10.6.14

O'r Archif- Trem yn ol

Cyfres o bigion o archif Llafar Bro, wedi eu dewis gan Pegi Lloyd Williams. Y tro hwn, darn o 1976 gan Gareth Jones.

Anghofia’ i byth!
Un o’r pethau casaf gen i yw ysgydwad llaw llipa, ddi-deimlad. Credais erioed bod y modd mae person yn ysgwyd llaw yn agor y drws i natur ei gymeriad; bod y gafaeliad tyn, cadarn yn fynegiant o ddiffuantrwydd, a’r gwrthwyneb yn adlewyrchiad o agwedd oer a chaled tuag at fywyd. Beth bynnag am hynny, fe erys dwy ysgydwad llaw yn fyw iawn yn fy nghof tra bydda’ i byw.

Llun PW

Hogyn ysgol oeddwn i adeg Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst [1951, gol], a braint fawr wedi dod i’m rhan o gael eistedd yn sedd flaen y pafiliwn enfawr un noson i wrando ar gerddorfa y Liverpool Philharmonic gyda’r pianydd Solomon yn artist gwadd. Ychwanegwyd at y cyffro pan ffeindiais fy hun yn eistedd wrth ochr y diweddar barablus Bob Owen, Croesor, a dechreuais amau pa un ai noson o sgwrsio ai noson o gerddoriaeth oedd hi i fod!


Sut bynnag, fe ddaeth amser dechrau’r cyngerdd a brasgamodd gwr canol oed ymlaen trwy’r gerddorfa, i fyny ar y rostrwm, a moesymgrymu i’r dorf ddisgwylgar. Roedd ei ben moel yn sgleinio o dan lewyrch goleuadau’r llwyfan a rhyw fywyd annisgrifiadwy yn fflachio yn ei lygaid. Hwn felly oedd Josef Krips, yr arweinydd byd-enwog. Trodd i wynebu’r gerddorfa, cododd ei faton, a dechreuodd arwain. O’r foment honno hoeliwyd fy llygaid ar y pencampwr hwn. Ni welais neb erioed yn ymgolli cymaint yn ei waith; llifai’r chwys dros ei dalcen ac i lawr ei war, a chrynai ei holl gorff yn llythrennol. Roedd hyd yn oed Bob Owen yn fud!

Diweddglo ac uchafbwynt gwefr y noson i mi oedd cael ysgwyd llaw a’r arweinydd mawr, a theimlo, er cyn lleied oeddwn i yn ymyl cawr o’r fath, fod rhyw ddiffuantrwydd cynnes yn y gwasgiad.

Bachgen ysgol oeddwn i o hyd pan fwynheais i’r profiad arall hefyd. Gwyr y mwyafrif o drigolion y Blaenau am yr wyl bregethu flynyddol a gynhelir ar y Pasg yn eglwysi Tabernacl, Bethesda a Peniel. Ymysg y cenhadon gwadd y flwyddyn arbennig honno roedd un o gewri’r pulpud yng Nghymru yn y ganrif hon – y diweddar annwyl Tom Nefyn.

Os oedd Josef Krips ar dân i fod yn feistr ar ei waith, roedd hwn ar dân yng ngwaith ei Feistr. Er hynny, rhaid cyfaddef nad wyf yn cofio dim o gynnwys ei bregeth yr hwyr hwnnw, na hyd yn oed y testun. Wedi’r oedfa y dechreuodd y bregeth i mi. Daethai’r Gweinidog i lawr o’i bulpud i sgwrsio â nifer ohonom oedd yn pasio’r sêt fawr ar ein ffordd allan, ac ysgydwodd llaw â ni bob un. Pan gydiodd yn fy llaw teimlais rhyw drydan arall-fydol yn cerdded trwy fy holl gorff, a syllais i lygaid glas dwyfol-hyfryd. Anghofiais eiriau ei bregeth ond cofiaf dros byth bregeth ddi-eiriau’r gwasgu llaw.

Feddyliodd yr un o’r ddau gawr, mae’n debyg, y buasai’r ddwy act syml wedi creu’r fath argraff ar lanc ysgol nerfus a dibrofiad. Tybed na ddylem roi mwy o sylw i’r posibiliadau pan ddaw’r cyfle nesaf i ni i ysgwyd llaw â rhywun.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon