11.9.22

BRIWSION: Blas y Tir

Ychydig o hyn, llall, ac arall am hen arferion prynu a gwerthu Bro Stiniog, o nodiadau’r diweddar Emrys Evans. Diolch i’r teulu am ganiatâd i’w cyhoeddi. Bu’r Sioni Winwns yn y newyddion yn ddiweddar, gan fod eu cyfnod yn gwerthu eu cynnyrch yng Nghymru wedi dod i ben, diolch mae’n debyg i fiwrocratiaeth Brecsit aballu. Roedd y Sionis ‘lleol’ yn un o’r meysydd yr oedd Emrys wedi sgwennu amdanyn nhw, ymysg ei gofnodion am yr ardal.

Nionod o Lydaw
Yn yr hydref deuai dynion o bob oed trosodd o Lydaw i werthu nionod, a deuent o ddrws i ddrws i gynnig cadweini i wraig y tŷ. Golygfa ddigon cyffredin oedd gweld y ‘dyn nionod’, ei iau dros ei ysgwydd a chwech neu wyth cadwyn yn hongian ar ei dau ben yn curo’r drysau.  Wrth ymyl, yn pwyso ar wal byddai ei feic, a rhagor o gadweini arno.  Swllt a dimai fyddai pris cadwan o nionod yn y dau-ddegau a’r tri-degau.  Fel arfer yr un rhai fyddai’n dod bob blwyddyn.  A’r un dyn fyddai’n dod i’r Manod am sawl blwyddyn.  Llydaweg neu Ffrangeg fyddai eu hiaith, a gwnai rhai ymdrech i gael rhywfaint o grap ar y Gymraeg. Cynigiai un oedd yn dod o gwmpas y Manod yn y dyddiau cynnar ei nionod gyda’r cwestiwn: “Nionod, Mari Bach?”   ‘Roedd pob merch yn ‘Mari Bach’ ganddo, ac aeth pobl i’w alw yntau yn ‘Nionod Mari bach’.   Yr unig gyfnodau pryd y collwyd cael nionod Llydaw oedd blynyddoedd y ddau Ryfel Byd – 1914-1918 a 1939-1945, gan na allent hwylio drosodd i Gymru     

 

Tatws Morfa Bychan
‘Roedd blas arbennig ar rhain, a byddai disgwyl eiddgar am weld ceffyl a throl tyddynwr neu ddau arferai ddod i fyny i’r ardal yn flynyddol, a buan iawn y byddai’r newydd yn mynd o dŷ i dŷ i gyhoeddi eu bod wedi cyrraedd. Gan fod Morfa Bychan ar wastad y môr ‘roedd pethau’n aeddfedu’n gynharach nag yn ardal Ffestiniog.  Wedi bod yn bwyta hen datws drwy’r gaeaf, amheuthyn iawn oedd cael tatws newydd yn y gwanwyn.  Ond hefyd, ‘roedd blas cwbl arbennig iddynt.  Y rheswm am hyn, medd rhai, oedd am eu bod yn cael ei tyfu mewn pridd tywodlyd a gwymon y môr wedi ei roi yn y rhychau yn wrtaith. Ond ‘roedd ansawdd arbennig i’r dysen hefyd – ‘roedd lliw cochaidd ar ei chroen, ac yn dysen sych a blawdiog. Oherwydd hyn gelwid hwy yn “Tatws Cochion Bach Morfa Bychan”.

Llefrith
Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd byddai gwas ffarm Can Coed Isa yn dod i fyny o Faentwrog i Ffestiniog mewn trol a cheffyl i werthu llefrith. Byddai’r llefrith mewn dwy ‘sten lefrith enfawr ym mhen blaen y drol, ac yn cael ei fesur mewn peintiau a chwartiau. ‘Roedd hwn yn lefrith oedd wedi ei odro y bore hwnnw. ‘Roedd y gwas yn arddwr hefyd, ac yn eu tymor deuai a llysiau a ffrwythau yn y drol i’w gwerthu.  A chan fod tir Maentwrog yn fwy ffrwythlon, a phethau’n aeddfedu’n gynt nag yn ‘Stiniog, ‘roedd galw mawr am y llysiau hyn. 

Er fod ambell i rai lleol yn gwneud eu bywoliaeth drwy werthu llefrith o dŷ i dŷ, ac ambell i ffarm hefyd â rownd lefrith ganddi, ‘roedd gwas Can Coed Isa wedi gwneud ei le yng nghanol y cyfan a chyda’i siar o gwsmeriaid ffyddlon.  Yn yr hydref, pan fyddai’n adeg chwarae concyrs, byddem ni fel hogia yn closio at was Can Coed.  Gwyddem fod coeden gastanwydden neu ddwy ar y ffarm a bydden yn gofyn iddo ddod a rhai i ni.  Gwnai hynny, hefyd, chwarae teg iddo.

Llaeth Enwyn
Dydd Sadwrn -y bore yn amlach na dim- y deuai ffarmwr Pen y Bont, Gellilydan, gyda’i drol a cheffyl i werthu llaeth enwyn o gwmpas y tai.  Bu’n dod yn wythnosol felly yn ystod dauddegau a thridegau y ganrif ddiwethaf, ac eithrio ambell i fwlch pan fyddai’r gwartheg ddim yn llaetha’n ddigon da.  ‘Roedd ei laeth enwyn yn arbennig o dda a blasus – “yn fwyd ac yn ddiod” fel y dywedid.  Dyna fyddai ein ‘gwin’ ni gyda chinio dydd Sul. Gwneid ‘shot’ ohono hefyd ar gyfer te o’r chwarel ar dywydd poeth. 

Cig
Oherwydd cyflwr amaethyddiaeth mae llawer o ffermwyr wedi arall gyfeirio, ond nid rhywbeth newydd ydy hyn.  Byddai ambell i ffarmwr yn gwneud hynny ganrif a mwy yn ôl.  Arferai tenant Fferm Truan yng Nghwm Tryweryn droi’n gigydd ar ddyddiau Gwener a Sadwrn – Gwener i ladd a pharatoi y cig, a’r Sadwrn i ddod i dre’r Blaenau i’w werthu.  Bu’n gwneud hyn yn rheolaidd am lawer blwyddyn. Gan mai byw ar eu hadnoddau eu hunain fyddai ffermydd yn gyffredinol, ‘roedd ffermwyr wedi arfer lladd anifeiliaid i’w defnydd eu hunain.  Un cam ymhellach oedd ei gynnig ar werth i’r cyhoedd, a gwneud elw o hynny.   Golygfa gyffredin ar y Sadwrn oedd car a cheffyl y cigydd/ffermwr o flaen tŷ ni, ac yn galw mewn tai eraill o gwmpas.  Gan fod perthynas rhwng teulu Truan a’n teulu ni– ‘roedd gwraig Truan yn chwaer i nain (Hannah) , mam fy mam.      
(Y tro nesa: Blas y Môr)

- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2022  

(heb y llun, gan PaulW)

Ail hanner: BLAS Y MÔR
 

8.9.22

Llawer Mwy ‘na Llwybrau Beics

Mae Antur ‘Stiniog yn dathlu 10 mlynedd o weithredu fel un o fentrau a busnesau cymunedol mwyaf arloesol Cymru. 

Ers tywys y beicwyr cyntaf i ben mynydd cribau mae’r fenter yn cael ei chydnabod trwy Gymru fel un sydd wedi bod yn arwain y ffordd wrth fynd ati i fanteisio ar, ac ail-fuddsoddi arian sydd yn cael ei gynhyrchu gan ‘ymwelwyr’ er budd y gymuned leol. 

Gweledigaeth graidd y criw ymroddgar lleol o wirfoddolwyr sydd yn gyfrifol am Antur Stiniog ydi codi ymwybyddiaeth a dangos ei bod hi’n bosib i ni fentro a meithrin uchelgais fel cymuned wrth sicrhau bod asedau ac arian yn aros ac yn cylchdroi yn lleol.

Ers agor y llwybrau beicio mae’r Antur wedi defnyddio’r elw sydd yn cael ei gynhyrchu ar lethrau Cribau i ddatblygu a gweithredu nifer o brosiectau y tu hwnt i ‘dwristiaeth traddodiadol’ megis cynlluniau hyfforddiant i bobl ifanc a datblygu asedau ac eiddo cymunedol ar y stryd fawr.

Be nesa?

Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill yn y tymor byr a’r hir-dymor i gyd-weithio yn bellach wrth edrych ar ddyfodol ein stryd fawr a cheisio mynd ati i sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn economaidd a chymdeithasol, ac yn ateb gofynion y gymuned yn nhermau masnach, gwasanaethau, mwynhau a chymdeithasu.

Mae’r gwaith yma wedi cychwyn o ddifri yn diweddar gyda phrynu Siop Eifion Stores a sicrhau bod yr adnodd gwerthfawr yma yn parhau i fasnachu yn gynaliadwy wrth ateb gofynion y gymuned yn hytrach na chael ei werthu i rywun cefnog o’r tu allan, ei wagio, ei adael yn segur, ac yna’n dirywio.

Erbyn hyn mae cynlluniau cyffrous ar y gweill hefyd i ddatblygu nifer o eiddo segur ond pwysig ar y stryd fawr a byddwn yn trafod a gwrando ar syniadau lleol wrth fynd ati i’w datblygu. Mae’r rhain yn cynnwys Aelwyd yr Urdd, Siop Ephraim a Caffi Bolton.

- - - - - - - 

Ambell lun o'r dathliad a fu yn Siop Antur Stiniog ynghanol y Blaenau ar y 4ydd o Fedi 2022 (lluniau PaulW)

Estella


Y Cledrau




Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y lluniau) yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2022


4.9.22

Airbnblaenau

Erthygl gan Glys Lasarus Jones

Mewn adroddiad yn y Daily Post ychydig yn ôl, cyhoeddwyd fod yna gynifer â 321 o dai ‘Airbnb’ ym Mlaenau Ffestiniog. Mae’n debyg fod ‘Blaenau Ffestiniog’ yn cynnwys y pentrefi cyfagos hefyd - Llan, Gellilydan a Maentwrog a Thrawsfynydd. Mewn ffordd – holl ddalgylch Llafar Bro

Ond beth bynnag am faint yr union ardal dan sylw, mae’r nifer yn rhyfeddol o uchel, o ystyried mai dim ond 37 o lety airbnb sydd gan Feddgelert, ac mai dim ond 322 sydd yn ardal y llynnoedd gyfan yng ngogledd Lloegr. 

Cwmni Americanaidd yw Airbnb a sefydlwyd gan ddau gyfaill a gafodd y syniad o roi gwely aer ar lawr eu parlwr a chynnig llety gwely a brecwast. A dyna esgor ar enw’r cwmni, ac ar y model gwreiddiol o osod lle gwag yn eich tŷ i ymwelwyr, a gwneud ychydig bres poced drwy hynny. Ac mewn ffordd, does dim byd newydd yn hynny. Bu amryw o’r hen Gymry yn ‘cadw fisitors’ yn eu cartrefi yn ystod yr haf er mwyn dod ag ychydig arian ychwanegol i’r aelwyd. Hwyrach mai ‘twristiaeth gynaliadwy’ yw’r enw modern ar hynny?

Fodd bynnag, gyda llwyddiant aruthrol cwmni Airbnb, gwelwyd twf yn nifer y bobl yn prynu tai i’w gosod allan yn unswydd i ymwelwyr. A gyda hyn daeth sgileffeithiau eraill. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn 2017 er enghraifft, canfuwyd fod cynyddu niferoedd llety airbnb o 10% mewn ardal yn gyfrifol am chwyddo rhenti wrth 0.4 % a phrisiau tai wrth 0.76%. Efallai yr ymddengys y canrannau hyn yn bitw, ond i’w rhoi mewn cyd-destun – os yw nifer y tai airbnb yn codi o 4 i 8 mewn ardal, byddai tŷ yn codi 4 y cant yn ei rhent a 7.6% yn ei bris gwerthu.

Problem arall a welwyd yw diffyg cartrefi i’w rhentu wrth i fwy o bobl ddewis droi eu tai yn lleoedd gwyliau. Ac o synnwyr busnes di-gydwybod, mae’n gwneud perffaith synnwyr – pam bodloni ar £500 y mis drwy osod tŷ i drigolion hirdymor, pan ellid cael £500 yr wythnos o’i osod i ymwelwyr? Ac ar y pegwn eithaf, gwelwyd pobl yn cael eu troi o’u tai gan fod ar y landlord eisiau gosod y tŷ fel airbnb. 

Gwelwyd protestiadau am effeithiau negyddol fel y rhai hyn mewn dinasoedd fel San Francisco a Barcelona, a gwelwyd y dinasoedd hynny’n ymateb drwy gyflwyno rheoliadau llym. Y llynedd, er enghraifft, bu i Barcelona wahardd gosod ystafelloedd mewn cartrefi yn llety gwyliau dros dro, a hyn yn ychwanegol at roi’r gorau i gyflwyno rhagor o drwyddedau sy’n caniatáu troi adeilad yn llety i ymwelwyr. 


 

Yma’n benodol yn nalgylch Llafar Bro, gwelsom y newid diwylliannol sy’n dod gyda throi tai yn llety gwyliau, gyda llawer yn cael eu hailfedyddio ag enwau estronol digon cyfoglyd. Aeth Pen y Cae yn ardal Fuches Wen o’r Blaenau yn ‘Stars and Clouds Cottage’, aeth Tyddyn Cwtyn gerllaw yn ‘Waterfall Cottage’, ac aeth un o fythynnod Tan y Rhos ar y ffordd allan o’r Blaenau i gyfeiriad Llan yn ‘Under Moor’. Ceir hyd yn oed ‘Explorer’s Cottage’ yn Nhanygrisiau. 

Wrth i Lafar Bro fynd i’r wasg, daeth newyddion o’r Senedd yng Nghaerdydd am fesurau newydd fydd yn rhoi grymoedd i awdurdodau lleol fynnu caniatâd cynllunio i droi cartref yn llety gwyliau, fel modd o reoli eu niferoedd. Mae ffordd bell i fynd eto, a does dim gwadu fod y broblem yn un gymhleth iawn. Serch hynny, gobeithio y bydd y mesurau newydd hyn yn fodd o gadw gwell cydbwysedd rhwng twristiaeth a’r manteision economaidd y mae’n ddiau yn eu cynnig, a galluogi cymunedau i fyw a ffynnu.
- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Gorffennaf-Awst 2022.

Ail ran, o rifyn Medi.


(Lluniau: nid yw manylion hawlfraint y lluniau yn hysbys. Daeth yr ail o dudalen facebook Hawl i Fyw Adra. Os mae chi yw'r ffotograffydd ac yn anfodlon i ni rannu, neu eisiau ychwanegu eich enw, cysylltwch â ni. Diolch)


Does Unman yn Debyg i Gartref

Wnes i ddim rhoi llawer o goel wrth glywed pobl yn dweud ers talwm fod amser yn mynd yn gynt wrth i rywun fynd yn hŷn. Dwi’n gwbl grediniol erbyn hyn mae gwir y gair: nid ofergoel nac ystrydeb ydi’o! Mae amser YN hedfan.

Ond mae’n braf cael bod yn ôl yn y gadair olygyddol a chael cyfle unwaith eto i werthfawrogi’r cyfoeth o weithgareddau cymunedol sy’n digwydd yn ein bro, a chydweithio efo llu o awduron a cholofnwyr a gohebwyr cymwynasgar a dawnus.

Fel bob blwyddyn, pan ddaw fy nhro i fel golygydd eto, aeth yn brysur arna’i braidd dros benwythnos cyntaf y mis, rhwng ymuno â rali annibyniaeth Wrecsam, mwynhau Gŵyl Car Gwyllt, a darllen a golygu’r wledd o ddeunydd ddaeth i law ar gyfer y rhifyn hwn. Gobeithio’n wir y cewch flas ar y darllen.

Er gwaethaf y ras yn erbyn y cloc, dwi wedi mwynhau ymuno efo’r cloddio yn Llys Dorfil yn ddiweddar, ac mi welwch yng ngholofn Blaenau fod dau gyfle i bawb ymweld â’r safle i weld a chlywed am y gwaith hynod ddifyr mae’r Gymdeithas Archeolegol yn wneud yno.

 

Rhywbeth arall sydd wedi bod wrth fy modd yn ddiweddar ydi ymweld â Llyfrgell y Blaenau i bori trwy’r casgliad cyflawn o rifynnau Llafar Bro sydd ar y silff yno, wedi eu rhwymo’n drefnus fesul blwyddyn. Piciwch i mewn i’w gweld; dyna le i golli oriau!

Fel tad i dair o ferched, mae’n naturiol fod sefyllfa’r farchnad dai yn achosi pryder. Sut goblyn fedr pobl ifanc ein hardal brynu eu cartrefi eu hunain, yn eu cymuned, a’r prisiau wedi codi tu hwnt i bob rheswm, a phobl o’r tu allan yn eu prynu dros y ffôn cyn i neb arall gael cyfle i’w gweld weithiau? 

Mae’r manylion am niferoedd Airbnb yn lleol yn ddigon i ddychryn rhywun. Braf felly oedd clywed y newyddion fod Llywodraeth Cymru -o’r diwedd- yn cyflwyno mesurau ymarferol i ganiatâu i gynhorau sir reoli’r niferoedd o ail gartrefi a thai gwyliau mewn cymuned. Maen nhw hefyd yn mynd i gyflwyno trefn i drwyddedu pob llety Airbnb a’u tebyg, yn ogystal ac ystyried ailgyflwyno’r egwyddor fod cynghorau yn medru cynnig morgeisi i brynwyr cyntaf. Ychydig ddyddiau cyn hynny, datgelodd Cyngor Gwynedd eu bwriad i brynu tai gweigion trwy’r sir er mwyn eu hadnewyddu a’u gosod am rent teg i bobl leol. Newyddion ardderchog, bob un...  

Rhy ychydig; rhy hwyr o bosib? 

Yn reit siwr, fydd yna ddim newyddion da yng nghanlyniadau cyfrifiad 2021 am siaradwyr Cymraeg. Er hyn, gallwch fentro y bydd ambell gyngor mwy ceidwadol yn anwybyddu’r pwerau newydd yn llwyr. 

Does dim byd yn newydd ar yr hen ddaear ‘ma, nagoes. Wrth bori yn archif Llafar Bro, mi welais nifer o enghreifftiau o bryderon am y dai lleol yn y gorffennol hefyd, er enghraifft y frwydr yn erbyn y bwriad i brynu llawer o dai yn Heol Jones, Y Blaenau gan awdurdod o ochrau Lerpwl ym 1977. Ac roedd prif erthygl rhifyn 5 yn Chwefror 1976 yn adrodd bod “dros 50 o dai haf gan bobl ddiarth yma yn Nhanygrisiau”, a’r “mwyafrif o dai Dolrhedyn yn dai haf”. 

Meddyliwch: petai’r awdurdodau wedi talu sylw a gweithredu bryd hynny, efallai y byddai’r sefyllfa ddim mor enbyd heddiw, bron hanner canrif wedyn!
Gallwn ond gobeithio y daw haul ar fryn yn y mater yma’n fuan iawn.

Cyn i mi fynd i stêm, calla dawo mae’n siwr. Wedi’r cwbl, rwan fy mod yn cau pen y mwdwl ar waith Llafar Bro am rwan, mae gen’ i ffa i’w blingo a chwyn i’w codi yn yr ardd; mefus i’w troi’n jam; mae’r Moelwynion yn galw; y ffenestri angen eu golchi; a thwmpath o lyfrau’n dal i aros i mi eu darllen... stopiwch y cloc am ychydig wir!

Yn y cyfamser, daliwch i gredu gyfeillion.                         PW.

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol fel colofn olygyddol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2022


3.8.22

Cywiriadau rhifyn Gorffennaf-Awst

Diolch i Aled am dynnu'n sylw at gamgymeriad golygyddol yn ein darn am Ŵyl Car Gwyllt eleni:
Y band JD & Co (llun isod) wnaeth gloi'r ŵyl eleni yn y Tap, nid Twmffat fel adroddwyd.


Hefyd, ymddiheuriadau am roi'r dyddiad anghywir ar gyfer taith y Gymdeithas Hanes yn Rhiwbryfdir. Mae'r dyddiad yn gywir mewn dau le arall yn y papur ond bu llithriad yng ngholofn Rhiw a Glanypwll.
Y manylion cywir wrth gwrs yw:
Nos Fercher, Medi 21ain. 

Cyfarfod yn y gilfan fach ar Ffordd yr Hen Ysbyty ger caeau Dolawel am 5 y.h.