11.10.25

Chwilio am hen fynwent

Bu llawer o sylwadau am fynwent yn Llys Dorfil, ond gyda'r holl wybodaeth uwch-dechnegol wrth law -gan gynnwys arolwg geo-ffiseg ac electro-magneteg yno eleni, a lluniau awyr arbennig gan ddau gymwynaswr lleol, ni ddarganfuwyd unrhyw olion beddi gan Gymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog, dros yr wyth tymor diwethaf o gloddio. 


 Bu cyfeiriadau at “8 neu 9 o feddau” mewn cyhoeddiadau gan y Parch. Owen Jones yn ei gyfrol ‘Cymru: Yn Hanesyddol, Parthedegol, a Bywgraphyddol’, Cyfrol 1, 1875, tudalen 349. Gan W. Jones, Ffestinfab, yn ‘Hanes Plwyf Ffestiniog a’r Amgylchoedd’, 1879, t38. Hefyd gan G. J. Williams, yn ‘Hanes Plwyf Ffestiniog o’r Cyfnod Boreuaf’, 1882, t35. A gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Rhestr. V1 Sir Feirionydd. Plwyf Ffestiniog, t35.

Mae camgymeriad mawr wedi ei wneud gan y cofnodydd cynharaf, Owen Jones, lle gafodd y pwyntiau cwmpawd (gogledd, de, ac ati) yn hollol anghywir,  ac efallai fod hyn wedi bod yn help i ffwndro beddladron.

Yn ein hymdrech i ddarganfod y fynwent agorwyd tair ffos archwilio eleni, wedi eu cloddio â llaw, yn 12m o hyd ac 1m o led, ac i lawr i’r clog glai, ond heb ddim canlyniad. Roedd y clog glai yn rhyw 40cm o ddyfn.  

A oes gan unrhyw un wybodaeth neu syniadau am leoliad y fynwent neu ffurf y beddau? Gadewch i ni wybod! Mary a Bill Jones

Lluniau Gerwyn Roberts 


Mae’n debygol mae dyma dymor cloddio olaf y Gymdeithas ar y safle aml-gyfnod, hynod ddifyr yma. Diolch i’r Gymdeithas am eu llafur cariad gwirfoddol i helpu pobl Stiniog ddeall mwy am ein gorffennol. Cofiwch y bydd cyfle i bawb ddysgu mwy am Lys Dorfil, a gwaith y gwirfoddolwyr yno, yn arddangosfa ddathlu 50 Llafar Bro yn llyfrgell y Blaenau o Hydref 11eg tan y Nadolig. Galwch heibio!  PW

- - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2025

Dyfal Donc- diwedd tymor 2024

 

 

10.10.25

Iaith a Gwaith

Roedd sylw yn rhifyn Gorffennaf/Awst (Ydi'r ZIP yn Agored i Syniadau'r Gymuned?) i’r galwadau am greu Cronfa Gymunedol, yn sgil cais cwmni Zip World am dros £6miliwn o bres cyhoeddus. 

Y ddadl ydi fod y cwmni hwn yn ddigon cyfoethog i beidio gofyn am grantiau gan y llywodraeth -sydd yn y pen draw yn bres yr ydych chi a fi wedi talu mewn trethi! Ac y dylian nhw rannu rhan o’u elw efo’r cymunedau lle maen nhw’n gweithredu. 

 

Ers hynny mae’r cwmni wedi bod yn y newyddion eto, y tro hwn yn dilyn adroddiad ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Awst ('Five indicators and two questions about wages and conditions at Zip World' gan Foundational Economy Research 

-ar gael i’w lawrlwtho o wefan FERL). 

 

Prif neges yr adroddiad ydi fod rhwng 85% a 93% o weithwyr Zip World yn Llechwedd a Chwarel y Penrhyn, yn 2024, wedi bod ar gontract ‘zero hours’; hynny ydi, does gan y staff ddim sicrwydd o wythnos i wythnos faint o oriau fydden nhw’n weithio. 

Mi edrychodd yr ymchwilwyr ar hysbysebion y cwmni am swyddi newydd dros gyfnod o bythefnos o’r 27ain Mai at 10fed Mehefin 2025, a’u cymharu efo cyflogwyr eraill sy’n gweithredu yn y maes ymwelwyr. Yn y cyfnod hwnnw roedd 80% o’r swyddi a hysbysebwyd gan Portmeirion yn rai llawn amser, a dim un yn ‘zero hours’, tra oedd Zip World yn hysbysebu dros 60% o’r swyddi yn rhai ‘zero hours’, a dim ond un swydd lawn amser.

Mae cyflogau isel ac ansicr yn ei gwneud yn anodd i weithwyr gynllunio eu gwario, ac hefyd yn medru tanseilio economi cymunedau Cymraeg eu hiaith.

Heb os, mae swyddi llawn amser a chyflogau da yn hanfodol i gadw pobl ifanc yn ein cymunedau!
Os nad ydych wedi cyfrannu sylwadau i’r ymgynghoriad am gronfa gymunedol, holwch cynghorydd.elfedwynapelwyn@gwynedd.llyw.cymru   am becyn gwybodaeth.

- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2025
 

8.10.25

Dathlu 50 oed!

Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Llafar Bro yn Hydref 1975. Mi fydd rhifyn Hydref 2025 felly yn nodi hanner can mlwyddiant o gyhoeddi Papur Misol Cymraeg Cylch Stiniog! 


Rydym yn dal i gyhoeddi 11 rhifyn y flwyddyn, a hynny yn gwbl wirfoddol. 

Mae tua 40 o bobl yn cyfrannu bob mis, fel gohebyddion, aelodau'r pwyllgor, dosbarthwyr, golygyddion, colofnwyr ac ati.

Fel modd o ddathlu’r garreg filltir yma mae is-bwyllgor o griw ein papur bro wedi bod wrthi’n trefnu arddangosfa yn llyfrgell y Blaenau, ac wedi gwahodd y Gymdeithas Hanes a’r Gymdeithas Archeoleg i rannu’r gofod efo ni. 

Bydd yr arddangosfa’n agor ar yr 11eg o Hydref, ac yno tan y Nadolig. Gobeithiwn y medr pob un ohonoch alw i mewn i ddangos cefnogaeth, a chodi’n hyder bod angen papur bro am hanner canrif arall.