Mae’n anodd credu bod pum mlynedd wedi mynd heibio ers dechrau’r pandemig, neu ers i ni yn y gorllewin ddechrau ystyried cymryd y rhybuddion o ddifrif beth bynnag. Mawrth 23 ddaeth y clo mawr, wrth gwrs, ond erbyn y Chwefror dw i’n cofio gwylio’r newyddion o’r Eidal a dechrau poeni.
Bryd hynny, roeddwn i’n byw yn Aberystwyth ac yn astudio am radd feistr mewn Hanes Cymru, a dw i’n cofio'r rhyddhad o gyrraedd Bronaber, a ’Stiniog yn agor o’m mlaen i, ar ôl sgrialu hi fyny’r A487 ar noson y cyhoeddiad mawr, yn poeni y bysa ryw heddwas yn fy nhroi i’n ôl am Aber ac y byddai’n rhaid treulio misoedd mewn tŷ stiwdants oer oedd prin yn gweld golau’r haul. Ta waeth, gyrhaeddais i Gwm Teigl efo llond boot o bethau, gan gynnwys, am ryw reswm od, y peiriant gwneud toasties - jyst y peth mewn argyfwng.
 |
Cwm Teigl. Llun Paul W |
Flwyddyn yn ddiweddarach, gefais i waith fel gohebydd gyda golwg360. Â’r pandemig dal i ruo yn ei flaen, doedd prin un stori newyddion nad oedd yn sôn am Covid. Ar ôl ryw flwyddyn arall, gefais i ddechrau sgrifennu i gylchgrawn Golwg – swydd dw i dal i'w gwneud – a chanolbwyntio ar ddarnau ‘Ffordd o Fyw’, sy’n bopeth o straeon am fwytai, ffasiwn, siopau, bragwyr, gwyliau, safleoedd archeolegol... unrhyw beth difyr.
Daeth y pandemig ag erchyllterau fedrith y rhan fwyaf ohonom, diolch byth, fyth eu dychmygu. Ar y pegwn arall, cafodd rhai ohonom gyfle i ailfeddwl prysurdeb bywyd, i grwydro’n bro, i ailafael mewn heb ddiddordebau. Yn dal i fod, pan dw i’n cyfweld pobol ac yn gofyn sut ddechreuon nhw eu busnes neu eu diddordeb, mae canran uchel iawn ohonyn nhw’n sôn am gyfnod Covid. Fysa hi’n ddifyr iawn mesur yr effaith cymdeithasol gafodd y pandemig arnom yn iawn, a’r holl fywydau sydd wedi dilyn trywyddion cwbl wahanol yn ei sgil.
Debyg iawn na fyswn i fyth wedi dod yn ohebydd, nag felly’n hapus i olygu Llafar Bro (!), hebddo.
Siŵr eich bod chi’n meddwl pam fy mod i’n rhygnu ymlaen am rywbeth ddigwyddodd bum mlynedd yn ôl – hanes ydy ’mhethau i, cofiwch - ond mae o’n dod â fi at yr edmygedd oedd gen i tuag at bapurau bro a grwpiau cymunedol wnaeth ddal ati’n ddygn yn ystod y cyfnod. Mae’n glod i wirfoddolwyr ym mhob rhan o’r wlad bod y traddodiadau hyn wedi dod drwyddi, a braf oedd cael gair o ganmoliaeth gan yr awdures Manon Steffan Ros yn ddiweddar.
“Er ’mod i ddim o’r ardal nac erioed wedi byw yno, mae gwefan Llafar Bro yn un o fy ffefrynnau. Gymaint o hanes difyr arno fo. Parch mawr at y rhai sy’n ei gynnal/sgwennu.”
Diolch Manon am y nodyn hyfryd, a chofiwch fod dros 1,100 o hen erthyglau gan lawer o golofnwyr ar y wefan os ydych chi awydd pori rywfaint ar yr archif.
Nodyn hefyd i orffen am un o fy addunedau blwyddyn newydd y soniais amdanyn nhw yn rhifyn Ionawr. Diolch i’r rhew, wnes i ddim symud y car am tua deng niwrnod cyntaf y flwyddyn felly dyna’r addewid i ddefnyddio llai arno'n cael tic. Gobeithio bod pawb wedi dod drwy’r tywydd rhewllyd a garw’n iawn, a chyda gobaith cawn adael y gwaethaf o’r gaeaf rŵan!
Cadi Dafydd
- - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025