Y tro hwn, darn o Ebrill 1998 gan Eigra Lewis Roberts. Un o gyfres 'Ar Wasgar' gan awduron o Fro Ffestiniog oedd yn byw ym mhedwar ban Cymru.
Taith bum munud
Rhyw bum munud o daith gerdded oedd yna o’n tŷ ni yn y Blaenau i gapel Maenofferen; hanner awr o’i cherdded deirgwaith y Sul, heb sôn am hanner awr a rhagor yn ystod yr wythnos i Obeithlu a Chymdeithas a Chyfarfod Darllen a’r llu ymarferiadau ar gyfer drama a chyngerdd a chymanfa. Mae’r tŷ yn dal yno, bellach yn gartref i rhywun arall, ond mae’r capel wedi hen ddiflannu er bod y festri’n dal ar ei thraed.
Roedd camu allan drwy ddrws ‘Llenfa,’ Sgwâr y Parc yn nillad gwyryfol glân un-diwrnod-yr-wythnos yn brofiad cwbwl wahanol i’r camu allan dyddiol yn nillad gwaith ac ysgol. Roedd cerddediad y Sul yn wahanol hefyd, yn barchus, hamddenol a’r het a’r menyg yn llyffetheiriau. Dydw i ddim yn cofio imi erioed chwysu mewn dillad dydd Sul.
Wrth i ni gerdded felly i lawr ein stryd ni am y stryd fawr deuai eraill i ymuno â ni a’u lleisiau, wrth gyfarch a sgwrsio, donfedd yn is na’r lleisiau bob dydd. Wedi cyrraedd y stryd fawr, byddai’r cwmni’n gwasgaru, i Ebeneser a Jeriwsalem, y Tabernacl a’r Bowydd, a ninnau’n tri’n croesi, heb orfod edrych i’r dde na’r chwith, ac yn dilyn y pwt ffordd, dros war pont y rheilffordd, nes dod i olwg Maenofferen. Does gen’ i fawr o gof o’r capel ei hun ond fe alla i ddal i deimlo’r parchedig ofn a fyddai’n gyrru ias oer i lawr asgwrn fy nghefn wrth imi wylio’r blaenoriaid yn camu’n ddefosiynol i’r sêt fawr o’r ystafell fach ddirgel honno a oedd â’i drws bob amser ar glo i ni.
Capel Maenofferen. Diolch i Gareth T Jones am y llun |
Y festri oedd calon y lle i mi. Yno y bum yn llyncu gwybodaeth ac yn llowcio jeli; yn dysgu gwrando, a rhyfeddu, a holi. Yno, drwy gyfrwng lluniau ar ddarn o wlanen, y gwelais i’r mab afradlon yn plygu’i ben mewn cywilydd a’r tad maddeugar yn estyn breichiau i’w groesawu’n ôl, y claf o’r parlys yn sefyll, yn syth fel brwynen, a’i fatres o dan ei gesail, a llygaid y dyn dall yn tywynnu wrth iddo weld o’r newydd. Yno y bu hwyl a miri nosweithiau llawen, y darn heb ei atalnodi, y codi papur o het, y chwibanu heb chwerthin, cynnwrf theatraidd y ddrama Nadolig a thawelwch beichiog yr Arholiad Sirol. Yno y dechreuais gael blas ar eiriau a gwirioni ar eu sŵn cyn gallu amgyffred eu gwerth.
Maen nhw i gyd wedi mynd - Mrs Williams, ‘Gofryn’, a allai gael criw o blant digon anystywallt i dawelu, heb godi ei llais; Miss Owen, yn gleniach ar y Sul na Miss Owen, Standard 3 a’i symiau tragwyddol - a’r rhai a fu gynt yn blant ar chwâl dros y byd. Go brin fod dim yn aros o’r festri nad ydi hi’n festri bellach. Taith gwbl ofer fyddai’r un heb iddi ddim i gychwyn ohono na dim i anelu ato.
ELR
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon