawb ohonoch yn yr amser oedd ar gael, gwaetha’r modd, ond does ond gobeithio y bydd y Cynulliad yn parchu’r cais sydd yn y ddeiseb.
------------------------------------------------------------------------
ANNWYL OLYGYDD...
Unwaith eto yn rhifyn Mehefin, cafwyd llythyrau'n cefnogi ymgyrch y Pwyllgor Amddiffyn, a'r enghraifft yma, gan Ceri Cunnington yn taro nifer o hoelion ar eu pennau:
"Fel y gwyddoch, mae cwmni cymunedol Antur Stiniog ynghŷd â Blaenau Ymlaen wedi ceisio mynd ati i ddatblygu’r economi leol ac adfywio’r ardal arbennig hon. Nod pob un ohonom ydi gweld yr ardal yma’n ffynnu unwaith eto gan gadw ein pobl ifanc a rhoi cyfleoedd gwaith ac hamdden iddynt.
Hyd yn hyn, mae Antur Stiniog wedi profi’n llwyddiant ac mae’r cwmni bellach yn cyflogi 15 o drigolion lleol ac wedi denu dros 20,000 o ymwelwyr ychwanegol i’r ardal.
Gall nifer helaeth o’n defnyddwyr fod yn ddibynnol ar wasanaeth fel uned frys, mân anafiadau neu wely mewn ysbyty lleol.
Mae Bro Ffestiniog yn gymuned o 5000 o drigolion ac mae’r sefyllfa bresennol o ran gofal, iechyd a lles yn gwbl gywilyddus. Mae colli gwasanaethau fel sydd gan yr Ysbyty Coffa i’w gynnig yn amlwg yn ergyd wirioneddol drychinebus i’r gymuned yma a does dim dwywaith bod colled o’r fath yn mynd i atal unrhyw adfywiad.
Mae gan y gymuned lawer i’w ddiolch i’r Pwyllgor Amddiffyn am eu gwaith di-flino fel unigolion a phwyllgor dros y blynyddoedd diwethaf, ac os oes unrhyw beth y gallwn ni yn Antur Stiniog ei wneud i gefnogi’r ymdrechion hynny, yna, byddwn yn barod iawn i wneud."
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon